Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brynhawn

brynhawn

Cafodd eu tynged nhw ei benderfynu gan Oldham brynhawn Sadwrn.

Ar ambell brynhawn Sadwrn yn yr haf âi â ni am dro i fyny at y Marchlyn am bicnic, ac yno ar lan y llyn adroddai hanesion am arwyr Cymru Fu wrthym.

Roedd yn arferol chwarae tair gêm mewn wythnos, sef brynhawn Mercher, y Sadwrn a'r Sul.

Ar ryw brynhawn gwlyb fe'm rhoddwyd mewn ystafell ar fy mhen fy hun i basio'r amser gyda thwr o ddisgiau gramoffon.

Daeth y gweinidog, brynhawn yr angladd, i'r parlwr cyn codi'r corff, a darllen pennod o'r Beibl darluniadol â'r clasbiau aur.

Ar nodyn fymryn yn fwy llawen, llongyfarchiadau i Paccino am fod y grwp gorau yn yr Esiteddfod Roc yn Aberystwyth brynhawn Gwener.

Cafodd Alice brynhawn blinedig yn cerdded siopau ond bu'r cyfarfod busnes a gafodd ei gŵr yn un hynod lwyddiannus.

A dyna ni wedi sôn am Colin Stephens: onid llawenydd pur yw i ddyn weld maswr yn rhedeg fel y gwnâi hwn brynhawn Sadwrn?

'Y broblem - fel mae Dylan wedi son - yw cael pobol i ddod i'r gemau ar brynhawn Sadwrn ar y funud.

Mae posibilrwydd y bydd cyn-ganolwr Cymru, John Deveraux, yn chwarae i dîm Cymru yn erbyn Seland Newydd brynhawn Sadwrn.

Treuliodd Mos brynhawn difyr yn ei fflat yn edrych ar un o rowndiau cynderfynol rygbi'r gynghrair.

Yn achos clybiau sy'n dod â chefnogaeth drom gyda nhw, byddai'r gêm hynny yn parhau i gael eu chwarae ar brynhawn Sadwrn.

Hwyliodd Edward am ei brynhawn i'r parlwr cynnes a'i dân braf a'i lyfr cowboi gan edrych ymlaen at ymgolli'n llwyr yn swynion a champau'r bechgyn a'r gwartheg gwyllt - credaf ei fod wedi dymuno llawer am fod yn un ohonynt ar y paith pell a gwyllt.

Bryd hynny yr oedd Sinn Fein am ddisodli'r Blaid Wyddelig fel erfyn gwleidyddol y mudiad cenedlaethol; y Cynghrair Gwyddeleg yn ymdynghedu i edfryd yr iaith Wyddeleg; y Gymdeithas Wyddelig Athletaidd yn trefnu chwaraeon traddodiadol Gwyddelig; y Mudiad Cydweithredol Amaethyddol, y Mudiad Undebau Llafur dan arweiniad rai fel Connolly, y theatr, y cwbl yn rhannau o'r Mudiad Cenedlaethdol - heb sôn am yr l.RB Yr oedd y rhwyd wedi ei thaflu mor eang fel nad oedd angen i ŵr ifanc wneud mwy na mwynhau chwarae bando (...) ar brynhawn Sul, ac yr oedd wedi ei dynnu i fewn i'r mudiad.

b) senedd gyflawn yn trafod pwnc gosod o ddiddordeb cyffredinol yn y bore, ac yn y sesiwn brynhawn, yn dilyn (bob yn ail) adroddiadau rhanbarthol neu weinyddol/cyllid.

Mi fyddaf yn falch o gael cyflawni fy neges yn y ddinas fawr, brysur, ac ar fy ffordd adref, i'r pentref croesawus lle gallaf gerdded yn eithaf diogel uwch y creigiau, a gwrando ar y môr yn rhuo, ac, ar brynhawn sych, heulog, fy mhleser fydd cerdded ar lan Afon Ogwr a chael ailfywhad o gerdded ar draeth Bae y Gorffwysfa ym Mhorthcawl.

Un newid fydd yn nhîm Yr Alban ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ym Murrayfield brynhawn Sadwrn.

Patrwm i'w efelychu Mawr obeithio y bydd yr wyth clwb arall yn yr Adran Gyntaf yn ceisio efelychu chwarae'r ddau hyn; cafwyd prawf anwadadwy ar Y No/ l brynhawn Sadwrn ei bod hi'n gwbl bosibl cael rygbi ardderchog pan fydd y chwaraewyr o dan y pwysedd trymaf.

Tynnais sylw un o'r aelodau wrth fynd allan o'r oedfa fod tipyn gwell presenoldeb yng nghyffiniau Llanrug, mewn oedfa bore neu brynhawn.

~r ôl caniad, pan *ddai pawb nad oedd a wnelont â'r saethu, wedi mynd adref, neu ar brynhawn Sadwrn, y byddai'r tanio'n cymryd lle fel rheol.

Ni fydd Jason Jones Hughes, canolwr Cymru sy'n enedigol o Awstralia, yn chwarae i Gasnewydd yn erbyn Castell Nedd yn rownd derfynol Cwpan y Principality brynhawn Sul.

Oedwch yn y tangnefedd tawel ar brynhawn o aeaf fel y gwnaethom ni, i weld yr haul yn suddo'n belen eirias dros benrhyn Llyn, mynyddoedd yr Eifl yn borffor dywyll, a'r eira'n eisin pinc ar gopaon Eryri.

Fe fydd tipyn o waith 'da ni brynhawn fory, sdim amheuaeth am hynny.

Roedd chwaraewyr Cymru, yn eu lliwiau anghyfarwydd, yn ymwybodol y byddai'r gêm brynhawn Sadwrn yn gyfle i hawlio lle yn y tîm i wynebu De Affrica ddydd Sul nesaf.

Arf®em gyfarfod yng Nghaernarfon unwaith y mis am ddau o'r gloch brynhawn Sadwrn.

Go brin fod cyn-bencampwr y byd erioed wedi chwarae'n well nag y gwnaeth e brynhawn ddoe.

Iddi hi yr oedd Y Groglith yn fwy defosiynol o lawer a byddai rhaid i ni aros bob amser pan ddeuai'n dri o'r gloch brynhawn Gwener y Groglith i geisio meddwl am Iesu Grist ar y groes rhwng y ddau leidr.

Cynhelid hi ar brynhawn Sul ac ymwelai brodyr y Capel Mawr â hi yn gyson.

O'r amser y daeth y newyddion ar brynhawn Mawrth, Hydref 27, roedd y tîmau cynhyrchu ar waith.

Ym Mhatagonia y'i ganed a doedd dim yn well ganddo nag adrodd hanesion - gwir a dychmygol dybia i - am ei blentyndod a'i lencyndod yn y Wladfa, yn enwedig ar brynhawn Gwener pan fyddai ambell un mwy hirben na'i gilydd yn ein plith yn gofyn cwestiwn neu'n gwneud sylw a fyddai'n cyfeirio meddwl 'Pat' i'r cyfeiriad iawn.

O leiaf byddai ganddo rywbeth i'w ddangos am ei brynhawn wrth yr afon.

Bwriedir cyrraedd Llundain erbyn 3.30 brynhawn dydd Gwener Medi 22ain.

Dyna'r hen ____ (berwai Wiliam wrth gofio amdano'n awr) yn gwrthod rhoi clwt iddo ryw brynhawn yn yr haf, yn ei ddull cyfrwys.

Bydd Llanelli yn wynebu Castell Nedd yng Nghynghrair Cymru a'r Alban brynhawn Sadwrn a wedyn bydd cyfnod o gemau rhyngwladol.

A honno yn sicr oedd yng ngheg Ogof Plwm Llwyd brynhawn heddiw.

Mae carfan Norwy wedi dechrau eu paratoadau yng Nghaerdydd ar gyfer y gêm brynhawn Sadwrn yn rownd ragbrofol Cwpan y Byd.

Mae Graham Henry wedi cyhoeddi Tîm Rygbi Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.

All Cymru ddim fforddio colli eu gêm ragbrofol yn erbyn Norwy yng Nghystadleuaeth Cwpan Pêl-droed y Byd brynhawn yfory.

Ar brynhawn braf, hydref diwethaf, tra mod i'n golchi'r llestri yn y gegin, cerddodd yr heddlu i mewn gyda gwarant i chwilio'r tŷ. Yn anffodus, roedd fy nghynhaeaf cannabis yn sychu yn fy stafell wely.

Yn y tridegau cynnar bu bri ar Ddosbarth Siaradwyr a drefnid gan Gangen y Brifysgol a Changen Dinas Bangor ac fe i cynhelid ar brynhawn Sadwrn mewn caffi ym Mangor Uchaf.