Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

broydd

broydd

Ar rai adegau o'r flwyddyn, ni welid un arlliw o Doctor Jones yn y broydd.

Byddai hyn, meddant, yn sicrhau y rhyddid cyflawnaf posibl i Brotestaniaid yn y broydd lle maent yn y mwyafrif a'r un modd byddai'r Pabyddion yn mwynhau'r un rhyddid yn eu hardaloedd hwy.

I rywun â chryn gydymdeimlad, fel oedd gan Symons, roedd amgylchiadau broydd gwledig a diwydiannol Cymru yn adwythig eu dylanwad.

Mae barddoniaeth Gymraeg yn aml wedi canmol harddwch broydd arbennig.

Fel y mae y pedwar cwt yn nodweddiadol o'u broydd a'r eglwys yn nodweddiadol o 'Wlad Llŷn', y mae'r portreadau hyn o Lydaw hefyd yn nodweddiadol.

Nid yng Nghymru'n unig y cafwyd y math yma o amgylchiadau cymdeithasol a'u canlyniadau alaethus ar addysg - dyna oedd profiad cyffredin bron pob un o'r broydd ffatri%ol neu lofaol trwy Loegr benbaladr, a hynod o debyg oedd y geiriau a ddefnyddid yn adroddiadau'r arolygwyr ysgolion i'w disgrifio hwythau - broydd fel swydd Stafford a'r 'Black Country' drwyddynt draw, a rhannau o swydd Durham a siroedd gogledd Lloegr, ac wrth gwrs, trefi mawrion a dinasoedd Lloegr.

Mae'n wir y gallasai cydweithrediad cynghorau sir Gogledd Cymru fod wedi codi trefn well er budd i'w broydd chwarter canrif yn gynt.