Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

buont

buont

Buont yn boblogaidd ar y Cyfandir ymhell cyn hyn, yn Zurich yn amser Zwingli ac yn Strasbourg ar ôl hynny.

Ond buont yn ein tŷ ni ryw dro, a gadawsant rywbeth ar eu hôl, ac y mae darllen yr hyn a sgrifenasant yn eu dwyn i gof - pwy, sut, o ba le, yr oeddynt, ac yn sgîl hynny lu o bethau eraill.

Ond pa wendidau bynnag sydd i mi þ a rhinweddau, rai, yn ddiamau þ buont yn gyfrwng i droi Huwcyn, Ffridd Ucha, maes o law yn Sir (nid Syr) Hugh Evan Rowlands.

Mae chwithdod mawr ar eu hol yma ym Moelfre - buont yn barod bob amser eu cymwynas a'u gwasanaeth a'u cyfeillgarwch i ni, drigolion y pentref, ac i gylch eang o Fon a'r Gogledd.

Buont yn byw yn Nulyn am bedair blynedd, a symud wedyn i Swydd Wicklow, lle'r oedd o wedi bod yn gweithio pan oedd o'n hogyn ifanc.

Wedi iddynt fwrw'r Sul ym Mharis buont yn treulio pythefnos yn y wlad.

Cafwyd tywydd braf a bob dydd buont yn cerdded ychydig filltiroedd allan i'r wlad gan alw mewn tafarndai gwledig am luniaeth a chael croeso cynnes gan y Gwyddelod ar ôl pwysleisio nad Saeson mohonynt.

gallasai syr william preece fod wedi dweud llawer o hanes david hughes wrth robert griffith, oherwydd am gyfnod buont yn gyfeillion agos, yn cydweithio'n broffesiynol ac yn cyd gyfarfod yn gymdeithasol tra'n byw yn llundain.

Buont yn yr eira drwy'r nos.

Buont yn hael eu cyfraniad i ganu corawl yn y sir yma ar hyd y blynyddoedd hefyd.

Buont yn enau i'n cydymdeimlad dwys â Phegi, ei briod, teuluoedd y ddwy ferch Helen a Janet, ac heb anghofio ei frawd, Will.

Yn Bouncing Back, gofynnwyd iddynt sut y buont yn ymdopi unwaith i'r straeon ddiflannu o'r penawdau.

Gan eu bod yn byw yn ardal y Castell buont yn meddwl am y peth am beth amser ond pan glywyd bod gweinidog newydd yn dyfod i'r Capel Mawr dyna glensio'r ddadl.

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Torrodd y gangen y buont yn pwyso arni gyda chlec uchel.

Buont yn fodd i ysbrydoli gwaith arloesol - cynlluniau sylweddol megis rhai Lothian, Gorllewin Sussex, a Swydd Rhydychen.

Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd y gwahaniaethau technegol rhwng Sais a Chymro a rhwng rhydd a chaeth yn llawer llai grymus nag y buont: y gwahaniaeth arwyddocaol bellach oedd hwnnw rhwng y rhai a lwyddai i gynnull tiroedd ac adeiladu ystadau a'r rhai a fethai wneud hynny ac a gâi eu gwthio tuag at y cyflwr o fod yn llafurwyr di-dir.

Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.

Safodd llawer ohonynt yn gadarn dros eu Duw a buont yn gefn mawr i'r Genhadaeth a'r Fyddin yn ddiweddarach.

Buont yn werthfawr iawn imi wrth ddarlithio i ddosbarthiadau yn Llþn.

Ni wyddai pa mor hir y buont yn cusanu ond wedi gorffen roedd o ar dân eisiau dechrau eto.

Ym mha golegau y buont?

Buont yn gychwyniad i ambell yrfa ddefnyddiol, megis eiddo Cynhafal Jones a gweinidogion eraill, a buont yn 'fendith anhraethol', meddai Daniel Owen, iddo ef ei hun.

Buont hwy wrthi'n brysur yn cyfieithu'r Beibl i iaith Provence ac iaith Fflandrys ar gyfer eu deiliaid.

Buont yno am bedair blynedd.

Buont yn fyw i oedran teg, wedi magu tylwyth o blant, a diolch am y briodas hapus yna.

Tenor ardderchog oedd Ivor Thomas, ac rwy'n cofio ei glywed yn canu mewn cyngerdd a arferai fod yn rhan o Eisteddfod Mon, gyda Madam Rosina Buckman (a gafodd ei chladdu yn Sir Fon, lle mae Atomfa'r Wylfa, a lle y buont yn deud i rywrai clywed canu).

Yn un peth buont yn foddion i agor pyrth llenyddiaeth Gymraeg i filoedd o bobl a phlant.

Rhaid chwilio dyddiaduron a chofrestrau a Beiblau Teulu am enwau anhysbys rhai ohonynt; buont ac aethant, a'u lle nid edwyn ddim ohonynt mwy.

Gyda thanciau a bomiau y buont yn ceisio datrys hyn.

Buont yn ddoeth a chraff yn ymgodymu ag anffyddiaeth glaslanciau (a chyda llaw roedd y dosbarthiadau i hogiau ac i enethod ar wahân) a buont yn gyfrwng ill dau i ehangu gorwelion drwy sôn am y byd mawr oddi allan.

Buont wrthi allan o bob hyd yn chwilio'r cyfan.

Ar un gwastad mae fel petai (a rhagofal yw'r 'petai' hwn) ef yn dweud fod yr hyn a fu rhyngddo ef a'r ferch - y chwerthin, y tristau a'r tewi, y distawrwydd, yr 'awel wynt', 'cnawd dy law' - fod hyn i gyd yn parhau i fod yn y man lle buont ar ryw fis Medi flynyddoedd lawer yn ol.

O ganlyniad, y mae'r gyfrol hon yn gronicl o ymweliadau'r sawl sydd â'u henwau ynddo: buont oll o leiaf yn cael pryd o fwyd, onid yn aros nos, yn ein tŷ ni.

Troir teulu Luned o'r stad y buont unwaith yn berchnogion cyfreithlon arni, a phenderfyna hi hwylio i America gyda hwy.

Araf ar y cyntaf oedd yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr i'w chofleidio ond ni buont yn hir cyn sylweddoli ei mantais fel cyfrwng addysg.

Treuliwyd wythnos ar arfordir yr Atlantig, lle buont yn ymweld â chymunedau diarffordd iawn.

Buont hefyd yn gyfrwng i atgyfnerthu'r tueddiadau hynny a ogwyddodd Davies i gyfeiriad trosi'r Ysgrythur a threfn y gwasanaeth i'w iaith ei hun.

Gallai'r bechgyn, o'u cuddfan, weld bod y golau yn llewyrchu ar y garreg y buont hwy yn neidio arni.

Ymdrechodd y cyfeillion i'w ffrwyno a buont yn hir cyn dringo i'r cyfrwyau.