Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwt

bwt

Clywed y môr yn ei herio ar y gwynt o'r bar a mynd yn bwt o gogydd deuddeg oed ar long hwyliau ei dad.

Erbyn amser cychwyn i'r cyfarfod yr oedd gennyf bwt o anerchiad, ac nid oedd y siarad yn blino dim arnaf, ond crynwn yn fy esgidiau rhag ofn i rywun of yn cwestiwn.

Y tair cyntaf a ddiflannodd oedd Wmffra, Elias Jôs, a Beti Bwt.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

Eu llosgi'n ulw a'r mwg yn ymlwybro hyd y bryniau fel trafaeliwr angau yn sūn clindarddach y fflamau, nes bod popeth a phobman yn ddu, y tân sy'n llosgi'r cyfan yn fud a'r holl sioe yn stopio'n bwt ym môn y clawdd terfyn.

Digwyddodd y cyfan ar linell bump ar hugain Llanelli, gyda Phil Bennett yn rhoi cic bwt i aildde/ chre'r chware; f~nne'n ply-gu i/ godi'r bêl, ond fel ro'n i'n sythu 'nghorff, dyma dacl ffyrnig yn 'y nghefn gan ddau o'r gwrthwynebwyr.

Wrth sbio ar ei choesau hirion daeth i'w feddwl bwt o hen gân werin yr arestiodd o rywun am ei chanu rywdro:

Yr oedd adroddiad un paragraff ar gyfarfodydd pregethu, neu erthygl goffa fach am rywun yn yr ardal, neu bwt ar ryw bwnc diwinyddol yn gwbl dderbyniol.

Yr oedd yn oriog ei agwedd at bobl, ambell dro'n eu canmol i'r cymylau, dro arall yn digio'n bwt â hwy.

A Dr Zota yn cysgu yn Bod Eglur y noson honno wedi blino yn bwt ar ol y daith.

Gweithred ddigon diniwed ond un a gynddeiriogodd rhyw bwt o heddwas yn arw.

Ond pan gafwyd organ yn y capel, a honno'n rhuo yn nhwll ei glust, digiodd yn bwt wrth 'y ddelw fawr Deiana' fel y galwai ef hi, ac aeth am yr eglwys.

Deuai'r rhan fwyaf o'r sŵn o un o'r ddwy stafell, yn weiddi a chwerthin a hynny'n gymysg ag ambell bwt o gân yn cael ei tharo mewn gobaith a chlecian achlysurol dominôs ar fwrdd.