Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bwyso

bwyso

Daeth pobl yr ardal i wybod am yr helynt, a chynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus lle y pasiwyd yn unfrydol gan lywodraethwyr a rhieni'r ysgol i bwyso fod Waldo'n cael cadw ei le.

Mae mwy a mwy o bobl yn dod nol at faco rhydd," meddai wrth bwyso owns o faco wedi ei dorri'n ffein.

Dylai'r Awdurdod barhau i bwyso am i amodau rhoi Grant Awdurdod Datblygu Cymru at Adennill Tir Diffaith fod, ynddynt eu hunain, yn fwy sensitif i'r amgylchedd.

Cyn symud ymlaen i fanylu ar yr ystyriaethau wrth brynu carafan, efallai y dylasem oedi am ennyd i bwyso a mesur y manteision a'r anfanteision o brynu'n ail law a meddwl o ddifrif hefyd am bry- nu'n breifat o'i gymharu a phrynu gan ganolfan werthu.

Daliodd y Gymdeithas i bwyso.

Prin iawn, bellach, yw'r siopau sy'n dal i werthu baco rhydd ac yn ei bwyso allan bob yn owns ar glorian fechan hen ffasiwn.

GWERTHUSO: Tuedda buddiannau adennill tir i or-bwyso'n erbyn y costau, yn amodol ar gorffori materion yr amgylchedd yn ystod y cyfnod o ddylunio a chynllunio, yn hytrach na meddwl amdanynt fel elfen atodol i'w chyplysu ar y diwedd, ac yn amodol hefyd ar werthuso effaith yr holl waith arfaethedig ar yr amgylchedd, a phwyso honno'n erbyn y defnydd terfynol arfaethedig cyn cychwyn, neu hyd yn oed gynllunio, unrhyw waith.

Hanesydd yr oedd ysgrifenwyr Cymraeg i bwyso'n drwm arno wrth drafod Penri oedd Daniel Neal, gweinidog Eglwys Annibynnol Aldersgate Street, Llundain.

Yng ngoleuni'r newidiadau sydd ar y gweill o ran newid ffiniau a swyddogaeth unedau llywodraeth leol, nawr yw'r amser i bwyso am y ddarpariaeth benodedig hon.

Gellwch newid hyd neu ogwydd y llinell trwy roi'r saeth ar un o'r bachau a llusgo (sef symud y llygoden a'r botwm wedi ei bwyso).

Pan gyrhaeddais gysgod y feranda y tu allan i'r stafell bwyso, roedd yr hyfforddwr a'r perchennog yno'n barod yn aros yn gyhuddgar.

Ar ddydd o brysur bwyso, pe na bai'r gohebydd cyson wrth law, ni fyddai dihangfa hyd yn oed i'r mwyaf diymhongar rhag ymddangos ar y sgrîn.

Dal i bwyso a mesur y gambl yr ydoedd y bore Gwener hwnnw y tu allan i'r Casa Rosada.

Gyrrwyd crynodeb o Ddeddf Eiddo at bob awdurdod unedol gan alw arnynt i bwyso ar y llywodraeth ganol am fwy o rym gweithredol yn eu hardaloedd ac i ystyried anghenion cymunedau wrth lunio polisïau tai.

O dan yr hen drefn lle nad oedd dim 'hawliau' gan yr iaith nid oedd ymgyrchu, neu bwyso, am ddefnydd o'r iaith yn beth oedd yn digwydd o gwbl.

Byddai gosod bedwen wedi ei haddurno â rhubannau coch a gwyn i bwyso yn erbyn drws y stabal yn amddiffyn y ceffylau rhag eu rheibio.

Creadur cymedrol heb fod yn rhy garedig nac yn or-greulon ond un anodd ei fesur a'i bwyso.

Rhoddodd y darnau'n ôl yn y cadw-mi-gei a'i bwyso yn ei law.

Nid yw hynny'n rhywbeth y gallant ei fesur na'i bwyso, ni ellir ei droi'n ddiriaeth na'i werthu, ac felly nid yw'n werth dim.

Rhoddodd amlinelliad gwerthfawr iawn i ni o sut yr aeth y mudiad hwnnw - y mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn un o'i gefnogwyr - ati i bwyso ar i'r llywodraeth ddileu dyled y trydydd byd.

Daliodd Meinir a minnau i bwyso ar y rheilen er fod pawb arall wedi troi i mewn i'r salwn.

Mentrodd Heledd bwyso i lawr yn nes at y cūn.

Er hynny, 'roedd angen i'r awdurdodau lleol perthnasol ac eraill yn yr ardal barhau i bwyso ar y llywodraeth i gyfiawnhau gwerth y rheilffordd i'r gymdeithas.

Cynllun y cyfansoddi sy'n rheoli: llinell letraws cwmwl yn cyd-bwyso â llinell letraws y graig ac yn tywys y llygaid ar lwybr igam-ogam trwy ofod y darlun at y bobol yn y blaendir.

Yr oedd fy stumog i'n dechrau troi, ac er mwyn rhoi taw ar Jini am ennyd, dywedais, 'Allwch chi ddim dod o hyd i eira llynedd, heb sôn am ei bwyso!

Rhaid i'r Cynulliad bwyso ar fyrder am Ddeddf Iaith 2000 i sicrhau y bydd y Gymraeg yn goroesi am fil o flynyddoedd eto.

Cyfyng yw'r amrywiaeth tonyddol, ond mae yma gyfoeth o sensitifrwydd a theimlad.Yn rhannau uchaf yr awyr mae'r haenau paent yn dewach a'r llwydlas ar letraws yn awgrymu cymylau'n symud ac yn cyd-bwyso â llinellau esgyll y felin.

Dyma oedd nod y cyfarfod - cyfle i leisio'n pryder am yr argyfwng sy'n wynebu ysgolion gwledig Cymru, a chyfle i bwyso ar y Cynulliad i ddangos arweiniad yn y maes. Y sefyllfa bresennol

'Ond dylai pobl barhau i bwyso am newid,' medd Branwen Niclas.

Cofier, serch hynny, pan soniaf am berthynas rhwng y tair elfen, sôn yr wyf am 'ddibyniaeth' neu am 'bwyso', nid am olyniaeth o linynnu allanol.

Edrychais arnynt yn gadael heb unrhyw fath o chwerwder, ac anelu am ddrws y stafell bwyso.

Efallai yr hoffech bwyso ar eich gwerthusiad diwethaf yn y broses hon.

Pa ddull bynnag o gynnal eich pwysau y byddwch yn ei ddewis, dylech barhau i bwyso'ch hun yn eithaf reholaidd.

Mae'r cwmni wedi llwyddo i osgoi yr achos arbennig hwn ond fe ddaw'n ddydd o brysur bwyso arnynt hwy ac efallai y bydd y gwersi y byddant yn eu dysgu yma heddiw o werth iddynt ddydd a ddaw, oherwydd nid oes amheuaeth yn fy meddwl y bydd yn rhaid iddynt ateb yn hwyr neu'n hwyrach am y rhyfel amgylcheddol a ymladdasant yn y delta.

Does dim rhaid i ti ganu'r gloch ac aros i rywun agor y drws i ti.' Symudodd Dan Din yn ei ôl i bwyso yn erbyn y fainc yng nghefn y garej a daeth Bilo i sefyll o flaen Dei.

Bu cryn bwyso arnaf i ddysgu canu'r piano pan oeddwn yn hogyn, ond yn fy ffolineb mi wrthwynebais, er mawr siom imi'n ddiweddarach.

Mae Dinogad yn gofyn am, gymorth y Carael i ddod o hyd i'r Brenin Dion." "Mae'n hawdd adrodd stori a dweud ei bod yn wir," medd Afaon wrthyt, "ond mae'n rhaid i'r gwrandawr bwyso a mesur y geiriau drosto'i hun.

Wrth bwyso ar y boncyff gallwch gysylltu â'r ysbryd yma.

Gwyddom hefyd fod yn rhaid i eisteddfodau lleol bwyso yn drwm ar ffynnonellau cyhoeddus am gymorth ariannol i gynnal eu gwyliau blynyddol.

Cyflawnir hyn drwy gael rhieni a chyfeillion yr iaith i ddod yn llywodraethwyr ysgol ac i bwyso am gynyddu'r pynciau a ddysgir trwy gyfrwng y Gymraeg.

Plygodd pawb ymlaen i bwyso'r botwm glas ...

Fel Cymdeithas, bwriadwn wneud popeth posib i bwyso ar aelodau a staff y Cynulliad i gefnogi a gweithredu ein hargymhellion.

Mewn trafodaeth ar y mater hwn yn y dyfodol, ni fydd y Llywydd yn gallu bod yn amhleidiol wrth lywio trafodaeth i bwyso ar y Cynulliad i gefnogi'r alwad am Ddeddf Iaith.

Pesychais, a phoeri llond ceg o fwd a glaswellt wrth i mi bwyso ar un penelin.

Yn ffodus iawn mae digon o ffynonellau dogfennol ar gael y gellir eu defnyddio i bwyso a mesur y dylanwad a gawsai disgynyddion Maredudd ab Ifan ap Robert yng nghwmwd Nanconwy a'r cyffiniau mewn cyfnodau pan reolent eu hystadau lled foethus yn fonedd lleol.

Gweithredu bob wythnos am flwyddyn yn erbyn Quangos Addysg y Llywodraeth 1995 Taith o amgylch Cynghorau Sir newydd Cymru i bwyso arnynt i adeiladu Trefn Addysg Gymreig o'r gwaelod.

Ers y cyfarfod, rydym wedi adrodd yn ôl i'r rhai a arwyddodd y datganiad, gan ofyn iddyn nhw bwyso ymhellach ar y Cynulliad drwy ysgrifennu at Ms Butler fel unigolion.

Dywedodd iddo saethu'r mab o ddrws y tŷ pan oedd wrthi'n trwsio bwyell ac yna osod y gwn, a'i faril i fyny, i bwyso'n erbyn y wal.

Danfonwyd dirprwyaeth genedlaethol i bwyso'r cynllun ar y Cyngor, ond ni syflai hwnnw ddim.

Gallai hyn greu problem mewn dosbarth lle mae mwyafrif y myfyrwyr yn Gymry Cymraeg, er enghraifft, gan y byddai tueddiad i'r darlithydd ar gwrs dwyieithog anghofio bod rhaid cadw elfen o Saesneg yn y dysgu hefyd os yw'r cwrs i fod yn un gwir ddwyieithog." Er gwaethaf yr ail bwyso a'r ail ddatblygu y bydd rhaid i Addysg Gymraeg eu hwynebu wrth weithredu'r Cwricwlwm Cenedlaethol, bydd y gronfa o arferion da sydd ar gael yn gynhaliaeth werthfawr.

Dal i bwyso, gyda 3 mis o weithredu difrifol ddwywaith yr wythnos yn erbyn adeiladau ac eiddo'r cwmnïau teledu a'r Llywodraeth. O fewn 5 mlynedd, gwelodd dros 1,000 o aelodau'r Gymdeithas y tu mewn i waliau carchar oherwydd eu rhan yn yr ymgyrchoedd dros Sianel Gymraeg a Statws Swyddogol i'r Iaith.

(Gellir defnyddio ffordd sydyn yn hytrach na chlicio botwm sydd â ffram ddwbl arno, fel y botwm OK hwn, sef trwy bwyso RETURN ar yr allweddell) Fe ddylech gael ffenestr fel hyn:

wrth bwyso ar un o'r allweddau, yr oedd y pwynt cyferbynnol yn cael ei godi yn ddigon agos at yr olwyn fel bod ei bin yn ei gyffwrdd ar y cylchdro nesaf o'r olwyn, a thrwy hynny yn caniatau i drydan lifo drwy'r cysylltiad.

Drannoeth, wedi i'r perygl gilio, aeth yr hen ŵr am dro at y ffynnon unwaith eto, gan ddal i bwyso'n drwm ar ei bastwn.

Yn cyd-bwyso â ffigur yr arlunydd mae ceiliog marw yn hongian gerfydd ei draed, fel arwr cwympiedig.

Ond wrth i ni bwyso a mesur, ni ddylem ni ddangos unrhyw ddiffyg cydymdeimlad.

Mynnent bwyso ar eu cynulleidfaoedd i wneud penderfyniad buan.

Drwy sianelau presennol a rhai newydd, dylai'r Adain barhau i bwyso am newidiadau y dymunir eu cael ym mholisiau'r llywodraeth mewn meysydd perthnasol sy'n cael effaith ar ansawdd gwarchod natur ac etifeddiaeth dirweddol y Sir.

Byddwch wedi gweld planhigion ar sil y ffenestr yn plygu eu coesynnau wrth iddynt bwyso tuag at haul y bore neu'r prynhawn.