Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brwdfrydig

brwdfrydig

Yr oedd bob amser yn sgwrsiwr brwdfrydig - er mawr bryder i'r sawl oedd yn cael ei gludo yn ei gar!

Felly mae'n ofynnol i addysg Gymraeg ymateb yn ystyrlon a brwdfrydig i'r dimensiwn galwedigaethol hwn.

yn dangos mor hanfodol yw cymorth tîm o weithwyr cenedlaethol a sirol brwdfrydig sydd yn medru cario athrawon (a phrifathrawon) eraill gyda nhw.

Ymgasglodd pawb y tu allan i'r Llyfrgell Genedlaethol (sumbol o ddyheadau'r genedl ar ddechrau'r ganrif, a lle mae nifer o'n haelodau mwyaf brwdfrydig yn gweithio) i alw am ddeddf a fyddai'n gwireddu ein dyheadau yn y ganrif newydd hon.

O ddarllen yr holl eiriau brwdfrydig a ysgrifenwyd am Catatonia dros y blynyddoedd, maen anodd gweld sut fedren nhw fod wedi methu, gyda'r cyfuniad o bop slic a gallu cerddorol gadarn.

Gobeithiwn y byddwch yn datblygu'n athrawon ymroddedig a brwdfrydig a fydd yn ceisio hybu dysgu gwyddoniaeth fel profiad sydd yn cyfoethogi'r unigolyn ac fel pwnc sydd o bwys yn ein bywyd beunyddiol ac yn berthnasol iddo.

Yn wyneb hyn oll, a'r gwasgar a fu ar y gweithwyr ym Maulvi Bazaar o'i achos, gofidiwn yn ddirfawr nad yw Mr Jones yn ymddangos yn teimlo fod unrhyw radd o gyfrifoldeb arno ef am yr hyn a ddigwyddodd, nac yn datgan unrhyw ofid am ei ymddygiadau a'r anghysur a achosodd i eraill; a rhaid i ni ychwanegu ein bod yn rhyfeddu at dôn a chynnwys ei lythyrau diweddaf yn roddi adroddiad mor galonnog a brwdfrydig am y gwaith ar yr orsaf.' Haerid fod Pengwern wedi dweud ei fod 'yn teimlo ei fod yn gwneud i fyny'r hyn sy'n ôl o ddioddefiadau Crist' bryd hyn.

Mae brandio holl gynnyrch BBC Cymru ar S4C wedi ei gryfhau mewn modd cynhwysfawr a brwdfrydig.

Pe gellid dangos bod y disgyblion hyn yn fwy brwdfrydig ynghylch dysgu iaith o ganlyniad i newid dulliau, yna byddai'r achos dros ddiwygio gymaint â hynny'n gryfach.

Wrth i'w cynulleidfaoedd chwyddo, tyfai'r gweinidogion yn fwyfwy dylanwadol, a daeth yr ardal ddiwydiannol yn faes cenhadaeth deniadol i ŵyr brwdfrydig a dysgedig megis Thomas Rees, Cendl, Noah Stephens a Robert Ellis (Cynddelw), Sirhywi, John Jones (Ioan Emlyn), Glynebwy a William Roberts (Nefydd), y Blaenau.