Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brysiodd

brysiodd

Brysiodd allan wedyn.

Brysiodd y plant eraill i gyd o'r coridor ac i'w gwersi fel llygod.

Daeth swn llesmeiriol tonnau'n taro'r creigiau i'n clyw, brysiodd sgwadron o hwyaid heibio a glanio fel pe ar orchymyn arweinydd i nofio'n gytun.

Dechreuodd feichio crio wedyn a brysiodd Sharon ati hi a mynd i roi ei breichiau am ei gwddf.

"Mi gei di weld." Brysiodd Douglas i orffen ei fwyd.

Nid chdi 'di'r gynta'.' 'Ifan Ifans?' 'Ia?' ''Dwi'n mynd i gal babi rwan.' Brysiodd William Huws i lawr grisiau'r bus, gan ddarn-lusgo'r hwch i'w ganlyn, wedi gwerthu'i gymydog am lai na chawl ffacbys.

Brysiodd o ystafell y prifathro ac i'r cae rygbi.

Yna brysiodd i'r howld ac i stafell y peiriannau, ond doedd dim golwg o'i gyfaill yn unlle.

Brysiodd ambiwlans ag ef i ysbyty.

"Dyna ddechrau iawn beth bynnag," sibrydodd Huw, yna, gwelodd Iona yn rhythu arno a brysiodd i gefn y car i nôl y bag yn dal ei deganau a'i lyfrau er mwyn eu cario i lofft y bechgyn.

Brysiodd tua'r gornel lle'r oedd y trysor, a daeth gwg i'w wyneb.

Brysiodd yn ffrwcslyd tua'r sêt fawr, agor y llyfr emynau, ledio pennill a dweud wrth y gynulleidfa, 'Gellwch chi canu hwn ar eich tina.' Ar ganol ei bregeth un pnawn trymaidd, tynnodd o boced ei wasgod ffiol fechan o wydr.

Brysiodd Idris hefyn yn ei flaen er gwaetha'r demtasiwn i godi'r teganau, yn gwbl benderfynol y byddai'n fwy gofalus o hyn ymlaen.

Brysiodd Denis y Stiward o'i bulpud i geisio troi y locals meddw rhag tarfu ar brynhawnol hedd y sipwyr gin.

Clywai sŵn y tramiau'n drybowndian ar hyd y prom a brysiodd at y ffenestr.

Brysiodd i wisgo amdani a pharatoi brecwast ac i ddarllen llythyr Paul.

Brysiodd i fwyta ei chig seimllyd a'i salad llipa er mwyn gallu ffonio Emyr i sôn am ei phenderfyniad.

Brysiodd adre i fath poeth, a diferyn o wisgi yn ei the.