Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwriadol

bwriadol

Twpdra a dichell bwriadol 'newyddiadurwr' eilradd ddylai, a sydd, yn gwybod yn well oedd sail ymosodiadau rhyfeddol Betts.

Er mor rhesymegol yw'r awdur (neu oherwydd ei resymolder) mae'r llyfr hwn yn frith o anghysonderau bwriadol.

Credent fod yr holl adroddiad, oherwydd y dewis o Ddirprwywyr a chynorthwywyr, yn rhan o gynllwyn bwriadol i hyrwyddo amcanion Pwyllgor y Cyngor dros Addysg, a chreu cyfundrefn addysg wladwriaethol a fyddai'n hybu egwyddorion yr Eglwys Sefydledig.

Mae bodolaeth cynlluniau iaith yn brawf fod angen cynllunio bwriadol ar gyfer y Gymraeg ond nid ar gyfer y Saesneg wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog yng Nghymru.

Yn ôl y newyddion a ddarlledwyd gan y Lleng Ofod, y Madriaid oedd wedi ymosod arnyn nhw, ond y gwir amdani oedd mai cynllun bwriadol i feddiannu Anaelon a darganfod mwy am gyfrinachau Seros oedd hwn.

Rhan o gynllun bwriadol ar ran Llywodraeth Llundain i ddiboblogi'r ardaloedd gwledig oedd cau'r ysgolion.

Ac yng ngolwg y gyfraith y mae lladd bwriadol yn fwrdwr.

Oedi anorfod wrth godi gwersylloedd, yn hytrach na chreulondeb bwriadol, oedd yn gyfrifol am ddioddefaint y trueiniaid ar strydoedd Piranshahr.

Un o'r achosion diweddaraf o hyn oedd dyfarniad bwriadol, haerllug y Tribiwnlys Diwydiannol drwgenwog hwnnw ym mae Colwyn rhyw flwyddyn yn ôl, nad oedd gan Gyngor Sir Gwynedd yr hawl i fynnu bod gan ymgeiswyr am rai swyddi wybodaeth o'r Gymraeg.

Nid wyf wedi darllen nofel Saesneg o bwys lle nad yw'r awdur, ar wahân i'w ddeialog, hwyrach, sy'n bwriadol efelychu blerwch yr iaith lafar, yn dra manwl gywir.

Ond yr ydym yn ymwybodol hefyd fod gwahaniaeth rhwng y naill ladd bwriadol a'r llall.

Mae'n ddrwg gen i, 'doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn anfoesgar.' 'Roeddech chi'n swnio'n hollol fwriadol.' O'r gorau, bwriadol oedd o.

Credwn fod angen chwyldroi meddyliau ac arferion yn ogystal ag ailddosbarthu cyfleon a grym o fewn cymdeithas er mwyn troi hyn yn bolisi bwriadol ac yn realiti.

Yr oedd y plethu hwn yn beth bwriadol ganddo; yn sicr ddigon, nid gwadu'r Gymraeg oedd ei amcan: Perthyn y mae Elfed i'r un ysgol o feddwl a Cheiriog yn hyn o beth.