Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bws

bws

Cafwyd noson i'w chofio a threfnwyd y daith gan Miss Eleri Lloyd Jones a gyrrwr y bws mini oedd y Parchedig Olaf Davies.

Maen nhw'n dweud na fedrwch chi werthfawrogi'r Paith onibai eich bod chi mynd mewn bws.

Digwyddodd y ffrwydriad wedi i'r bws adael Kfar Darom.

Dere, mae'n well i ni fynd o 'ma, yn glou.' Ar y bws y noson honno y clywodd Ifan sut yr oedd Gary wedi poenydio'i ffrind hyd nes iddo daro'n ôl.

Mae modd rhagweld y troeon yn y ffordd wrth astudio gwifrau teligraff yn y pellter; mae gweld rhywun yn sefyll mewn arosfan bysiau yn arwydd go lew y gallai fod bws rownd y tro nesaf; chwiliwch yn y pellter am geir yn dod i'ch cyfarfod, a gofalwch eich bod yn tynnu a gwthio'r llyw drwy'ch dwylo yn hytrach na chroesi'ch breichiau.

Wedi bod mewn bws am bron i ddeng awr yn teithio ar draws y paith sych roedd gweld y cwm gwyrddlas yn fendigedig.

Hefyd, bwriedir adeiladu arosfan bws ar gyfer teithwyr i Rhuthun.

Un tro, tra'n teithio mewn bws o Luimneach i Tra/ Li, safodd y bws mewn tref fechan, a dyma'r gyrrwr yn sefyll yn y blaen a chyhoeddi wrth y teithwyr "There will be a short wait of about twenty minutes to wait for a connection", ac allan â fo o'r bws.

Roedd canolfan Alamar yn cynnwys ffatrioedd, clinigau meddygol, siopau, gwasanaethau bws - ac ysgolion yn arbennig.

Hanner awr o daith mewn bws 'Crosville' unllawr, hen ffasiwn, a'r conductor yn dosbarthu tocynnau unigol o flwch pren pwrpasol.

Ond ar gyrion Y Gaiman rhaid aros yn gyntaf am lymaid - a chân coeliwch neu beidio - yn Na Petko, a chyn bo neb yn sylweddoli bron y mae'n bedwar o'r gloch y bore cyn bo pawb ar y bws i ddychwelyd yn ôl dros y paith yn llawer iawn distawach nag yn ystod y daith i lawr.

Daeth Robin draw i'r garej unwaith i chwilio am waith, ac erbyn hyn bws undyn oedd hi; 'roedd yr hen drefn o fod yn ofalydd i gychwyn ac yna mynd ymlaen i ddreifio wedi gorffen.

Yna fe dynnodd y bws i mewn i le bwyta ar y draffordd a chyhoeddodd y gyrrwr fod yn rhaid i ni fynd oddi ar y bws am ein bod yn gwneud gormod o sŵn.

Yn ôl y drefn arferol, roedd pawb oedd wedi mynd ar y trip wedi cyfrannu ychydig o newid mân 'fel cydnabyddiaeth i'r dreifar', ac rwan fod pawb arall wedi disgyn o'r bws oddi allan i'r post, fe estynnodd Elsie Williams y cwbl i Elfed: swp o ddarnau dwy geiniog a phum ceiniog ac ambell bisyn deg wedi eu casglu mewn pecyn marjarîn oedd yn dal i gynnwys ychydig friwsion ar ôl brechdanau rhywun.

Daliasant y bws yn ôl i'r pentref gan gyrraedd yno o fewn rhyw ddeng munud wedi i'r gloch ganu.

Er i ni wadu, roedd yn rhaid iddo chwilio'r bws am fod bwyta sglodion ar y bws yn erbyn rheolau'r cwmni, medda fo.

Dylid creu strategaeth a Chynllun Datblygu Clwstwr a'i gyflwyno i rieni a'r gymuned i geisio cynigion o gymorth o ran codi arian ar gyfer bws mini a dulliau eraill o gludo plant o adeilad i adeilad ac i hybu ymateb o ran addysg gymunedol.

ar y ffordd yn ôl i'r arosfan bws prynodd debra hanner pwys o rawnwin mewn siop yn y stryd fawr.

Ar ben hynny, dydi bws arferol y côr gyda'i thy bach a'i pheiriant coffi ddim ar gael.

Pan fydd hi'n law trwm mae'r ffyrdd hyn yn foroedd o fwd gan olygu nad yw'n bosib i na bws na char eu defnyddio ar adegau.

Y cam nesaf oedd i'r gyrrwr ein cyhuddo o fwyta sglodion tatws ar y bws oherwydd dychmygai fod arogl sglodion yn yr awyr.

Tynnodd ei sgrafell dros esgob Bangor a'r deon am iddynt ofni cario croes ar bererindod i Ynys Enlli heb addewid o ymbare\l a bws a thywydd braf i groesi, gan of yn yn bryfoclyd, pa fath dywydd oedd hi tybed pan gariai Iesu ei groes real, drom, ar lethrau Calfaria.

Cafodd gyfle i siopa rywfaint yn Heol y Bont-faen ar y ffordd, a chael sana a chig moch a bara, a hannar ffag efo Elsi ar y bws wedyn!

Er bod y bws o Esquel awr a hanner yn hwyr yn cychwyn ar ei hwyth awr o daith i'r Gaiman y mae pawb mewn hwyliau da.

Toeddwn i ddim wedi meddwl dim am y sach nes gweld cymaint o barch a gawsai ar y bws, a'i bod wedi cael lle rhwng y ddau frawd yn y caffi.

Yr ail wythnos, aethon ni mewn bws ar hyd y Paith.

Ar ddiwedd y diwrnod roedd hi'n braf iawn cael sythu'r coesau a cherdded yn ol i'r gwesty yn hytrach na rhewi wrth aros ugain munud am y bws.

O dro i dro, byddem yn cael trafferth gyda'r gyrrwr bws a digwyddodd hyn ar y ffordd i Leeds un tro.

Go brin mai bws yw'r peth cyntaf y mae rhywun yn meddwl amdano o glywed enw Liz Hurley.

Wedi'r cwbl, y trefniant a wnaethpwyd efo'r cwmni oedd y buasai'r bws yn ôl yn y garej erbyn chwech.

Y gwasanaeth bws troli olaf yng Nghymru yn dod i ben yng Nghaerdydd.

Gan fod peth amheuaeth ynglŷn â'r lle'r oedd i ddod i fyny ar y bws bu'n rhaid oedi tipyn cyn cychwyn hebddo yn y diwedd.

Daeth plismon mewn i'r bws a dod yn fygythiol ata i - fe gês i dipyn o fraw ond wedi iddo weld fy mhasport i roedd e'n llawer mwy cyfeillgar.

Ar hyn, cyrhaeddodd y bws y garej ym mhen uchaf y pentref.

Codais beint o'r du, a phwy welwn yn eistedd ar stôl yng nghornel y bar ond gyrrwr y bws.

Pan oeddwn yn byw ym Mangor yr oedd Ffrancon Thomas yn byw mwy neu lai dros y ffordd i ni yn Orme Road a chofiaf yn dda amdano yn cerdded yn fan ac yn fuan i ddal y bws i Fethesda bob nos Lun i ymarfer y Cor.

Mewn ffordd doedd dyn yn disgwyl dim gwell gan bobl yn eu diod, ond fe fyddai sglyfaethdod ar ran blaenoriaid ar dripiau Ysgol Sul a chynghorwyr Sir ar ymweliadau swyddogol yn arfer codi dychryn arno - nid felly y'i magwyd ef i ymddwyn ac roedd o wedi meddwl fod pawb parchus wedi rhannu'r fagwraeth ofalus gafodd ef - ond os oedd pymtheng mlynedd o yrru bws wedi dysgu rhywbeth iddo, roedd o wedi ei ddysgu nad oedd pawb yn rhannu'r safonau uchel o lanweithdra a moesoldeb a gyfrifid mor anhepgor gan ei fam ac yntau.

Oddi yno yr oeddwn wedi cychwyn am hanner awr wedi saith y bore, gan newid yn Filisur ar gyfer Davos a dal bws bychan oddi yno i Durrboden yn y Dischmatal.

'Nôl yn Ouromieh, daeth pwysigyn lleol ar y bws a rhoi darn o siocled yr un i ni 'fel iawndâl am yr holl flerwch.' Dyna'r unig arwydd o garedigrwydd a gawsom gan ein meistri.

Wedyn dyma nhw'n mynd adre ar y bws ac roedden nhw'n dal i wenu'n braf.

Bu bron i'r meindars gael eu sathru dan draed wrth i bawb ohonom ruthro o'r bws a rhedeg fel cathod i gythraul tuag at Iraq.

Ciciodd hi ei helm o'i afael hefyd ac aeth honno dan olwynion y bws ysgol.

Rhaid oedd iddo ddanfon y plant bob dydd o'r fferm i'r lôn fawr at y bws ysgol, gan mai bychan oeddynt, a'r daith o'r fferm i'r lôn yn bell.

Gall tocyn bws arbennig ddod â chryn lwc i'w ganlyn, fodd bynnag.

Roedd pawb yn barod am saith i fynd adref er i beth rhwystr ddigwydd oherwydd fod rhai o'r bechgyn wedi eu dal yn ceisio dwyn bwrdd o'r dafarn a'i gario ar y bws.

Nid oedd yr holl bapurau da-da a phecynnau sigarennau'n synnu dim arno, nac ychwiath y sosej rôl wedi hanner ei chnoi oedd wedi ei gwthio i lawr ochr y sêt hanner ffordd i lawr y bws ar yr ochr chwith.

Cymerodd ein bws awr gyfan i ddringo'r pum milltir o ffordd droellog a arweiniai at y ffin.

ymhen peth amser clywodd hi'r bws yn dod ar hyd y stryd.

Doedd yna fawr o siâp ar ddim arall ac fe fyddai'r `bws' i'n cario o'r awyren i'r adeiladau - hen, hen lori gyda threlyr rhydlyd - wedi methu ei MOT gwpwl o ddegawdau ynghynt.

Ar y ffordd adref, un diwrnod, dyma yrrwr y bws (a oedd yr adeg honno yn fws gwasanaeth Crosville) yn stopio cyn cyrraedd Ty'n y Coed (ar ffordd Penmachno) ac yn mynd i'r cae i hel myshrwms - a'r plant a'r bobl yn edrych arno heb gwyno dim.

Allan â ni ac roedd Bholu y tu allan yn ein disgwyl mewn bws mini.

roedd ganddi hi ugain munud i aros cyn i'r bws ddod.

Bws Caerdydd - For a career in the fast lane... medda hi - pan fyddai for a career in the bus lane wedi bod yn gywirach.

Y drefn a barodd fod tren a thacsi a bws yn cribinio darn gwlad o blant, a'u cludo ddegau o filltiroedd i honglaid o ysgol bell i fwrdd.

Fydd rhaid i chi ddim cael bws o Sir Fôn felly." Felly y derbyniodd y tri gynnig caredig Huw.

Pan oedd nhad yn gweithio i'r BBC, yn y dyddiau cynnar, byddai'n dal y bws hanner awr wedi wyth y bore o Fodffordd i gyrraedd Neuadd y Penrhyn, Bangor erbyn tua naw.

Cafodd gryn drafferth i esgyn i'r bws.

Taith bws wedyn dros y ffin i Awstria ac i bentref Kitzbuhel yn y Tyrol.

Ac i ffwrdd â nhw i lawr y lôn i ddal y bws i'r dre.

Cofiais mewn fflach am y lluniau roedden ni wedi eu tynnu ar fwrdd yr Hercules, a'r lluniau o sefydliadau milwrol a dynnwyd drwy ffenestr y bws.

Pa faint haws fyddai o a chael llond bws o Gymry tebyg iddo fo ei hun ar ei wynt?

"Ma'r bws 'di gadael Gwalchmai ma' siwr.

Fel arfer, byddai bws fach wedi ei threfnu i ddod â'r hogiau draw.

Ble mae e nawr, 'ta beth?' 'Dyw e ddim ar y bws.

Wedi awr yn unig o ffilmio, daeth y milwyr ar ein holau a'n gwthio i gyfeiriad y bws.

Roedd y plant yn gorfod sefyll yr wythnos yn Aberhonddu, ac arferai bws rhyw fath o lori - ddod lan unwaith yr wythnos i fynd â nhw i'r dre'.' Er hynny, gwnâi'r athrawon eu gorau i ledu gorwelion eu disgyblion, gyda thripiau i Abertawe i ddangos y môr iddynt, neu i weld Cefn Brith.

Eisteddai Akram a Bholu yn seddau blaen y bws, a Klon a minnau yn y cefn.

Ac i ffwrdd _ nhw i lawr y l_n i ddal y bws i'r dre.

Yr apêl honno sy'n gyfrifol fod yna lond bws o aelodau Côr Esquel ac Elda eu harweinydd yn gwibio yn awr yng ngwres yr haf 700 o gilometrau ar draws y paith ar gyfer perfformiad unigryw o'r offeren dan arweiniad Ramirez ei hun.

Yr oedd a (am asphalta) yn dynodi fod y bws yn teithio ar ffordd gyda wyneb arni fel yr ydym ni yn gyfarwydd ag ef ond v (am valle, y gair Sbaeneg am ddyffryn yn cael ei ynganu vashe) yn dynodi ffordd gefn gwlad heb wyneb caled iddi.

Y rhieni yn berchen bws sy'n mynd i Shenzhen unwiath yr wythnos.

Es ato am sgwrs ac mi ddywedodd: "There's no connection, it's just that it's thirsty work driving the bus." Ar ôl gorffen yfed, aeth y ddau ohonom i'r bws a pharhau'r daith - heb neb yn cwyno nac yn holi cwestiynau.

Yr olaf a ddewisais a chychwyn mewn bws am hanner awr wedi pump o Lerpwl a chyrraedd Caeredin am hanner dydd.

Aeth llond bws o Balestiniaid dros y bont.

Wel, doeddwn i ddim am eistedd yn y bws am ugain munud, ac felly es am beint i'r bar oedd â'i ddrws yn gyfleus iawn yn union gyferbyn â drws y bws.

Mae'n nhw'n ymylol ac eto maen nhw yng nghanol ein bywydau, labeli tuniau bwyd, sigarennau a thybaco, poteli gwin a diod, pacedi powdwr golchi, tocynnau bws, trên ac awyren, arian papur, bondiau.

Yr oeddem ni awr a hanner yn hwyr yn cychwyn oherwydd bod pedwar blwch o offer allweddol yn rhy fawr i fynd ar y bws a threfniant arall yn gorfod cael ein wneud ar eu cyfer.

Ar y bws gwyn hwnnw fyddai'n teithio i gyfeiriad Beddgelert yr oeddwn i.

Tua chanllath oddi yno bu'n rhaid i'n bws stopio am fod rhes o geir yn sownd yn y mwd ar y ffordd.