Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bunnau

bunnau

Codwyd dwy fil o bunnau mewn cyfraniadau, a'r bwriad yw gofyn i Lys-gennad Prydain yn Nicaragua i ddyblu'r swm ar gyfer prosiectau ar yr arfordir.

Gofynnodd am fil o bunnau y flwyddyn o gyflog.

A ph'run bynnag, mae Preis wedi cyfaddef ei fod wedi cael cadwyn gwerth pum cant o bunnau ganddynt am eu helpu.

Y mae siopau eraill ar hyd a lled y wlad y prynais werth cannoedd o bunnau o lyfrau ynddynt o dro i dro - Crewe, Wrecsam, Henry Jones, Caer; Goronwy Williams, Rhuthun; a Galloways Abertystwyth i enwi rhai.

'Y mae'r ffaith,' meddai, 'na ellir bellach cynnal Prifwyl ar y raddfa arferol ar lawer llai na hanner can mil o bunnau yn awgrymu maint y cyfrifoldeb sy'n mynd i orffwys ar ysgwyddau rhywun.

Casglwyd cannoedd o bunnau, digon i gadw Sarah Owen a'i chydanffodusion uwchlaw angen, ond torrodd y banc yr ymddiriedwyd y gronfa i'w ofal.

Rhwng y Cyngerdd a Raffl a drefnwyd gwnaed elw o dros pedwar cant a phedwar deg o bunnau tuag at Cronfa'r Ysgol.

Ail-gychwyn ymgyrchu gyda'r gweithredoedd mwyaf difrifol yn hanes y Gymdeithas gyda difrod o ddegau o filoedd o bunnau i fastiau teledu ym Mhlaenplwyf ac yn Lloegr.

Mi alla i gydymdeimlo âr dyn yna yr aeth ei hamster ar goll yn ei Fercedes gwerth pedair mil ar hugain o bunnau.

Mi fydd hyn yn costio miliynau o bunnau i gwmni BNFL Magnox.

Dechreuais arni'n eiddgar i hel pentyrrau ohonynt ynghyd; yr oeddwn yn barod i wario rhai ugeiniau o bunnau yno.

Y mae uchafswm o ddwy fil o bunnau o gosb am bob anifail y ceir hormonau anghyfreithlon yn ei gyfansoddiad.

Golygai gryn swm o arian i brynu peth felly, wrth gwrs, ond mi wyddai Nel yn eithaf da na fuasai gennyf byth ddigon o wyneb i;w gwrthod a minnau wedi gwario ugeiniau o bunnau ar lyfrau ychydig ddyddiau ynghynt.

Mae Everton yn gobeithio arwyddo Steve Watson o Aston Villa am ddwy filiwn a hanner o bunnau.

Erbyn hyn fe wyddom iddo gasglu a phentyrru 8.6 miliwn o bunnau.

Un ffarmwr, Oliver Walston, wedi agor cronfa o dan y teitl 'Send a Tonne to Africa', i gasglu miliwn o bunnau i ymladd y newyn cynyddol sy'n y Trydydd Byd.