Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwrdeistref

bwrdeistref

Yn yr un cyfnod, aeth Morris Williams, perchen Gwasg Gee ers rhyw flwyddyn ar y pryd, yn aelod o gyngor Bwrdeistref Dinbych; a gallodd roi gwybod am ei lwyddiant i'r Tri yn eu carchar, drwy lunio stori fer am lwyddiant y Blaid Ddirwestol mewn etholiad yn Nhretomos (Tomos Gee, wrth gwrs) a'i hanfon i'r Eisteddfod Genedlaethol i'w beirniadu gan DJ Williams, yntau wedi cael caniatâd yr awdurdodau i feirniadu o'r carchar.

Dangosodd hynny nad oedd angen ond ychydig ddygnwch i ennill sedd ar gyngor bwrdeistref nad oedd yn ymrannu'n bendant yn ôl pleidleisiau.

Penderfynodd Cyngor Bwrdeistref Ynys Môn brynu'r casgliad unigryw hwn o luniau fel eu bod yn cael eu cadw'n rhan o dreftadaeth yr ynys.

Sefydlu dwy gangen newydd yn ystod y flwyddyn; ail gangen yn Llanelli, sydd yn cwrdd yn y bore, a changen o fewn Cyngor Bwrdeistref Castell Nedd, y gangen gyntaf i'w sefydlu o fewn y gweithle.

Penderfynwyd derbyn y tendr isaf, a oedd yn rhoddi manteision ariannol sylweddol, a gyflwynwyd gan Gwmni Gwastraff Môn Arfon (cwmni a sefydlwyd ar y cyd gan Gynghorau Bwrdeistref Ynys Môn ac Arfon), yn hytrach na thendr Cwmni Llwyn Isaf Cyf.

WYTHNOS YR AMGYLCHEDD Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Taf Ela/ i nifer o weithgareddau ailgylchu yn ystod Wythnos yr Amgylchedd cyntaf y cyngor ar ddiwedd mis Medi.

(ii) Os na fyddai hyn yn dderbyniol yna fod pob cyngor dosbarth/bwrdeistref ar y pwyllgor yn cael tri cynrychiolydd er sicrhau mwyafrif i'r cynghorau hyn ar unrhyw bleidlais yn y pwyllgor.

Fel bod y problemau arbennig sydd yn wynebu ieuenctid heddiw yn cael eu datrys ac fel bod mynegiant mwy positif ac adeiladol o'u dyheadau, eu hofnau a'u hansicrwydd yn cael ei ddarparu, braf fyddai meddwl y gallasai pob Cyngor Bwrdeistref a Dosbarth yng Nghymru benodi Swyddog ieuenctid i fod yn gyfrifol am weithgareddau'r grŵp oedran hwn.