Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bydden

bydden

Roedd eraill ar eu ffordd i'r wlad lle bydden nhw'n treulio tair wythnos yn cynaeafu dail baco.

Mae swyddogion Caerdydd wedi bod mâs yn Nulyn ers ddoe a bu son y bydden nhw'n mynd i'r llys i geisio gwaharddiad yn erbyn yr ERC a'u gorfodi nhw i newid eu penderfyniad a chaniatau i Peter Rogers chwarae yn erbyn y Saracens yfory.

'Dwi'n teimlo bydd Graham Henry yn dewis nifer o Gymry ac ymhlith rheini bydden i'n meddwl am Scott Gibbs, Mark Taylor, falle Allan Bateman,' meddai.

Roedd y rhan fwyaf o'r plant yn ddim ond ychydig fisoedd oed: eraill, ychydig flynyddoedd oed, a phan oedden nhw ar eu pennau eu hunain, bydden nhw'n crio am eu rhieni.

Byddai meysydd chwarae bob-tywydd gyda llifoleuadau'n cael eu darparu ar y tri safle a bydden nhw ar gael i'r gymuned y tu allan i oriau ysgol.

Mae nifer o'r adar sy'n ymweld â'r llecyn cadwraeth yn adar y goedwig ac maen nhw'n tueddu i barhau i fwydo ar yr un lefelau ag y bydden nhw'n ei wneud yn y goedwig.

Roedd yn hapus â'r pethau hyn ac fel yr oedd yn cerdded nôl i'w dž, ystyriodd ble y gallai eu dodi nhw a pha mor neis y bydden nhw'n edrych.

Wyt ti'n cofio fel y bydden ni'n lluchio llinella o gynganeddion at ein gilydd wrth fynd adra o'r ysgol, fel mae plant heddiw yn lluchio pêl?

"Rwy i wedi gweud wrth Rod yn barod y bydden ni'n cwrdd ag e lawr yn y disgo.'

Dymuniad y pâr oedd i rywun gymryd gofal o'r ty tan y bydden nhw'n ymddeol, ac awgrymodd Myrddin y bydde Aurona a finne'n barod i 'neud--neidio am y cyfle fydde'n agosach at y gwir.

Ond doedd Israel ddim yn fodlon derbyn hyn a dywedodd America, os mai dyma oedd y sefyllfa, y bydden nhw'n gwrthwynebu hefyd.

Dywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n barod i roi cymorth ariannol i Phoenix petai cais y cwmni i brynu Rover yn llwyddiannus.

Peidiwch a dweud wrthyf i, na fyddai'n well gan chwaewyr o Seland Newydd chwarae i'r Crysau Duon pe bydden nhw yn ddigon da.

Pe bydden nhw'n dal gweddwon yn llefain, fe fydden nhw'n ein harestio', meddai.

Bydden yn mynd yn dawel, dawel ac yn edrych ar ein gilydd.

Ond fe ddywedodd Owain Williams, cadeirydd Cymru Annibynnol, y bydden nhw'n cadw golwg ar y sefyllfa yn y dyfodol, ac y byddai rhagor o brotestio pe bai yna fwy o broblemau yn deillio o'r defnydd o'r iaith Gymraeg.

'Bydden ni'n dal i golli arian.

Mi roedd y rhan fwya'n mynd i aros yno nes y bydden nhw'n cael y rhyddid yr oedden nhw'n gwybod fyddai'n dod.

Bydden nhw'n disgyn o'r brif adran ddiwedd y tymor hwn, a tasai clwb o'r Alban yn cymryd eu lle nhw y tymor ar ôl nesa, fe fyddai yna deimlad - cyfiawn, o bosib - bod rygbi'r Alban yn cael ei hybu ar draul rygbi Cymru.

Roedd e wedi trefnu cyn gadael Llundain y bydden nhw i gyd yn aros yn y gwesty yma nes byddai eu dodrefn wedi dod ar lori o'u hen gartref yn y Brifddinas.

Wn i ddim amdano chi ond yr ydw i wedi cael llond bol ar bwndit ar ôl pwndit yn siarad am gemau cyfartal gyda't un afiaith a phe bydden nhw yn gemau wedi eu hennill.

Ond mi roedd y bobl yn dal i fyw eu bywydau, mi roedden nhw'n dal i fwynhau bywyd; doedden nhw ddim yn meddwl mai heddiw fyddai'r diwrnod ola' y bydden nhw'n mynd allan i siopa; roedden nhw jyst yn ei wneud o.

Mae'n debyg bod y rheiny oedd angen triniaeth yn cael gwell sylw nag y bydden nhw fyth wedi ei gael gan feddygon eu gwlad eu hunain.

Bydden ni'n disgwyl i Gymru fynd trwodd i'r rownd gyn-derfynol ond wedyn byddan nhw'n whare Awstralia.

Ac fe benderfynwyd ein bod ni'n rhyddhau Dr Hort o'i waith gyda ni 'ma nes bydden ni'n cael sicrwydd nad oedd Hitler yn paratoi am ryfel.

Oherwydd arbenigrwydd y flwyddyn, roedd mwy o ddiddordeb o lawer yng nghystadleuaeth Cwpan Cymru, a'r gobaith oedd y bydden ni'n mynd gam ymhellach na'r tymor cynt, drwy gael y cwpan yn ôl i Barc y Strade.

Roedd ci gan y rhan fwyaf o'i ffrindiau yn yr ysgol a bydden nhw'n eu brolio a'u cymharu wrth siarad yn yr iard.

Aethant tua'r de gan wybod y bydden nhw mewn ychydig yn medru troi i'r dwyrain, croesi afon Hafren a gadael gwlad y Cymry y tu cefn iddyn nhw.

Wrth edrych yn ôl ar y cyfnod yna, roedd e fel hunllef - un na feddylies i y bydden ni'n byw drwyddo.'

Y cwbl ddwedwn i, os daw perchnogion newydd i'r clwb, go brin y bydden nhw'n fodlon parchu'r cytundeb hwnnw.

Go brin y bydden nhw'n ffansïou lwc yn erbyn rhywun mor nobl a Helen Mary Jones, dyweder.

Bydd hynnyn newyddion da i'r rhai hynny a fu'n gwisgou tafod yn llyfu stamps yn y gorffennol ond maen drueni na allodd y Swyddfa Bost drefnu y bydden nhw ar gael cyn llyfiad mawr y Nadolig.

"Ro'n i'n meddwl y bydden ni'n cwrdd fory.'

Roedd y gaeaf yn agosŠu, a bwriad Saddam oedd gyrru'r Kurdiaid i'r mynyddoedd unwaith eto; os na fyddai'r gynnau yn eu lladd, bydden nhw'n siwr o farw yn yr oerfel.

Roedd mynd ar eisteddfodau a dramâu - 'Bydden ni'n cwrdda yn y festri a chael llawer iawn o sbri wrth baratoi ar gyfer y rhain.

Geirie Carwyn, wrth gael ei holi ar ôl y gêm, oedd y rhai a ddangose ei 'agwedde' ore--'Mae paratoi yn hawlio agwedd meddwl bositif, ac fe benderfynon ni y bydden ni'n dal sgrym Caerdydd, doed a ddelo.

Bydden nhw'n absennol o'u gwaith arferol am flwyddyn neu ddwy, a llenwid y bwlch gan y gweithwyr eraill a fyddai'n gweithio oriau ychwanegol.

Weles i mo'n chwaraewyr ni erioed mor sharp ar ddiwedd tymor.' --Nid datganiad y bydde'r blaenwyr yn ceisio neu'n ymdrechu gwneud, ond datganiad y bydden nhw yn dal eu sgrym.