Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bu

bu

Bu yn hwylus iawn am rai blynyddoedd i gario pobol a nwyddau.

Bu Robert Jones yn fewnwr i Gaerdydd a 'doedd e ddim yn meddwl bod hyn yn sioc fawr.

Bu Karen yn mynd allan gyda Gareth Wyn, Tony Morgan a Gavin cyn penderfynu priodi Derek.

Bu helbulon blin ynglyn â pharatoi'r Beibl ond bwriodd Charles ymlaen yn amyneddgar.

Bu defnydd brodorol a lleol hefyd: C.U. Burn, cyfres am ddau frawd yn rhedeg amlosgfa.

Bu+m yn bur wael a chollais y plentyn yn wythnos oed.

Bu nofel arall o'i eiddo, Dr Jekyll and Mr Hyde, nid yn unig yn destun ffilmiau ond hefyd yn destun sawl parodi yn y sinema.

Bu+m i mor lwcus â chael gweld un ffilm hir ar ddeg a thros ugain o ffilmiau byrion.

Bu pwyso mawr arnaf i'w gadael ym Mangor, ond parhâu ar fy siwrnai'n dalog a'r cyfrolau dan fy mraich a wneuthum.

Bu yno am naw mlynedd.

Bu bron i mi lewygu.

A bu cymaint o alw am leoedd yn yr Ysgol Santas Clôs yn Llundain y maen nhw wedi bod yn troi pobl i ffwrdd yn dilyn blynyddoedd digon tawel cyn hyn.

Bu John Gordon yn eitem un diwrnod o newyddion cyn syrthio nôl i ing ei fywyd personol.

Bu Ellen ap Gwynn mewn cysylltiad a'r Swyddfa Gymreig i drafod dyfodol a strwythr ariannu cwmni%au Theatr mewn Addysg.

bu cynhadledd brwsel yn llwyddiant mawr ac ar ei therfyn dywedodd ei llywydd, m.

Bu chwarae caled y prynhawn hwnnw, â'r bachwyr yn weddol gyfartal.

Bu trai a llanw yn ein hanes.

Bu cryn sôn yn ddiweddar am ddatganiad Joschka Fischer, gweinidog materion allanol yr Almaen, ynglyn â ffederaleiddio Ewrop.

Bu rhieni ac ardalwyr Bryncroes yn ymladd brwydr yr ysgol am ddwy flynedd gyda chefnogaeth cymdeithasau a mudiadau trwy Gymru gyfan, ond wydden nhwythau ddim, mwy nag y gwyddai beicwyr Byclins, fod tynged yr ysgol wedi ei benderfynu ymhell cyn gwneud unrhyw gyhoeddiad swyddogol ynglŷn a'r bwriad.

Bu Henry Jones fyw'r rhan fywaf o'i oes trwy gyfrwng y Saesneg, ond ni wybu ef erioed amau ei Gymreigrwydd nac amau beth oedd ystyr bod yn Gymro.

Ar ôl gorffen dadlwytho aethant i Newcastle i lwytho glo ac yno ymddiswyddodd y Capten ond bu mor garedig â chymeradwyo'r Mêt i'r cwmni fel dyn da i gymryd ei le ac felly dyrchafwyd Mr Hughes yn Gapten yn fuan iawn ar ei yrfa gan afael yn y cyfle â'i ddwy law.

Bu Les a Jessie Powell, Abercraf, yn aelodau a chefnogwyr brwd i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r cychwyn cyntaf.

Ac wrth gwrs bu'n rhaid cael llun o'r cinio.

A bu saith yn yr Almaen.

Aeth fy chwaer i fyw i Fethesda ar ôl priodi, a'r Nadolig cyntaf i ni fod hebddi cafodd Mam y ffliw neu rywbeth, bu'n wael iawn, a gorfu iddi aros yn ei gwely.

Bu bron i'r bachgen â thorri allan i wylo.

A bu gan Dr Gwynfor Evans ei hunan gyfraniad creadigol eithriadol i'r stori.

(Gwyddwn, wrth gwrs, beth oedd diweddglo'r hanes, ond daliwn i obeithio, fel pe bawn yn blentyn, nad oedd yn wir.) Yng nghanol y gwasanaeth bu ergyd anferthol a chladdwyd Marie a'i thad o dan wal a cherrig.

Bu ef mewn amryw longau, rhai yn llwglyd, fel yr ydym wedi clywed sôn amdanynt, ac eraill â bwyd da a dywaid fod pob un o longau rhyw gwmni yn cael enw da am fwyd.

Bu agor ar y Sul yn destun trafod yng Nghymru unwaith eto.

Ar ôl ymweld â hi gyntaf yn y chwedegau, pan oedd rhywfaint o weithio yno, bu yn ôl lawer gwaith ar ôl iddi gau, gan seilio cyfres gyfan o luniau arni.

Ar gyrion y nofel Gymraeg y bu gwleidyddiaeth - hyd yn oed yng ngwaith Kate Roberts a T.

Bu amser pan wyddent beth oedd y naill a'r llall yn ei feddwl a'i deimlo, a phryd y gallai siarad yn agored ag ef.

A doedd y ddynes sy'n llnau'r lle ddim yn cofio'i gweld hi, chwaith." Bu tawelwch rhyngddyn nhw am eiliad cyn i Mam siarad eto.

Ar ôl deall pwy ydoedd, bu Rolf Mengele yn llythyru â'i dad am flynyddoedd, cyn penderfynu mynd i Dde America i'w weld.

Bu farw cyn-faswr Aberafan a Chymru, Cliff Ashton.

Bu enwogion yn trafod trefi neu ardaloedd a olygai lawer iddynt yn Sense of Place ac roedd Movers and Shakers yn cyfarfod dynion a merched o Gymru oedd yn amlwg yn eu maes.

Bu tro mawr ar fyd oddi ar hynny.

Bu hefyd yn gweithio yn yr Alban ac Iwerddon.

Bu gwasanaeth bore Sul y Pasg yn un gwahanol i'r arfer eleni oherwydd, yn y gwasanaeth hwnnw, cymerwyd rhan gan y bobl ifainc oedd yn cael eu derbyn yn gyflawn aelodau o'r eglwys.

Bu Chesterfield ar y blaen deirgwaith - dwy o'u goliau'n dod o chwarae gosod.

(Gwell egluro mai yn ystod yr eiliadau brau hynny y torrwyd y garw rhyngddynt.) Bu'r pryd bwyd yn eitem ddigon diflas ac roedd amryw resymau am hynny.

Am ganrif gyfan bu mil oedd o weithwyr dan yr hen drefn yn trethu eu nerth a cholli llawer o chwys, a daethai'r cyfnod hwnnw i ben.

Bu gwraig y Gweinidog Wesle yn ddigon diniwed i ofyn, "Pa bryd gaf fi lo, Mr Thomas?" A'r ateb!

Bu bron i Stan ladd Gareth Wyn tra'n yfed a gyrru.

Bu'n cynnal gwyl gerddorol yn y Faenol ger Bangor yn ystod yr haf.

Ar yr un noson cafwyd Arthur C Clarke - A Man Before His Time lle bu henadur ffuglen wyddonol yn siarad am ei fywyd, ei waith ar proffwydoliaethau a wnaeth - gan gynnwys dyn yn cerdded ar y lleuad.

Bu cyfeillion yn lew iawn, gan gynnwys cyfreithwyr a bargyfreithwyr.

Bu Ruddock yn hyfforddi Leinster ers tair blynedd.

Bu mewn tymer ddrwg am yn agos i saith mlynedd!

Bu meini yn bwysig mewn defodau addoli er yn gynnar iawn.

Bu rhaid mynd i'r hats i guro pegiau i'r tyllau.

Bu mwy nag un yn y Gadair Goch yn ystod y flwyddyn ddiwethaf heb ddyfod ohoni'n fyw.

Bu farw tair merch fach a dwy wraig yn y fflamau.

Bu+m yno ddegau o weithiau ar ôl hynny.

'Bu (ei fam) agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan rhyw led-ddisgwyl eu gweled (ei gŵr a'i dau fab) yn dyfod adref o'r gwaith.

Bu teithio mawr yma pan fu farw Dr Livingstone ddwy flynedd nôl.

Bu ffigurau cynulleidfaoedd teledu yn dda yn gyffredinol, gan adlewyrchu gallu cystadleuol cynnyrch BBC Cymru, a thra bo rhywfaint o bryder ynglyn â safle presennol BBC Radio Wales, mae arwyddion bod y penderfyniadau strategol, golygyddol a phroffesiynol cywir yn cael eu gwneud i adfywio'r orsaf.

Bu Dewi Wyn Jones, Swyddog Amaeth y Sir cyn ei benodi'n ddarlithydd yng Ngholeg Meirionnydd, a chryn ddiddordeb i hybu aredig fel gweithgaredd i aelodau'r mudiad ar ddechrau'r saithdegau hefyd.

Bu Twm yn osler ei hunan am gyfnod ac yna bu'n gyrru'r Express o Lanrwst i'r Cemioge am beth amser.

Bu ef yn athro ac yn arolygwr yn yr Ysgol Sul am flynyddoedd lawer.

Ac felly, wrth gwrs, y bu, er dadrithiad i'r casglwyr enwau ac er siomedigaeth i ffermwyr Llŷn oedd wedi meddwl am gael gwneud eu ffortiwn wrth werthu tatws i'r Gwersyll.

Bu+m yn canu deuawd droeon a Gwilym Griffith oedd y partnar.

Am ddyddiau wedyn bu pawb, ac eithrio Ann, yn crafu tipyn - ac yn syllu'n wyliadwrus ar yddfau merched Ethiopia!

Bu farw'n dlotyn wedi oes fer o gynllunio a dyfeisio er lles yr ardal ac ar y diwedd roedd yn druenus ei weld yn ceisio bodoli ar yr ychydig bres a gai oddi wrth Urdd y Seiri yn Llundain.

Bu cyhuddiadau bod Michael yn was bach i Tony Blair a bod dulliau anheg wedi eu defnyddio i'w ethol.

Bu'n blismon ers saith mlynedd gan dreulio'r holl amser hwnnw yn Llanelli, fel heddwas stryd yn gyntaf ac yna fel ditectif gwnstabl.

Bu hyn yn foddion iddo orfod dioddef oddi wrth gryd-y- cymylau weddill ei oes.

Bu hon yn flwyddyn arwyddocaol i BBC Cymru gyda chynlluniau ar gyfer darllediadau'n ymwneud â sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael eu cwblhau, a'r goblygiadau ehangach sydd i ddarlledu o ganlyniad i greu'r corff newydd.

Bu gan droellwr Morgannwg, Robert Croft, ran amlwg yn y fuddugoliaeth.

Bu digon o drafod ganddynt ar lên Cymru yn gyffredinol, o Ganu Llywarch Hen i Tywyll Heno, o Drws y Society Profiad i Un Nos Ola Leuad.

Bu Marcus Trescothick yn rhyfedd o anlwcus.

Bu deall y darlun hwn yn dipyn o benbleth i'r esbonwyr, a'r duedd fu edrych arno fel enghraifft o barodrwydd y mynaich canoloesol i weu chwedlau er hyrwyddo eu buddiannau eu hunain.

Bu Gruffydd a Henry Lewis ac Ernest Hughes yn trafod y posibilrwydd o'i ailgychwyn ond o'r diwedd penderfynwyd yn erbyn hynny.

Bu cyfnod Elfed ym Mwcle yn gyfnod o gynnydd a ffyniant yn hanes ei eglwys.

Ar ben hynny roedd wedi gorfod talu llawer rhagor nag yr oedd wedi ei ragweld i was am wneud gwaith y tyddyn yn ei absenoldeb a bu colledion oherwydd nad oedd, ynghanol ei brysurdeb fel Ysgrifennydd Cyffredinol, wedi medru rhoi'r sylw dyledus i'w gartref.

"Bu'n rhaid i'r glowr Cymraeg .

Bu Douglas yn hedfan mewn un uwchben llongau i edrych ar eu hôl.

Bu cynnydd calonogol o ran creadigrwydd cynhyrchu rhaglenni o fewn holl wasanaethau BBC Cymru.

Bryd hynny, 'chaech chi ddim hyd yn oed gwisgo sbectol haul yn Omam Gan fod ei syniadau mor od, carcharwyd y mab gan ei dad a bu yn ei gell am dair mlynedd.

Bu Cynan yn ffodus na chafodd ei 'awdl' ei diarddel o'r gystadleuaeth.

Bu anesmwythyd yn y tir.

Bu amser, yng nghyfnod deffroad y werin rhwng 1860 a 1890, y buasai'n ymarferol sefydlu'r Gymraeg yn iaith addysg a'r Brifysgol, yn iaith y cynghorau sir newydd, yn iaith diwydiant.

Bu raid i Gymru chwarae amser ychwanegol cyn curo Georgia 38 - 33 yn y rownd derfynol.

Bu dadlau brwd am hyn a dod i'r casgliad y gellid eu cyhuddo o ddwyn y babell a'r corff ond efallai y gellid ystyried yr amddiffyniad o ddiffyg bwriad a diffyg gwybodaeth, pe codent hynny, oherwydd bod "dwyn" yn drosedd wahanol i "gymryd a gyrru i ffwrdd".

Bu dysgwyr o sawl rhan o Geredigion yn cymryd rhan a chawsant fudd mawr wrth baratoi'r cystadlaethau ysgrifenedig ac eitemau llwyfan.

Ar y funud honno, syrthiodd un o'r dynion oddi ar ei geffyl a bu farw; ond trwy law Samson daeth yn fyw drachefn.

Bu'n amddiffyn ei dad am flynyddoedd; ac fe wyddai.

Bu raid i dri o aelodau tîm Libanus gael triniaeth am oerfel ar ôl eu gêm yn erbyn Seland Newydd yng Nghaerloyw.

Bu+m yn sgwrsio ag o yn ddiweddar a chael orig ddigon difyr, ac wrth eistedd yn gwrando ar y glaw y bore 'ma, daw'r sgwrs i'm meddwl.

Bu yng Ngholeg Technegol Bangor a threuliodd dair blynedd yn yr Amwythig a Thelford.

Bu Sulwen yn gweithio i Crosville am flynyddoedd gan dreulio cyfnod ym Mhorthmadog.

Bu farw o ganser flwyddyn wedi rhoi'r gorau i chwarae.

Bu dadlau am sbel go dda, a'r goruchwyliwr yn gwrthod rhoi yr un geiniog ym mhen y pris, a'r diwedd fu i Wil wylltio, ac meddai: "I'm not cyming here to hambygi my horsus for you.

Bu Catherine Pierce yn ymweld â Thyddyn Bach rai troeon yn ystod y gwanwyn, ac yn aros yno am bythefnos.

Am ychydig bu+m yn ddigon naif i gredu y gallem fod yn mynd i weithio yno eilwaith.

Bu Plaid Cymru yn rhyddach i ganoli'n gyfan gwbl ar ei gwaith gwleidyddol, canys dyna ei gwir phwrpas.

Bu methiant y myfyrwyr i gyd-weithio'n effeithiol gyda'r gweithwyr a'r modd y bu i brotest y chwedegau chwythu'i phlwc yn gryn siom i Schneider a nifer o'i gyfoedion.

Bu hefyd yn casglu rhai o ddagrau ei wraig þ 'ond dim ond pan oedd hi'n fodlon,' meddai, gan ychwanegu þ 'Awn i ddim yn agos ati fel arall, rhag ofn mai fi oedd yn gyfrifol am y dagrau.'

a CCC Sports and Arts Foundation - Bu'r cynllun hwn ar dro ers Mis Medi.