Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brysio

brysio

Rhoddodd ei gadw-mi-gei'n ôl yn ei le ar ben y gist ddreir a brysio i lawr i'r pasej, lle'r oedd Mam yn disgwyl amdano a Mali eisoes wedi'i chlymu yn y bygi.

A phob un yn brysio yma ac acw ar orchymyn y Gwylwyr.

Ymysgydwodd Wil Dafis yn rhydd a brysio allan nerth ei sodlau yn ol i'r ffair.

Y foment nesaf yr oeddwn yn ôl wrth ochr Jock, ac yn brysio i archwilio'r pecyn.

Yn sydyn gwelodd y Capten un o'r swyddogion eraill yn brysio ymaith gyda gwely ar ei ysgwydd a rhedodd ar ei ôl.

Ond nid oedd modd brysio'r bechgyn, oedd yn eu mwynhau eu hunain yn fawr.

Deallodd Jock a minnau yr arwydd bron yr un pryd, a brysio i ateb fel deuawd, "Dim cythral o berig." Yna troi ein cefnau, a chymryd arnom nad oeddem wedi ei gweld.

Ac allan yn y fan honno, mynegais fy mod mewn tipyn o ddilema am na wyddwn yn iawn beth y dylwn ei wneud, p'run ai brysio adre'n syth at fy nheulu yn Ninmael, ai ynteu aros yn y llofft am sbel eto rhag ofn y byddai Mam yn dadebru o'i thrymgwsg.

Rhaid fyddai brysio neu fydden nhw byth yn medru cael digon o ddwr i fynd i mewn i'r harbwr yng Nglan Morfa.

Adwaenai e'r bobl a oedd yn brysio ar hyd y stryd fel y pobl a ai heibio i'w ffenest bob dydd.

A phan gyhoeddwyd hynny, ac yntau'n eistedd rhwng dau swyddog carchar, neidiodd Silyn ar ei draed mewn gorfoledd a brysio ar draws at Rhian i'w chofleidio'n dynn.

Neidiodd yn chwim allan o'r gwely a brysio o'i llofft at ffenest y gegin.

Y mae pob math o longau, bach a mawr, yn brysio yno i'w nôl adref," meddai peilot arall wrtho un bore.

Dwi'n brysio yn ôl i'r car i chwilio am y cerdyn.