Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwced

bwced

Yn y blynyddoedd hynny byddai llawer yn mynd i'r traeth o ddiwedd Ebrill hyd ddechrau Mehefin i ddal llymriaid, a chawn innau godi gyda'r wawr i fynd efo 'Nhad - y fo yn palu efo fforch datws a minnau'n dal y llymriaid arian, gwylltion a'u rhoi yn y bwced.

Cydiodd Ifor yn y bwced ac aeth at y tap i'r sied ddefaid.

Gorfod chwilio am ryw chwe throedfedd o dywod go lân i barcio'r corff, y bwced a'r rhaw a'r holl geriach a chael tywod yn crensian rhwng ein dannedd wrth fwyta'r brechdanau ac yn rhedeg yn afon fach ar hyd y tudalennau rydych chi'n ceisio'u darllen.

Godrir y llaeth a rhoi dogn mewn bwced i bob un o'r lloi.

Arogl y cytiau tywyll ac anadl boeth y lloi wrth darllen am roi bys i lo bach i'w annog i yfed o bwced yn hytrach na sugno'r deth.

Llaeth o'r bwced Dull o roi llith i'r llo pan nad yw'r llo yn sugno'i fam.

Fe wyddoch sut y bydd buwch yn cicio; rhyw bawennu ymlaen yng nhyfeiriad eich pen a'ch bwced.

Cerddodd yn ei ôl i'r beudy'n flin a thaflodd y bwced nes yr oedd yn drybowndian i erbyn un arall!

Mae'n cael ei hyfforddi i fod yn bwced.

Roedd tripiau'r Rhyl yn bethau arbennig iawn, dyddiau hapus i'w cofio er bod y boced yn weddol dlawd ond roedd hwyl i'w gael gyda bwced a rhaw a the am ddim yn nhŷ bwyta'r 'Summers'.

Rhoes y brwsh yn y bwced a honno ar lawr.

Doedd neb yn gwybod yn iawn beth oedd eu brîd nhw ond dyfalai Seimon fod rhywfaint o derier yn Cli%o, 'ac mae pawb yn gwybod bod gan derier galon cymaint â bwced,' ychwanegai.

Cododd y bwced a throi at y graffiti enbyd a baentwyd hyd furiau ei gelloedd.

Ac ni fydd y lliw haul a gafodd ein haelodau o'r Cynulliad yn ystod eu hwyth wythnos o wyliau haf wedi dechrau gwelwin iawn na fyddan nhw'n paciou bwced au rhaw am dair wythnos arall o'r siambr ar gyfer cynadleddau y pleidiau gwleidyddol.

Gan fod y reddf i chwilio am deth mor gryf mewn anifail sugno, ceir cryn drafferth weithiau i gael llo i ddygymod ag yfed o'r bwced.

Eithr fe lanwai'r bwced â llaeth hyd at yr ymylon - pe buasech mor ddifeddwl â pheidio â'i wacau bob hyn a hyn.

Yna dychwelodd y bwtler gan wthio troli de trwy'r jyngl, cymysgodd frandi a soda i mi, lapiodd y bwced rew gopr gyda napcyn tamp, ac aeth ymaith ar ysgafn droed rhwng y tegeiriannau.

Roedd ganddo bwced yn y naill law a brwsh sgwrio yn y llall.