Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwysau

bwysau

Wedi i'r trên fynd am ychydig filltiroedd, yn sydyn, teimlais bwysau ar fy ysgwydd dde; roedd un o hogiau'r eroplens, yr un â'r cetyn, ar fy ysgwydd dde ac heb gymaint ag '...' wedi gwneud clustog ohoni.

Efallai bod dylanwad gohebydd Cymraeg dipyn llai, ond dibynnu ar bwysau poblogaidd y mae ewyllys gwleidyddol i weithredu, ac mae llais Cymry yn llais pwysig yng nghôr y cyhoedd y mae'n rhaid i lywodraeth gwledydd Prydain wrando arno.

Dim gormod o bwysau arnyn nhw ddoe wrth guro Luton 3 - 1 ar y Cae Râs.

Fe gymerai o fath bob nos a phob bore a hynny wrth ei bwysau.

Dywedodd hefyd, Fab dyn, yr wyf yn torri ymaith y gynhaliaeth o fara o Jerwsalem; mewn pryder y byddant yn bwyta bara wrth bwysau, ac mewn braw yn yfed dŵr wrth fesur.

'Roedd Rhian dan bwysau aruthrol a cheisiodd ladd ei hun wrth baratoi at yr arholiadau.

ER pan ddywedodd Wiliam yn herfeiddiol na fedrai ddioddef bod yn gardotyn yn hwy yn y chwarel a'i fod am fynd i'r Sywth - yr oedd fel petai bwysau wrth ei chalon.

'Doedd o ddim rhyfedd efallai fod yna ffin go bendant ar bwysau'r llwyth a ganiateid yn y ferfa honno.

Rhoes y mewnlifiad trwm cyn ac yn fwy byth yn ystod y rhyfel bwysau llethol wrth gefn y broses Seisnigo yn yr ardaloedd diwydiannol, tra oedd y rhyfel ei hun yn dyfnhau Prydeindod y Cymry.

O gasineb tuag at ei wraig ac o ddiffyg cwsg wrth ei hochr collodd Ynot Benn bwysau, gwelwodd ac ymgrebachodd, a heliai ei draed bob dydd i westyau a chlybiau lle cai gwmni a chydymdeimlad.

Gwir bod yna lenorion yng Nghymru o hyd sy'n ddigon ffodus i gael y Gymraeg yn famiaith, ond y maen nhw dan bwysau hefyd.

Ni ddylech gael bocs o siocledi bob tro y byddwch yn colli rhywfaint o bwysau, neu fe fyddwch yn ol yn y dechrau unwaith eto!

Un bore Gwener fe welwyd Jim yn crymu o dan bwysau cant o lo ar ei ffordd i gwt glo Ty'r Ysgol yn ystod arddangosiad celfydd i ni'r plant gan y prifathro o grefft taflu lasso.Bu'r demtasiwn yn ormod i'r gwr o Batagonia.

'Bydd y gangen a gollodd y mwyaf o bwysau, o ran canran, yn ennill hamper o fwydydd iach, i ddathlu!

Euog, ie, - ond yr oedd y cosbau ysgafnach a ddyfarnai'r llysoedd mewn achosion fel hyn yn adlewyrchu'r teimlad fod yr euog o dan bwysau teimladol anghyffredin.

Nid yw tatws eu hunain yn peri ennill llawer o bwysau, yr ymenyn y grefi neu saws a fwyteir i'w canlyn sy'n ychwanegu caloriau.

Yna, dan bwysau bygythiad yr Ail Ryfel Byd i fodolaeth cenedl y Cymry, mae'n mynegi ei safbwynt yn ddigamsyniol.

Wel rwan yntê, dyma'r malwr yn mynd i ben draw'r bonc ac yn nôl wagen, peth rhywbeth yn debyg i focs sgwâr heb gaead arno ac un pen wedi ei dorri i ffwrdd, a'r bocs hwn wedi ei osod ar bedwar olwyn, ac yn dal rhywbeth o ddwy dunnell i ddwy dunnell a hanner o bwysau.

Magwyd ef yn y cyfnod braf gynt, cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, pan feddylid fod popeth yn gwella wrth ei bwysau, a'r unig beth y disgwylid i bawb o'i gyfnod ei wneuthur oedd cadw'u dwylo ar yr olwyn.

Toc roedd yn crynu ac yn llithro ond cydiodd yn dynnach yn ei ffon fagl i gynnal ei bwysau wrth iddo wasgu ei law arall yn erbyn y graig.

Wrth gwrs, mae lens o'r maint hwn yn drwm iawn, ac yn plygu dan ei bwysau.

Achosir yr argyfwng sy'n poeni'r genedl gan bwysau gwleidyddol; felly y mae'n rhaid ei ddatrys yn wleidyddol.

Pwy oedd yn penderfynu faint o bwysau roedd rhaid i bawb ei golli?

Ond ar ôl dweud hynny, ddaru Towyn erioed fygwth peidio noddi'r ysgoloriaeth, na rhoi unrhyw bwysau ar yr Eisteddfod i lacio'r Rheol Gymraeg.

Rhoddai'r dwblwr holl nerth ei freichiau cryfion i blygu'r blaten boeth, a chyn i ddeupen y blaten gyfarfod â'i gilydd ar lawr y felin, rhodd ai'r dwblwr holl bwysau'i glocsen ar y blaten i ddyfod â'r dybliad i fwcwl.

Nid yw'n ymddangos bod unrhyw bwysau ar neb i brynu.

Pan wnaeth o hynny fe deimlodd ryw ollyngdod mawr, fel pe bai rhyw bwysau oedd yn ei dynnu i lawr yn ei adael.

O dan bwysau enfawr y gallu ymerodrol, daeth y Cymry eu hunain i gredu nad oedd werth yn y Gymraeg.

O hynny ymlaen yr oedd holl bwysau'r Blaid o'r tu ôl i Ymgyrch unol ac annibynnol.

Pwrpas yr hormonau hybu tyfiant oedd llonyddu'r anifail, gan alluogi iddo ddod i fwy o bwysau fel anifail gorffenedig.

* pa mor gyfforddus ydi o i bobl efo'ch math chi o amhariad; * a ellid ei ddefnyddio'n hawdd ar gyfer gweithgareddau megis, er enghraifft, chwaraeon neu ddawnsio cadair olwyn; * faint yw ei bwysau a pha mor hawdd y gellir ei godi i mewn a'i storio yn eich car; * pa mor hawdd y gellir ei symud ar wahanol wynebau; * pa ddewis mewn lliwiau a defnydd sydd ar gael.

Mae Abertawe yn chwarae Bournemouth a mae tipyn o bwysau ar John Hollins y dyddiau hyn.

Tybed a ydyw swyddogaethau a phriodoleddau traddodiadol y ddau ryw (ddoe a heddiw) yn cael eu torri i lawr i raddau dan bwysau'r galar (ac o bosibl am fod y bardd yn canu'n groes i arfer y traddodiad barddol)?

Bydd gennych wedyn fwy o bwysau i'w golli wedi geni'r babi.

Hanes ydyw'r testun sydd wedi dioddef mwyaf o dan bwysau anwastad ac anghyfartal y behemoth yma o gyfundrefn addysg sydd gennyn' ni yng Nghymru, a'r canlyniad yn aml ydyw ein bod yn ansicr ac yn anwybodus am ddigwyddiadau ein gorffennol ni ein hunain.

Amneidiodd yr hen ŵr, fel pe bae ei wddf yn ofnus o bwysau ei ben.

Ychwanegir at hyn bellach bwysau llethol y datblygiadau technolegol sy'n galluogi grymusterau heblaw'r wladwriaeth i drin a moldio bywyd pobl.

Mae dechra Ionawr fel hyn gystal amser â'r un i mi ddwysfyfyrio dros fy ngwendida yn hyn o beth; achos rydwi'n dal i wegian dan bwysau'r Roses yna fu'n tyfu arna i dros y Dolig.

Roedd hi'n dywyll, yn bygwth glaw ac mae milltir yn gryn ffordd i gerdded dan bwysau horwth o beiriant recordio.

Ystyriwch fesuriad mor syml a mas, neu bwysau.

Nid yw'n pwyso fawr ddim yn y dwr, ond ar y tir mae iddo gryn dipyn o bwysau ac felly mae ar ei gorff angen aelodau cryfion.

Fe fu'r mis cyn yr Eisteddfod honno yn fis o bwysau mawr arna i.

Ym mis Mai 1993 daeth trychineb i ran Denzil pan fu farw John yn y crud - rhoddodd hyn bwysau mawr ar ei briodas ef ag Eileen.

Beth oedd y cyfanswm o bwysau roedd y rhanbarth am ei golli?

Mae cynnyrch llaeth neu bwysau anifail yn enghreifftiau o hyn.

JFelly o ganol Hydref ymlaen byddaf yn rhoi'r gêr plu o'r neilltu ac yn gafael yn y wialen "drotio%, y rîl rydd (centre pin) bocs o fflôts pwrpasol, bocs o bwysau (heb blwm ynddynt cofiwch)...

Cawsom fwy o eira yn ystod y nos ac yr oedd haenen go dda ohono dros bobman erbyn y bore a brigau'r coed yn edrych yn flinedig dan bwysau'r gwymon gwyn.

Meddyliodd Mam y buasain medru rhoi tipyn o bwysau arnaf i newid fy meddwl wrth iddi son yn aml am 'Oswald bach mor bell a Lisi druan yn ei bedd.

Tipyn o bwysau oedd cario bob un botel gwart o sudd oren ar ei gefn, ond yr oedd cael digon o ddiod i dorri syched yn iawn digonol am y drafferth o gario'r bwrn.

Er mwyn achub y diwylliant hwnnw y mae awdur dan bwysau i sgrifennu llyfrau ac i gyfrannu llithiau nad ydynt y gwaith gorau y medr ef eu gwneud.

Bu cryn bwysau arno i chwarae golff, ond mynnai mai gêm i bobl heb ei gwneud hi oedd honno, gêm lonydd barchus i athrawon a gweithwyr banc, pobl heb lawer o egni meddyliol heb sôn am gorfforol.

Bu mwy o bwysau byth arnaf pan welodd Mam yn yr Herald fod Mr Paul, met y King Edwin, wedi ei ladd mewn damwain ar y llong.

Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.

AR flaen ei draed y byddai wrthi o'r dechrau i'r diwedd, a dyma reswm diymwad arall pam na thaflai ergydion trwm a chael ei bwysau i gyd y tu ôl iddyn nhw.

A gwnaeth hynny er bod cryn bwysau arno gan ei gefnogwyr Seisnig i'w defnyddio i ddysgu Saesneg.

Byddi'n bwyta dy fwyd wrth bwysau, ugain sicl y dydd, ac yn ei fwyta o bryd i'w gilydd.

ond yr hyn sy'n gwneud y siop yn dra anghyffredin erbyn heddiw yw y silffoedd dan bwysau poteli o faco.