Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brwsh

brwsh

Diffinir y cae yn y cefn mewn strociau tew cyllell balet, y blaendir ag ysgubiadau lletach a mwy fflat, ac yna ar gyfer yr awyr gwaith brwsh yn sgrwbio'r paent yn fflat.

Y cwbwl oedd ynddo oedd crys nos, brwsh dannedd, taclau shafio a phâr o slipers.

Rhoes y brwsh yn y bwced a honno ar lawr.

Yna'r tir yn y pellter yn ddim ond golchiad fflat o rug porffor, ond y blaendir yn wyrddach ac wedi ei rannu'n ddau gan lon wledig, droellog, a dim ond twts o waith brwsh yn awgrymu'r llwyni a'r glaswellt.

Os gweithiai ei thric hi, byddai bob brwsh a chlwt yn segur yn yr Hen Reithordy drannoeth.

Roedd ganddo bwced yn y naill law a brwsh sgwrio yn y llall.