Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byclins

byclins

Bu rhieni ac ardalwyr Bryncroes yn ymladd brwydr yr ysgol am ddwy flynedd gyda chefnogaeth cymdeithasau a mudiadau trwy Gymru gyfan, ond wydden nhwythau ddim, mwy nag y gwyddai beicwyr Byclins, fod tynged yr ysgol wedi ei benderfynu ymhell cyn gwneud unrhyw gyhoeddiad swyddogol ynglŷn a'r bwriad.

Gosododd rhyw 'awdurdod' neu'i gilydd fastiau dur anolygus yn enw cyfathrebu ar y Rhiw, ac y mae nifer y man feysydd carafannau wedi cynyddu fel pa bai 'Byclins' yn berwi drosodd wrth i ffermwyr sylweddoli fod carafan wen a Saeson brych yn llai o drafferth ac yn fwy proffidiol na defaid a gwartheg.

Ychydig a wyddai'r diniweitiaid oedd yn crwydro'r wlad ar gefn beic i gasglu enwau ar ddeiseb i wrthwynebu rhoi adeiladau gwersyll y Llynges ym Mhenychain i 'Byclins' ar ol y rhyfel fod cytundeb yn bod cyn eu codi erioed rhwng Billy, a barchusodd i Syr William, a'r 'admirality', mai eiddo Butlin fyddai Penychain ar ol y rhyfel.