Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byddi

byddi

Mae rhywun yn barod i ddatgelu popeth i ti, a byddi di yn y lle iawn ar yr amser iawn.

Wynebodd ef Hywel Greulon unwaith eto a gofyn, 'Sut y gwyddon ni y byddi di'n cadw dy air?'

Mi wnawn ni drefniadau i gadw hwsmonaeth ar y fferm hyd fis Gorffennaf; erbyn hynny mi fyddi di wedi cael cyfle i feddwl ac mi fyddi wedi cael gorffen yn yr ysgol, ac os byddi di am newid dy feddwl mi fedri fynd i goleg." Gwyddai Alun oddi wrth yr olwg styfnig yn ei hwyneb nad oedd wiw iddo ddadlau â hi, roedd hi wedi penderfynu.

Chei di ddim dod yn aelod o'r criw nes y byddi di wedi mygio rhywun.

"Dwyt ti ddim ffit, rhaid iti gael o leiaf wythnos arall cyn y byddi di'n ddigon da i fynd i'r ysgol." "Nid dyna oeddwn i'n feddwl Mam," atebodd Alun yn dawel.

Mae'r brenin eisiau dy weld pan gyrhaeddi Sipi a byddi wrth dy fodd pan glywi di ei neges." Yna i ffwrdd â fo tan chwerthin wrtho'i hun.

O ie, y gosb am ein twyllo, fe ddylen ni sôn am hynny' 'Cosb am dwyllo?' 'Ie, os byddi di'n cymryd arnat dy fod wedi cyflawni tasg, ond heb neud hynny, mi fydd yna gosb.' 'A be fydd honno?' 'Sypreis, was.

Mis o amser i'w cyflawni, ac os byddi di'n llwyddiannus mi gei ddod yn aelod.

Newidia a golyga fel y gweli di, gan y byddi di'n gweld ôl brys ar y teipio mae'n siwr.

Gosod Eseciel yn Wyliwr Ar ddiwedd y saith diwrnod daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud: Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf.

Os byddi di eisiau gair o gyngor ar y mater, dos di ato fo.' Pesychodd ddwywaith a sychodd ei geg â chefn ei law cyn mynd ymlaen.

Hwyrach y byddi paned yn ei mendio.

A byddi'n yfed dŵr wrth fesur, chweched ran o hin, ac yn ei yfed o bryd i'w gilydd.

Byddant hwy'n treulio ac yn darfod; byddi Di'n aros, yn teyrnasu o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb.

Os byddi di wedi cael y profiad fyddi di ddim yn gallu ei gelu, ond mi fyddwn ni'n gwybod yn syth os byddi di'n deud celwydd.' Galwodd Bilo ar Dan Din i osod y dasg nesaf.

Naddo ddaru o ddim mo fy llofruddio, na fy mwrdro na fy lladd nag uffar o ddim arall chwaith ac mae'r hen straeon yma wyt ti'n eu hel amdanaf, fy mod i wedi fy nghladdu a dy fod ti wedi bod yn y cnebrwng ac fel y byddi di'n rhoi blodau ar fy medd bob Dydd Sul, wel mae o'n blydi niwsans ac yn gwneud drwg diawledig i 'musnes i.

Ond os byddi wedi rhybuddio'r cyfiawn rhag pechu, ac yntau'n peidio â phechu, yn sicr fe gaiff fyw am iddo gymryd ei rybuddio, a byddi dithau wedi dy arbed dy hunan.

Ond os byddi wedi rhybuddio'r drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni ac o'i ffordd ddrygionus, bydd ef yn marw am ei bechod, ond byddi di wedi dy arbed dy hunan.

A thra byddi di yn Llechfaen dros ddiwedd yr wsnos, cadw dy glustia a'th lygaid yn agored.

Ffugio bod yn fyddar ac yn ddwl a gwrando ar bob si yn y fangre dlodaidd honno!" "A thra byddi di yno, Gwgon, mi fydda' innau yn gyrru'r ias i gerdded ac yn dilyn trywydd yr amserau." "Siort ora' Elystan, ond wnawn ni'n dau byth sbi%wyr fel Cellan Ddu.

Pan ddywedaf wrth y drygionus, n sicr o farw>, a thithau heb ei rybuddio a heb lefaru wrtho i'w droi o'i ffordd ddrygionus er mwyn iddo fyw, bydd y dyn drwg hwnnw farw am ei bechod, a byddaf yn ceisio iawn gennyt ti am ei waed.

Trïa gadw dy ysbryd a dy hiwmor - byddi di angen e cyn diwedd yr wythnos.

Gwnaf i'th dafod lynu wrth daflod dy enau, a byddi'n fud, fel na elli eu ceryddu, oherwydd tylwyth gwrthryfelgar ydynt.

Byddi'n ei fwyta yn deisen haidd wedi ei chrasu yng ngŵydd y bobl ar gynnud o garthion dyn.

"A chofia di sgwennu i ddeud y byddi di wedi cyrraedd.

Wnaiff dim ddigwydd i ti os byddi di'n hogyn da.' Aeth allan gan gau'r drws ar ei ôl.

Byddi'n bwyta dy fwyd wrth bwysau, ugain sicl y dydd, ac yn ei fwyta o bryd i'w gilydd.

Yna gorwedd ar dy ochr chwith, a gosodaf bechod tŷ Israel arnat; byddi'n cario eu pechod am nifer y dyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.

Cymer iti wenith a haidd, ffa a phys, miled a cheirch, a'u rhoi mewn un llestr, a gwna fara ohonynt; byddi'n ei fwyta yn ystod y tri chant naw deg o ddyddiau y byddi'n gorwedd ar dy ochr.