Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

brysurdeb

brysurdeb

Wedi trech y daith genhadol, yr oedd angen gorffwys ar y disgyblion a chyfle i adolygu'r genhadaeth gyda Christ; ac wedi marwolaeth ysgytiol Ioan Fedyddiwr a'r elyniaeth gynyddol o du'r Phariseaid a'r Herodianiaid i Grist, ar ben ei brysurdeb mawr gyda'i ddamhegion a'i wyrthiau, yr oedd angen encil ar yr Arglwydd Iesu hefyd.

Fis Mawrth y flwyddyn honno, yng nghanol ei holl brysurdeb fel gweinidog a llenor, cyhoeddodd ysgri\f orchestol-pymtheg tudalen--yn Yr Eurgrawn: "Tro%edigaeth John Wesley a'i ddylanwad ar Gymru%.

Ar ben hynny roedd wedi gorfod talu llawer rhagor nag yr oedd wedi ei ragweld i was am wneud gwaith y tyddyn yn ei absenoldeb a bu colledion oherwydd nad oedd, ynghanol ei brysurdeb fel Ysgrifennydd Cyffredinol, wedi medru rhoi'r sylw dyledus i'w gartref.

Rhydd y cywydd argraff o brysurdeb a chyffro wrth i'r tyrfaoedd ymgasglu wrth y ffynnon.

Roedd Sgwâr y Preseb ger Eglwys y Geni, sy'n fwrlwm o brysurdeb fel arfer, yn dawel fel y bedd.

Mae 'na wastad brysurdeb yma - pawb yn tendio i'w gar, yn ei fwydo, ei fwytho, ei lanhau, ei drwsio.

Fe fu cynnydd yn nifer y llongau pysgota ym Mae Caerfyrddin a rhain yn ychwanegu at brysurdeb y lle wrth ddod i mewn i gysgodi adeg stormydd a dadlwytho yr helfa bysgod.

'Mor frwd meddai Puleston Jones yn Y Seren wrth adrodd gweithgareddau'r cyfarfod cyntaf, 'mor frwd ydyw yr yspryd Cymreig yma ar hyn o bryd, fel y dywedir i un brawd o ganol brysurdeb paratoi at ei arholiad ddiweddaf, roi un bore ar ei hyd i astudio prydyddiaeth Gymreig Gwn ddarfod i un arall ddarllen gweithiau barddonol Goronwy i gyd bron mewn un diwrnod" "Chwi synnech', meddai eto wrth adrodd am gyfarfod diweddarach, 'mor gyflawn o addysg ydyw papurau fel hwn (sc.

* bod digon o ymglymiad gweithgar neu brysurdeb pwrpasol i'r plentyn a bod profiadau uniongyrchol a pherthnasol iddo/ i mewn amgylchedd sy'n gyforiog bosibiliadau.

Cyfnodau o brysurdeb anhygoel, gyda chyfnodau hirfaith o segurdod yn britho'r cyfan.

Nid fod Judith yn dioddef gormod o segurdod, er iddi gyfaddef fod y ffaith iddi fyw yn Arfon wledig, mor bell o brysurdeb cyfryngol y brifddinas, yn eithaf llestair.