Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwll

bwll

Daeth rhyw dristwch drosof o weld bod yr hen bwll wedi'i gau a bod y trigolion yn baldorddi estroniaeth lle gynt, yn yr ugeiniau, Cymraeg a glywn.

Y cyfan a gyflawnodd hyd yn hyn yw amddifadu Cymru ai phobl o bwll nofio o safon.

Wedyn, mi fydda'r hen bwll yn mynd yn llyn mawr.

Cerddai fel dyn meddw a theimlai fel pe byddai ar syrthio i bwll o dywyllwch diwaelod.

Cafodd yr unig bwll nofio yng Nghymru, o safon Olympaidd, ei chwalu o'r neilltu er mwyn gwneud lle i'r deml rygbi newydd y byddai Graham Henry yn Archoffeiriad ynddi.

Mi fyddai'r hen ddynas fy mam ers talwm yn cau un ochr i'r hen bwll oedd o flaen y tŷ 'cw a gadael ochr yr afon oedd yn rhedeg iddo yn agored.

Aeth Jim i fyny am Bwll y Bont a chan fod yr ystlumod yn eu hanterth meddyliais ei bod yn amser i minnau ddechrau.

Pan ddaw'r glaw eto i yrru i lawr drwy'r bwlch, neu pan ddaw'r niwl drachefn i or-doi'r arlwy o brydferthwch sydd o'm cwmpas heddiw, fe'm hyrddir unwaith eto i bwll o iselder ac anobaith.

Tybed ai fi oedd yr unig un i weld eisiau yr hen bwll nofio wrth gerdded hebio Parc yr Arfau cym Stadiwm y Mileniwm wedir cywilydd ddydd Sadwrn diwethaf.

Y mae'n bosib fod yr enw hwn yn cyfeirio at bwll golosog.

Tywynnodd ar ei feddwl ei fod wedi syrthio i bwll a gloddiwyd iddo gan Ernest, fod mab yr Yswain, gyda gwên deg a gwenwyn dani, wedi ei hud-ddenu gyda'r bwriad iddo anafu ei geffyl.

Hyd yn hyn bu'r afon yn llamu dros y creigiau geirwon ond cyn cyrraedd y bont nesaf a ffin y Warchodfa fe welwch bwll tyfn, llonydd yn y mawndir.

Ymddengys fod Llyn Frogwy, i'r gogledd o Fodffordd, yn bwll afon a gaewyd ac a ehangwyd er mwyn creu blaenddwr ar gyfer Melin Frogwy.

Gwelodd fod un ddraig wedi cael ei rhwygo yn ei hanner ac anadlai'r llall yn drwm gan grafangu'r tir oedd dan bwll o waed poeth.

Ond rydych chi'n anghofio, gyfaill, ei bod hi wedi costio'n ddrud ddychrynllyd iddo Fo i'ch codi chi o bwll pechod ac anobaith.

Cyn gynted ag y dringai o un pwll disgynnai yn blwmp i bwll arall a hwnnw, os rhywbeth yn ddyfnach na'r un blaenorol.

Bu pyliau o'r pib arno ers iddo godi a'r peth cyntaf a wnaeth, fel bob bore bellech, oedd treulio bron i chwarter awr yn y ty bach yn chwydu beil melynrwydd o bwll ei stumog.

O dan bentyrrau o rwbel a chwyn nid nepell o Landeilo roedd cyfrinachau anhygoel yn cuddio: twnnel ywen hynafol, gardd bwll, gardd glwysty fendigedig a gardd furiog syn cael ei gosod gan y dylunydd garddio byd enwog Penelope Hobhouse.

Maes o law dododd ef yr eitemau hyn ar werth eto a gwerthodd Bwll Gaunt i gwmni stanley o Ogledd Lloegr a rhain yn allforio'r glo o'r doc newydd.

Yn 1993 prynodd Reg bwll glo Pwll Bach ar y cyd gyda Stan Bevan ond yn y diwedd collodd Reg y pwll i'w brif elyn, Ieuan Griffiths.