Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bydysawd

bydysawd

Roedd y gwareiddiadau cynnar yn rhoi'r Ddaear yng nghanol y bydysawd, gan feddwl bod pob dim arall yn troi o'n cwmpas.

Roedd hitha 'di trio ambell beth unwaith neu ddwy, a mwynhau uchelfanna'r profiad: crwydro'r bydysawd, yn lliwia a syna o bob math; teimlo'n hollol tu allan iddi'i hun; colli gafael arni'i hunan, ar amser a lle ...

Mae a wnelo Iesu Grist â'r bydysawd oll, a phopeth sydd ynddo,

Mae'r telesgopau radio hyn yn dderbynyddion radio sensitif iawn, ac yn llythrennol yn gwrando ar signalau o'r bydysawd a gre%ir gan brosesau naturiol.

Yr hyn na allwn ei ddeall oedd sut y gallai fod yn Mr Universe a ninnau heb wybod pwy sy'n byw yng ngweddill y bydysawd.

Ynddi hi, craidd y bersonoliaeth, y mae'r ysgogiad sy'n llywodraethu ein hymwneud â'r holl arweddau amrywiol ar y bydysawd.

Erbyn yr ail ganrif ar bymtheg roedd y dystiolaeth fod y model hwn yn anghywir yn gryf iawn, ac fe'i disodlwyd gan fodel a osodai'r haul yng nghanol y bydysawd.

Dyma'r weledigaeth Gristionogol cyn i'r meddwl seciwlar droi'r bydysawd yn "fyd natur" yn bod ac yn datblygu wrth ei ddeddfau mewnol ei hunan, a byd felly lle nad oedd angen Duw.

Nid oedd ddirgelwch yn y bydysawd i gyd na ellid ei ddatrys trwy gymhwyso'r method gwyddonol.

Gorau oll, yn fy marn i, oherwydd ni fwriadwyd inni fedru trin a thrafod y Bydysawd drwyddo draw, ond yn hytrach ryfeddu a ryfeddu at ei holl ogoniant a'i ryfedd ffyrdd.

A ellid cymryd y stori fach hon fel rhoi diferyn o waed ar sleid, i'w harchwilio yn fy meddwl, fel y medrwn yn y diwedd, drwy weithio arno'n ddigon caled ac yn ddigon hir, weld Deddf y Bydysawd ei hun, a chael cipolwg ar fyd y sêr yn crynu yn eu lleoliad, fel breichledau ar fraich ddidostur Duw ei hun?

Ond, dim ond technoleg ifanc yw mynd i'r gofod i edrych ar y sêr, ac yn y degawdau nesaf dylem ddatblygu'r gallu i ymchwilio'r bydysawd mewn manylder nad oedd Galileo hyd yn oed yn gallu breuddwydio amdano.

Mae seryddion cyfoes yn defnyddio pob math o offer i'w galluogi i ddarganfod a deall mwy a mwy o gyfrinachoedd y bydysawd.

Fel llenyddiaeth a chelf, mae seryddiaeth yn ychwanegu at gyfoeth ein bywydau, yn ateb ein cwestiynau am y sêr a'r bydysawd, ac fe'i hystyrir yn rhan annatod o weithgareddau gwlad waraidd.

Mae ein dealltwriaeth o'r Bydysawd wedi gwella wrth inni edrych yn bellach o'r Ddaear.

Diolchwn i Ti am ein gosod i fyw mewn bydysawd mor brydferth.

Mae'r aflwydd yn dechrau pan ydym yn ynysu un wedd ar y bydysawd a cheisio ei wneud yn hanfod pob gwedd arall.

Mae'r gallu i edrych ar y bydysawd yn y gwahanol rannau o'r sbectrwm wedi bod o gymorth i ni ddeall y bydysawd yn well nag erioed o'r blaen; fel y byddai siarad pob un o ieithoedd pobloedd y blaned yn golygu dysgu llawer mwy am y gwahaniaethau sy'n bodoli yn y byd.

Hi oedd yn dal clorian y bydysawd yn ei llaw.

Ond "cread" yw'r bydysawd i Bantycelyn a chread y mae'r Gwaredwr yn llywodraethu drosto.

Cyfod, cerdd, dawnsia, wele'r bydysawd.

Os oedd y method gwyddonol yr unig ffordd ddilys i sicrhau gwybodaeth am bob gwedd ar y bydysawd, onid oedd yn dilyn fod y bersonoliaeth hithau i'w hesbonio wrth yr un method?

Y thema yw'r modd y creodd yr Ysbryd Dwyfol fywyd a bydysawd, hynny yw, Duw fel arloeswr, a'r Ysbryd wedyn yn creu Crist.

Dangosodd y cipolygon hyn ar y bydysawd yng ngoleuni pelydrau-X neu uwchfioled bob math o bethau nad oeddem yn gwybod amdanynt o'r blaen.

Mae'r gred am ein lle yn y bydysawd megis ein ffordd o fyw wedi newid dros amser.

Heb y dechnoleg newydd hon mae'n eithaf sicr na fyddai dyn wedi glanio ar y lleuad ac na fyddai ein dealltwriaeth o'r bydysawd, y gofod a'n planed ni ein hunain, yn agos mor eang.

I wneud cyfiawnder â'r gweld hwnnw ni thâl dyrchafu un wedd ar y bydysawd a darostwng pob peth arall iddi.

Canys nid trwy gyfres o ymweliadau goruwchnaturiol y datblygodd y byd i'r hyn ydyw heddiw, ond trwy broses naturiol hir y mae'r bydysawd yn rhan ohono.