Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brotestio

brotestio

Ionawr 1997 Meddianwyd Swyddfa'r Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd -- William Hague -- yng Ngogledd Lloegr i brotestio'n erbyn rheolaeth ar Gymru o Loegr.

Arweiniodd y siom at brotestio tanbaid.

Gwingodd wrth i'w ysgwydd brotestio'n fileinig.

Ymgasglodd bron i 200 o bobl ar strydoedd Caerdydd dydd Sadwrn (Ionawr 6ed 2001) i brotestio dros Ddeddf Iaith Newydd a'r diffyg Cymraeg ar strydoedd trefi a dinasoedd Cymru.

Wrth i Adam orfodi'r car i mewn i gêr arall, ac i'r injan brotestio'n chwyrn, dechreuodd Gareth boeni o ddifrif am y posibilrwydd hwnnw.

Rhoi rhyw gyngerdd bach i ddau filwr sy'n unig ac ymhell o'u cartref." Ond cyn ­ Jean Marcel gael cyfle i brotestio, ychwanegodd yn sydyn, "Rwyt ti am i ni gael y bwyd yna sydd wedi ei ddwyn oddi arnon ni'n ôl yn dwyt?"

Mae Dafydd Rowlands yn dychwelyd at y thema o barodrwydd yr ifainc i brotestio a dioddef er mwyn eu hachos.

Daeth 2,000 ac wedyn 4,000 i ralïau mawr yng Nghaerdydd, a dechreuodd pob math o bobl dorri'r gyfraith wrth brotestio dros Ddeddf Iaith Gyflawn.

Ond fe ddywedodd Owain Williams, cadeirydd Cymru Annibynnol, y bydden nhw'n cadw golwg ar y sefyllfa yn y dyfodol, ac y byddai rhagor o brotestio pe bai yna fwy o broblemau yn deillio o'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

Ond cyn i'r un ohonynt gael amser i brotestio, dyma'r gath yn sgrechian, 'Dyma'r ail gamgymeriad i chi ei wneud, wrachod!

Y tro cyntaf gweithredais dros Gymdeithas yr Iaith, daeth y galwad o ddyn a oedd wedi'i ddal am drosedd gyrru, ac roedd e am brotestio am dderbyn yr un fath o driniaeth.

Yn ystod yr Eisteddfod yn Abergele llynedd, torrodd Branwen Nicholas a Sioned Elin i fewn i Swyddfa Etholaeth Rod Richards, yr Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, i brotestio yn erbyn polisïau addysg y Torïaid.

Felly, er fy mod yn poeni am 'safon' iaith fel ein sylwebyddion, y tu fas i'r Cynulliad Cenedlaethol / Cyngor Sir / Cymdeithas Adeiladau / Cwmni Ffôns Symudol y mae lle Cymdeithas yr Iaith i brotestio o hyd; ac nid trwy gynnal darlleniadau cyhoeddus o Ramadeg y Gymraeg yn y gobaith y bydd rhywrai'n cael eu hadfer i ddefnyddio'r treigliad llaes yn ei holl ogoniant.

Cynhaliwyd y rali i brotestio yn erbyn gwerthu awyrennau Hawks i Indonesia, a hyfforddi'r peilotiaid yn y Fali - mae Indonesia wedi bod yn defnyddio'r awyrennau i ormesu pobl Dwyrain Timor, ac wedi lladd traean o'r boblogaeth yno ers 1975.