Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

buarth

buarth

Y prif gwestiwn gan rai felly yw, faint o fwyd planhigion sydd ynddo, a yw cystal a gwrtaith buarth fferm neu Growmore sydd wedi dal ei dir mor dda ers blynyddoedd yr ail ryfel byd?

Daeth cawod o law taranau yn y prynhawn i ddiferu'n oer i lawr gwar a thagu gwteri'r buarth â swnd a phridd.

Mae'n siwr mai Ffrangeg ma' hi'n siarad, meddyliodd ac aeth allan i'r buarth.

Pwy a laddai ŷd gyda phladur pan fod combein ar gael ar y buarth, er, mai brafiach efallai fyddai ffeirio y stereo yng nghaban y combein am sgwrs gyda chymdogion tra'n yfed te yn y cae!!

Yr oedd buarth y fferm yn llawn o amaethwyr yn eu dillad duon, a chanent yr emyn hwnnw wrth godi'r corff.

(Rhuthrai'r gwynt drwy'r buarth caregog tu allan i'r ffenestr hir, a fflamau'r tân llydan yn ymestyn i fyny ceg y simnai fawr.

Yr oedd gwastad y buarth yn is na gwastad y stryd, ac yr oedd o dan y ddau dŷ seleri a ffenestri ganddynt yn edrych dros y buarth i gyfeiriad y stabal.

Sgriblo pentwr o lythyrau, symud gwartheg a defaid i gaeau ffres a chasglu'r buchod sydd agosaf at eni lloi i'r cae ger y buarth.

Felly, pan sylweddolodd yn hwyr un noson iddo adael ei waled yn llawn o arian ar ben postyn llidiart buarth tyddyn anghysbell yng nghyffiniau Llynnoedd Teifi ar noson o eira ar drothwy'r Nadolig doedd ganddo fe ddim dewis.

Cofiai fel ddoe y diwrnod y daeth yntau i'r eil o'r buarth y bore gwlyb hwnnw dros ddeuddeng mlynedd yn ol - y diferynion glaw yn treiglo'n bistyll tros gantel ei gap a'r sach ar ei war yn sopa diferu.

a f'esgidiau i fel pe buaswn i wedi bod yn cerdded buarth fferm.a hwythau ers blynyddoedd wedi cymell a chynnal rhyddfeddwl ar raddfa mor fawr.

Galwodd eto a daeth y bachgen allan o'r buarth ar gefn y ceffyl gwinau tal.

Bedwar mis yn ôl 'roedd y llwybr igam-ogam o'r llidiart i'r buarth fel haearn Sbaen ond heddiw edrychai'n debycach i afon na dim arall a châi'r Mercedes moethus drafferth i deithio.

Ar ochr ddeau'r buarth yr oedd dau dŷ bach gefn wrth gefn ar gyfer rheidiau ysgarthol y teuluoedd.

Clywsom ef yn gollwng ebwch ddig, yn troi ar ei sawdl, a mynd allan i'r buarth.

Ar y buarth yn amlach na heb yr oedd ceirt i'w gweld.

Brasgamodd yr Arolygydd i mewn i'r buarth a golau ei lamp yn gwibio yma ac acw o gwmpas cefn y tŷ.