Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwyllog

bwyllog

Fe âi ati yn bwyllog a threfnus i gynllunio ar gyfer y pedair tasg.

'Nid Vatilan mohonof o gwbl,' meddai, yn mesur ei eiriau'n bwyllog.

Un o'r rhai hynny y bydd dyn bob amser yn edrych ymlaen at ei weld oedd Tomos Roberts; nid er mwyn na thrafodaeth bwyllog ar bwnc na hyd yn oed sgwrs am bethau bob dydd, ond er mwyn cyfarfod y dyn ei hun.

Ond wedi derbyn y swydd, ymrôdd i gyflawni ei waith yn bwyllog a chydwybodol.

Anaml y gwelid ef yn sefyll yn bwyllog yn ei unfan, am y byddai'n gwingo'n barhaus.

Cerddodd pawb yn bwyllog i ganol y pentre ac at y ffynnon ond er mawr siom roedd hi wedi sychu'n grimp.

Ymhob un ohonynt, dadansoddir y testun yn bwyllog, symudir o bwynt i bwynt yn rhesymegol, dosrennir y pwyntiau'n is- adrannau, nodir yr athrawiaethau sydd yn ymhlyg ym mhob rhan, a goleuir y datganiadau a wneir gan brofion, sef cymariaethau, trosiadau, cyferbyniadau, daduniadau, oll wedi'u tynnu naill ai o'r Ysgrythur ei hun, o lyfrau a ddarllenasai Rowland, neu o'r byd naturiol yr oedd ei ddarllenwyr yn gynefin ag eś Mae iddynt fframwaith o resymu clir.

Mi fydd yn rhaid i rywun gynhyrfu'r hogia', yr hogia' fydd heb ddim i'w wneud!" "Aros ein hamser fydd raid i ni," ychwanegodd Elystan yn bwyllog, "ac wedi i'r hin gynhesu peth, mi af i â thi i lawr i'r Clas belled â'r Betws, Gwgon.

Mewn pwyllgor, er y gwelid ac y clywid BLJ y rhefrwr wrthi-hi weithiau, yr oedd fel arfer yn bwyllog eithriadol.

Felly rhaid troedio yn weddol bwyllog.