Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bryniau

bryniau

Er mai yn y blynyddoedd 1909 ­ 1915 y cyrhaeddodd y Mudiad Rhamantaidd ei anterth, gyda 'Gwlad y Bryniau', 'Yr Haf' ac 'Eryri', yr oedd y llanw wedi troi yn erbyn Rhamantiaeth erbyn hynny, gan fod darllenwyr wedi syrffedu ar yr awdlau a'r pryddestau hyn a oedd wedi eu lleoli mewn rhyw orffennol chwedlonol, ac wedi syrffedu hefyd ar eirfa'r Rhamantwyr.

'Yr holl ffordd o Drefynwy i Dyddewi, meddiannwyd y cwbl o'r wlad a oedd o unrhyw werth yn eu golwg gan estroniaid o waed ac iaith, ac ni adawyd i hen frodorion y tir ddim ond bryniau llwm a choedwigoedd diarffordd.

Swn y fagnel ar y bryniau, Gwaed y dewr ar dwrf y rhos, Angau'n casglu ei ysgubau Cyn aeddfedu gyda'r nos.

Pam nad yw'r nofel yn gwneud fawr mwy nag enwi'r gwir wrthddegymwyr - Ffranc Bryan y Bryniau, John Jones y Rhos Uchaf a Samuel Jones y Tŷ Glas?

A'n dysgu sut i atseinio Halelwia trwy gymoedd a bryniau'n gwlad.

Un o'u ffyrdd hwy oedd Sarn Helen sy'n rhedeg dros y bryniau o Lanymddyfri i Lanio cyn troi a mynd yn syth i gyfeiriad y gogledd at Ledrod.

Y dôn y cenid yr emyn arni oedd (ac yw) 'Bryniau Casia'.

Dywedodd un tyst wrtho fod y Cymry o'r bryniau a aeth i ymuno gyda Siartwyr Frost yn credu mai cyrchu Llundain oedd eu nod, ymladd yno un frwydr fawr ac ennill teyrnas.

Roedd enw addas i'r lle hwn sef Disgwylfa ac ar ddiwrnod braf gellid edrych dros gefn Cadlan gyferbyn a gweld y bryniau gwyrdd yn codi drum ar ol trum, nes cyrraedd uchelfannau y Bannau gleision.

Rhwygodd sŵn eu sgrechiadau drwy'r bryniau wrth iddyn nhw ddisgyn mewn pelenni o dân i'r ddaear.

Gwelais nodi allan lle yr oedd y Railway i fod, a gwelais ei gwneud o Holland Arms i'r Benllech, a chofiaf ddydd ei hagor yn iawn, a sploet fawr yn Bryniau Plas Gwyn.

Honnwyd eu bod yn sefyll ar ben tai a bryniau gyda'r nos, gan annog y Scuds ymlaen ar eu taith i Tel Aviv.

Ar y gorwel, y tu draw i amlinell dywyll y bryniau, gwelai olau cyntaf y wawr yn torri.

Eisoes, roedd y bugeiliaid ar y bryniau pellaf wedi rhuthro'n ôl i'r dref gyda'r neges arswydus bod byddin anferth ar ei ffordd tuag yno, Cannoedd, os nad miloedd o filwyr.

Ymgymerir â'r draul yr un modd a phe deuai drosodd i'r wlad hon.' Yr oedd Philti i symud ar unwaith i ryw orsaf arall ar y Gwastadedd neu'r Bryniau.

Wrth i'r peiriannau o bob math fynd yn fwy ac yn fwy, aeth y caeau yn feysydd a diflannodd yr hen batrymau fyddai i'w gweld fel cwiltiau clytwaith wrth edrych arnynt o lethrau'r bryniau ac ambell godiad tir.

Tyfodd yn gyflym iawn yn y ddeunawfed a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar hyd dyffrynoedd yr afon ac ar y bryniau gerllaw.

Un dawedog oedd hi, merch o'r bryniau yn deall dim ar anesmwythyd diddiwedd y môr, wedi taro ar longwr a'i briodi wrth ddod i lan y môr ar wyliau, ac wedi gorfod byw hebddo am y rhan fwyaf o'i bywyd priodasol.

Wedyn ar arwydd yr oeddynt i dorri allan i weiddi Halelwia nes bod y cymoedd a'r bryniau'n atseinio gan eu bloedd.

Y bryniau hynny oedd maes y cenhadon y casglwn innau ac eraill o blant yr Ysgol Sul geiniogau i gynnal eu cenhadaeth.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Roedd o yn byw mewn pant gyda bryniau bob ochr iddo.

Dyma'r bobl a gychwynnodd yr arfer o symud yr anifeiliaid ar ddechrau'r haf o'r hendref ar y bryniau isel i'r hafod ar y mynydd agored, a'u dwyn yn ôl drachefn i'r hendref erbyn y gaeaf.

yr oedd eira chwefror a glawogydd tros w ^ ŵyl ddewi wedi chwyddo nentydd yr ardal a chreu rhaeadrau yn hafnau 'r bryniau, a 'r cwbl yn llifo i afon afon nes ei bod hi, erbyn cyrraedd y dyffryn lle safai aberdeuddwr, yn genllif gwyllt gwyn, ar frys i gyrraedd y dolydd tu hwnt i trillwyn isa lle gallai orlifo i 'r caeau a chael ymwared a 'i ffyrnigrwydd.

Dymunwn estyn ein cydymdeimlad a Mr Ivor Dryhurst Roberts, Bryniau, Hen Ffordd Conwy yn ei brofedigaeth o golli ei briod, a hefyd i'r mab Hugh a'r merched Jean ac Ann o golli ei mham.

Trigent mewn cutiau ar y bryniau, uwchlaw coed y dyffryn y claddent eu meirw dan gromlechi.

Gallent weld bryniau isel yn y pellter ond doedd dim arwydd o fywyd yn unman, ar wahân i hebog yn cylchu'r awyr ymhell uwch eu pennau.

Gan fod coedwigoedd tewion ar y tir isel, ac anifeiliaid rheibus yn byw ynddynt, codwyd y dinasoedd (neu'r amddiffynfeydd) ar y llechweddau a'r bryniau.

Dydy cerddwyr ar y mynyddoedd a'r bryniau ddim yn cynllunio'r daith yn ddigon gofalus, dydyn nhw ddim yn gwrando ar ragolygon y tywydd, dydyn nhw ddim yn gwisgo dillad addas a dydyn nhw ddim yn mynd gyda chymdeithion eraill.

Yna mwy o goed a thu draw i bopeth, llinell solat, anwastad, anghyffyrddus troed y bryniau.

Gwelai gaeau a bryniau o flaen y castell, ond torrid ar yr olygfa gan wal arall.

O ludw'r hen aelwydydd - tywynodd Tanau dros y gwledydd, O bennau'r bryniau beunydd - rhoi cyfrin Oleu fu gwerin y gwael fagwyrydd.

Roedd hi'n fis Mai ac ar y bryniau i'r de i Fannau Brycheiniog roedd byd natur wedi penderfynu bod yr haf ar ddod.

Doedden nhw ddim wedi mynd yn bell cyn gweld bod y tir yn dechrau codi'n raddol i gyfeiriad y bryniau.

Beirniadodd ef ei thuedd i ddibynnu ar hen noddfa stori%wyr fel Richard Hughes Williams, sef marwolaeth, yn y stori 'Yr Athronydd' (O Gors y Bryniau) ac meddai am y stori 'Newid Byd', o'r un gyfrol: Heddiw, ni sgrifennai'r pum gair olaf.

"O'r tu draw ei llais sy'n galw Dros y bryniau mawrion, pell: Blant y Wladfa, cofiwch gadw Llygaid ffydd ar "bethau gwell"."

At hynny, cadwai'r Rhufeiniaid at y tir isel a'r cymoedd, ond yn eu dinasoedd caerog ar y bryniau uwchben y trigai'r Brythoniaid.

Doedd y bryniau ddim mor uchel, ac yn lle coedwigoedd roedd yno feysydd bras, a gwartheg a defaid yn pori'r borfa ir.

Ac mae'r tirwedd hefyd yn rhan o achos y cynefindra - y dyffrynnoedd gwyrdd rhwng y bryniau yn y glaw llwyd, y meini a'r cromlechi yn fud dan orchudd y niwl, y goeden unig yn y gwynt.

Cynefindra a dieithrwch - dyna begynnau'r profiad o dreulio ychydig wythnosau yn y bryniau sy'n gorwedd i'r de o afon Brahmaputra yn Assam ac i'r gogledd o wastadeddau dyfrllyd Bangladesh.