Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwriadu

bwriadu

Cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fod yn bwriadu ymprydio, hyd farwolaeth pe bai raid, hyd nes y câi Cymru ei sianel ei hun.

Doedd o ddim wedi mynd i'r gwasanaeth: trefnodd ei fod yn recordio rhaglen, ac er bod Elsbeth wedi bwriadu mynd galwodd rhywun i'w gweld y funud olaf.

Roedd hi wedi bwriadu cael gwledd gyffelyb y llynedd, ond cafodd Eurwyn ryw virus a bu'n rhaid gohirio tan eleni.

Ond peidiwch â thynnu wyneb hir þ 'dydw i ddim yn bwriadu ymdrin rhagor â'r pwnc dyfrllyd hwnnw.

Does dim digon o safleoedd sydd wedi eu bwriadu ar gyfer plant, ac felly dydy plant ddim yn gallu manteisio'n llawn ar y cyfrwng newydd.

Yr enghraifft a ddenodd sylw yn syth oedd y ffaith fod Victoria 'Posh Spice' Adams a David 'Kicker' Beckham yn bwriadu prynu ty haf yn Abersoch -- lle gyda 64% o dai haf eisioes.

Mae Theatr Gorllewin Morgannwg yn bwriadu teithio dwy sioe rhwng Ionawr ac Ebrill.

Mae BBC Cymru yn bwriadu gwneud cyfraniad sylweddol tuag at helpu i gyflawni amcanion Strategaeth Economaidd Genedlaethol Cymru.

Efallai nad oedd Wilson Knight yn bwriadu i ni gymhwyso ei frawddegau at eiriau unigol ond mae'n demtasiwn cymryd defnydd Waldo o'r gair 'awen', ac, o ran hynny, y gair 'adnabod' fel enghreifftiau o "words inflated by mind", ac arwain hyn ni i ystyried pa fath o feddwl a oedd gan Waldo, gan gynnwys yn y gair 'meddwl' nid yn unig y meddyliol ond hefyd y teimladol yn ei wneuthuriad.

Mewn dim amser mae Cassie wedi cael rhan helaeth o fusnesi'r Cwm i noddi tudalen yn y calendr er bod amheuon mawr gan Hywel a Steffan yn enwedig o glywed bod ei fam a'i nain yn bwriadu ymddangos yn y calendr.

Edward yn ffonio ben bore i ddweud ei fod yn bwriadu dod yma tua hanner dydd.

A dyna fi, yn hollol anfwriadol, wedi taflu dþr oer ar yr 'ha ha' a minnau wedi bwriadu codi'ch calonnau chi, a f'un innau i'ch canlyn.

Mae'n bwriadu gwneud rhywbeth tebyg eto, ond y tro hwn gan fentro ychydig yn bellach ac ar gyfer rhaglen deledu.

Roedd gan yr hogiau lenni du bits ar eu ffenest: syniad gwych Dad oedd yn bwriadu defnyddio'u llofft yn stafell dywyll i ddatblygu lluniau rywbryd, ymhen tuag ugain mlynedd, ar ôl iddyn nhw adael cartre.

Roedd nifer y disgyblion a oedd yn bwriadu dal ati i astudio'r Ffrangeg y flwyddyn ganlynol yn arwyddocaol uwch na'r niferoedd a gaed cyn hynny.

Pe byddai'r Bod Mawr wedi bwriadu inni dreulio cymaint o amser ar bedair olwyn byddai wedi rhoi castars dan ein gwadnau.

Ond roedd Ifor yn bwriadu ei gneud nhw i gyd rhyw dd'wrnod.

Ond gwyddem un peth - 'Roedd Chernobyl heb fod yn bell iawn o'r ffin â Slovakia, ac 'roeddem ni yn bwriadu teithio i gyfeiriad y cyfan.

Ac meddai Defi Jones, Glangors, a oedd yn bwriadu cystadlu nesaf: "Brenin mawr," meddai "dyna Wil wedi malu nhelyn i'n grybinion"!

Gallwn, gallwn fod wedi mynd ato a'i gofleidio, doeddwn i ddim wedi bwriadu peidio.

Pwysleisiodd yn ei ddatganiad fod gan John Hollins ddwy flynedd arall o gytundeb fel rheolwr - mi wnaeth o arwyddo'r cytundeb yn gynharach yn y tymor - a bod cwmni Ninth Floor, perchnogion presennol y clwb yn bwriadu parchu'r cytundeb hwnnw.

Gae'r Gymdeithas yn bwriadu, trwy gynnal arolygon diogelwch, gwell Qweithdrefnau, hyfforddi a rhagweld synhwyrol gan reolwyr a gweithwyr i wneud cyfraniad sylweddol at atal damweiniau.

Bu'n rhaid i ni gyfnewid swm penodol o arian am bob diwrnod yr oeddem yn bwriadu aros yno , ond 'roedd y gyfradd newid yn afresymol o uchel (Dyma ran o ffordd y Comiwnyddion o gael arian o'r Gorllewin i mewn i'r wlad.) Wedi cyfnod go faith, cawsom fynd ar ein ffordd.

Yn y man, gwelwn o'm blaen arwyddion yn pwyntio at drefi nad oeddwn yn bwriadu mynd ar eu cyfyl Betws y coed, Bethesda, Conwy.

Mae dau o'n haelodau - Huw Lewis, 20 oed o Aberystwyth, a Dylan Davies, 20 oed o Bencader - yn bwriadu cerdded bob cam o'r 150 milltir.

Y gwir amdani yw, pe byddair Bod Mawr wedi bwriadu inni gymryd yr holl fitaminau gwallgof yna sy'n cael eu gwerthu, mi fyddai o wedi eu rhoi nhw mewn cwrw yn barod.

Chwilio am brisiau tocyn tren i Beijing - bwriadu mynd i fyny am Inner Mongolia dros wyliau Mai.

Gyrrodd i fyny at Cefnbryn Isaf, ac egluro i David Lewis a'i wraig Anne fod Adran Ryfel y Llywodraeth yn bwriadu meddiannu'r ardal ar gyfer ymarfer tanio.

Er eu bod yn elfennol ac wedi eu bwriadu i gychwyn plant bach yn yr ysgolion Sul, ni ddylid eu diystyru.

Ond yr hyn a'm tarawodd i, a'r tafod yn y boch, oedd: os yw merched sydd yn bwriadu mynd i'r weinidogaeth yn fwy tebyg i ddynion, ac i'r gwrthwyneb, yna beth felly yw'r anhawster ynglyn ag ordeinio gwragedd yn yr Eglwys Anglicanaidd?

Dim ond tridiau'r ŵyl roedd hi wedi bwriadu eu treulio gyda'i merch a'i theulu yng Nghasnewydd, ond wedyn, wrth gwrs, fe ddaliodd annwyd.

Maent yn penderfynu y tro hwn i gael twll ar ganol y graig; felly mae'r ddau dyllwr yn mynd i ben y graig hefo dwy raff fawr, ac yn eu rhoi'n sownd ar y top hefo cerrig, wedyn mae un o'r dynion yn mynd i lawr y graig ar hyd a rhaff i'r lle y maent wedi bwriadu tyllu, ac yn gwneud dau dwll bach yn y graig rhyw lathen oddi wrth ei gilydd.

Awgrymodd y dylai Fred wybod bod gan Mary gariad arall - rhywun o Gaerllion - a'i bod yn bwriadu cwrdd ag ef am un o'r gloch y prynhawn hwnnw, a'i fod ef (Ali) wedi rhoi decpunt iddi yn ei phoced a'i chynghori i fynd i ffwrdd i ystyried y peth.

Ar yr un pryd, drwy ddarlledu lluniau o sachau bwyd a oedd yn amlwg wedi'u dwyn ac ar werth ar stondinau'r farchnad a thrwy adrodd straeon am famau'n `aberthu' eu babanod, doeddwn i ddim yn bwriadu darbwyllo'r Cymry i beidio â rhoi.

Aeth yr esboniad yn llawer mwy cymhleth nag yr oedd hi wedi bwriadu iddo fod ac - rhoi i'r pum buwch yn y Cae-dan-tŷ.

Mae Abertawe yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.

Cawsom ar ddeall fod Mrs Thatcher yn bwriadu dod i'r achlysur.

Wrth edrych drwy'r ffenest mae arnaf ofn ei fod yn cyweirio ei wely ac yn bwriadu aros hefo ni am sbel.

Ond, mae gobaith bod y Swyddfa Gymreig yn bwriadu dechrau'n fuan ar y gwaith o adeiladu ffordd newydd rhwng Dinmael a Thy Nant i osgoi Treoson y Glyn, gan fod yr holl drefniadau statudol bellach wedi'u cwblhau.

Efallai y byddai'n amau fy un i wedi gweld lle roeddem yn bwriadu mynd.

y peth yr wyf fi yn bwriadu dal sulw arno: .

Y chwech sy'n bwriadu mynd ydi'r Maer, Cyng Brian Williams; ei ddirprwy, Cyng Tudor Owen; a'r Cyngr Meurig Williams, Robert Charles Parry, Jack Thomas a Mair Williams.

Roedd un o'r tai wedi'i brynu gan wr a gwraig o'r Rhondda, oedd yn rhedeg busnes yn Llunden ar y pryd, ac yn bwriadu ymddeol i Lan-y-fferi ymhen dwy flynedd.

Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.

(d) Cau Swyddfa'r Arolwg Daearegol yn Aberystwyth CYFLWYNWYD llythyr Mr Cynog Dafis AS yn hysbysu bod yr Arolwg Daearegol yn bwriadu cau'r swyddfa uchod er mwyn arbed swm cymharol fechan o arian.

Mi godais yn fore, Mi redais yn ffyrnig I dy Mr Jones I mofyn calennig, Rown wedi bwriadu Cael swllt neu chwe cheiniog, Roedd rhaid im fodloni Ar ddime neu geiniog.

Gwn i'm mam gynnig enw 'crand' ar ei mab a gwn ei bod wedi bwriadu rhoi'r enw Merlin imi gydag enw anghyffredin arall.

Doeddwn i ddim yn bwriadu sôn o gwbwl am ddigwyddiad pwysicar wythnos - y darganfyddiad syfrdanol fod gan Judy Finnigan ddwy fron.

"Mae angen ffeindio pethau sy'n gyffredin i'r genhedlaeth hŷn a'r ifanc." Mae'r mudiad eisoes wedi dechrau crelu 'canghennau' newydd i aelodau iau o dan yr enw Clybiau Gwawr ac mae Non Griffiths yn bwriadu parhau gyda'r polisi.

"Doeddwn i ddim wedi bwriadu bod." Agorodd ei llygaid yn fawr.

Awgrymodd - - y byddai'n dda i gynhyrchydd sydd yn bwriadu ariannu'r datblygu syniad i drafod y cynnwys yn fras gyda'r comisiynydd cyn gwneud y buddsoddiad rhag ofn fod sawl syniad tebyg ganddo o dan ystyriaeth neu broblem arall tebyg.

Mae nhw'n ofni y byddai'n costio arian iddyn nhw." Mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno strategaeth newydd y flwyddyn nesaf i helpu digolledu'r anabl ac unrhyw ddarpar gyflogwyr.

Mae dwy wlad arall, sef Rwsia a Norwy, yn bwriadu dechrau rhaglen newyddion i blant cyn bo hir.

Mae Abertawe hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw'n bwriadu arwyddo dau ymosodwr newydd.

"'Rydw i wedi sefyll yn gadarn yn erbyn pob storm hyd yn hyn a tydw i ddim yn bwriadu ildio i'r gwynt hwn heno chwaith," meddai'r dderwen falch.

Roedd John Moriarty Owen o Stryd y Ffynnon, Gerlan, a Iolo Jones o Stryd Brynteg yn bwriadu rhedeg i fyny ac i lawr pedwar copa ar ddeg o fynyddoedd Eryri er mwyn codi arian i brynu offer arbenigol i Steffan Wyn, mab bychan Kevin a Meinir Thomas, Stryd John, Bethesda.

Ar ôl y gêm wfftiodd hyfforddwr Penybont, Dennis John, honiadau ei fod o'n bwriadu arwyddo maswr Abertawe, Cerith Rees.

Mae'n ddrwg gen i, 'doeddwn i ddim yn bwriadu bod yn anfoesgar.' 'Roeddech chi'n swnio'n hollol fwriadol.' O'r gorau, bwriadol oedd o.

Wedi iddi hi ddychwelyd i Abergele, cafodd John ar ddeall fod yr hen ddyn yn bwriadu gwerthu'i dipyn stoc.

Doedden ni ddim wedi bwriadu mynd yno.

Ofnai rhai mai cynllwyn ydoedd cefnogaeth y Blaid Rhyddfrydol er ceisio marchogaeth ar gefn y farn gyhoeddus a oedd yn prysur gryfhau o blaid Senedd; "Cast etholiadaol ydyw%, meddai Saunders Lewis gan gyfeirio'n amlwg at yr etholiad cyffredinol a oedd ar ddod, a mynnai rhywun fod yn Rhyddfrydwyr yn bwriadu defnyddio Cymru er mwyn eu plaid a Phlaid Cymru am ddefnyddio'r Blaid er mwyn Cymru.