Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bryderu

bryderu

Doedd ei dad byth wedi dod adref a gwaith go ddiflas fyddai ceisio cysuro ei fam wrth iddi bryderu ynglŷn a chyflwr ei gŵr meddw.

Fodd bynnag, fe ddylai etholwyr syn byw yn y gogledd bryderu nad oes ynar un aelod o'r Cynulliad yno y mae Rhodri Morgan yn ei ystyried yn ddigon galluog i eistedd o amgylch yr un bwrdd ag ef.

Yn ôl BNFL, perchnogion yr atomfa, does yna ddim rheswm i bryderu.

Cymysg yw'r darlun cyfan: lle i obeithio yn sicr, ond lle i bryderu hefyd.

Roedd yn storm filain a ddeuai'n nes o hyd ac eisteddodd ar reiddiadur tra'n egluro i'r plant nad oedd rhaid iddyn nhw bryderu ac y gellid cyfrif mewn eiliadau i fesur y pellter rhwng y storm a'r ysgol.

Yn wyneb yr uchod, mae'n amlwg fod lle i bryderu o ran trosglwyddiad iaith.

Ni bu raid iddo bryderu yn hir oherwydd, fel y camai dros y trothwy,cafodd groeso mab afradlon.

Y mae lle inni i gyd bryderu pan welwn hen werthoedd traddodiadol yn diflannu.

Roedd y rhain wedi bod mor deyrngar i'r llw a dyngwyd i Hipocrates nes eu bod, y rhan fwyaf ohonynt, yn medru rhoi llawer mwy o sylw i anghenion y rhai cyfoethog oedd yn llawer mwy tebyg o ddioddef o ddiffyg traul na'r dica/ u oedd yn sgubo fel pla drwy rengoedd y rhai na fedrai fforddio bwyta digon, i bryderu ynghylch diffyg traul.