Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

byrdwn

byrdwn

Mae bwrlwm y profiad personol yn yr emyn yn esgor ar y byrdwn a ganwn gyda'r fath arddeliad.

Byrdwn yr anerchiadau oedd hawl Cymru i fwy o reolaeth ar ei bywyd ei hun, i Senedd, a hynny am fod Cymru'n genedl ac am fod y pwysau gwaith yn Westminster yn golygu nad oedd materion Cymreig yn cael dim byd tebyg i chwarae teg gan y Llywodraeth.

Poenau a phleserau serch oedd byrdwn yr udo a'r cwafrio a swniai'n rhyfedd iawn i glustiau anghyfarwydd Hadad, er i'r miwsig dynnu ambell Alaah cymeradwyol o enau rhai o'r Senwsi.

Byrdwn y gân ydy bod "hunaniaeth" yn bwysig inni gyd beth bynnag fo'n tras - yn enwedig os ydach chi'n Gymro.

Richards ma's!" Sawl gwaith bellach y canodd mam y byrdwn yna.

Yn ystod y drafodaeth byrdwn cyfraniad rhai o'r aelodau oedd adrodd hanesion a dyfalu am hynt a helynt yr iaith yn eu hardaloedd eu hunain.