Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brydferth

brydferth

roedd y ddwy ferch yn gallu symud a chymdeithasu ym madrid heb unrhyw broblem am eu bod nhw'n brydferth ac yn ddieithriaid.

Ac wrth ddynesu at fro'r goleuni gwelsom olygfa brydferth annisgwyliedig.

Tynnodd neb ei llygaid oddi arni tra'n ei gwylio'n cynhyrchu tri threfniant gwahanol, pob un yn brydferth.

Rhy ifanc a rhy brydferth i'w chau ei hun yn y mynyddoedd - nid ei geiriau hi oedd rhain eithr geiriau Hywel Vaughan ei hunan.

Agorwyd arch Ann Parry eto, ac er mawr syndod i'r ardalwyr, arhosai eto heb lygru ac mor brydferth ag erioed.

Ond mae'n brydferth yn yr haf hefyd.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

Disgrifiwyd y sgwnerau hyn, y Western Ocean Yachts, fel llongau "eithriadol o brydferth, ar lawn hwyl neu wrth angor; yn wir, y rhai prydferthaf yn hanes llongau hwylio%.

Erbyn heddiw cerddodd y Khmer Rouge Comiwnyddol i fewn i'r wlad brydferth hon ac ar ôl rhyfel erchyll o ladd ac ysbeilio creulon fe'i trowyd ganddynt hwy yn wlad gomiwnyddol a newidiwyd ei henw wedyn i Kampuchea.

"Dydi awyr las a golygfa brydferth ddim yn llenwi bol neb," atebodd Tom yn chwerw.

Arfordir rhyfeddol o brydferth - rhes o gilfachau'n ymwthio i ystlys y tir sych, a'r ffordd yn ymdroelli gannoedd o droedfeddi uwchlaw iddynt.

Darganfu'r ffordd i'r ystafell fwyta lle y gorfu iddo rannu bwrdd gyda phar ieuanc nad oedd ganddynt fymryn o ddiddordeb ynddo, ond a barodd iddo ddyheu am gwmni merch brydferth.

Mae Kampuchea'n wlad brydferth a thoreithiog ac anodd oedd credu, pan es i yno, fod y wlad bymtheng mlynedd ynghynt wedi diodde' newyn mawr a'i phobl wedi byw drwy gyflafan erchyll a gormes mawr.

Nid yn unig y mae Cymru yn wlad eithriadol brydferth; y mae hi hefyd yn wlad hwyliog iawn.

Diolchwn i Ti am ein gosod i fyw mewn bydysawd mor brydferth.

Mae hi mor brydferth yna, heb ei gyffwrdd gan law dyn, fel 'tae, neu o leia mi ddylia fo fod heb ei gyffwrdd.'

Gan aros ym maes y "gêm brydferth", y cewri cynnar oedd ar Pêl-droed y Celt (Concordia/S4C) yr wythnos hon gan gychwyn gyda'r athrylith o'r Waun, Billy Meredith.

`Nawr, edrychwch,' meddai Mr Henrickse, `mae eglwys brydferth iawn gyda ni yma.

Nyni y Cymmrodorion a ddatguddiwn i'r byd werthfawrogrwydd yr hen Iaith hon, mewn lliwiau mor brydferth, ag y bydd ei chyfri rhagllaw yn anrhydedd ei siarad ym mhlith Dysgedigion a Dyledogion y Deyrnas, ie, yn llys y Brenin, mal yr arferid gynt.

Mawrygwn Di am y cyfansoddwyr cerddoriaeth o lawer oes a llawer gwlad a roddodd inni gyfryngau mor brydferth i'th foli.

Yn ddiau, nid swyddogaeth fawr barddoniaeth yw perarogli a cheisio tragwyddoli cyfeiliornadau, ond yn hytrach rhoi corfforiad newydd i egwyddorion, a gwisgo gwirionedd mewn diwyg newydd brydferth.

Cyraeddasom dref brydferth Mbale wrth odre'r mynydd tua dau o'r gloch: o hyn ymlaen gorfod dringo'r ffordd droellog i fyny i'r uchelderau.

Roedd o eisiau dangos y gallai 'ddatblygu ar safle oedd yn naturiol brydferth heb arwain i'w hagru'.

'...yn enwedig cynffon mor brydferth ag un eich mawrhydi,' ychwanegodd Delwyn.

Darlunnir y math yma o obaith cenedlgarol yn brydferth yn stori'r Geni yn Luc.

Yma darganfyddwch fwy am yr ardal brydferth, gyda syniadau gwreiddiol am lefydd i ymweld a rhestr llawn o ddigwyddiadau.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.