Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bythefnos

bythefnos

Cewch chi ymuno a'r llyfrgell yn rhad ac am ddim, ac fe gewch fenthyca hyd at ddeg eitem ar y tro dros gyfnod o bythefnos.

Yr oeddet ti'n llawn o asbri bywyd pan alwais i yn y siop acw rhyw bythefnos yn ôl.

Mae'r tîm i wynebu'r Barbariaid ddydd Sul yn debyg iawn i'r un ddechreuodd yn erbyn Cymru bythefnos yn ôl.

Ac er ei chasineb at waith papur, yn union fel y disgrifiasai Watcyn Lloyd hi, 'roedd wedi bod wrthi am dridiau cyfan bythefnos ynghynt yn gwneud dim ond cynorthwyo Sioned i ymgynefino â'r busnes a chael trefn ar y cyfrifon.

Bu Catherine Pierce yn ymweld â Thyddyn Bach rai troeon yn ystod y gwanwyn, ac yn aros yno am bythefnos.

Roedd y ddau feddyg wrth eu bodd yn meddwl am fod o dan gynfas am bythefnos ac eistedd o gwmpas y tân coed bob nos.

Yn ystod y gaeaf oer diwethaf gawsom ni oedd hi, ac yn ystod rhyw bythefnos neilltuol o oer, roeddwn i, ac amryw byd o rai eraill gallwn feddwl, wedi dod o hyd i gornel gynnes mewn tafarn diraen ynghanol y ddinas lle ceid bob amser cinio danllwyth o dân ar lawr.

Rhowch blanhigyn ty bychan yn y tywyllwch am bythefnos cofiwch ei ddyfrhau fel na fydd yn marw.

Ddydd Gŵyl San Steffan, bythefnos yn ôl pan oedd y byddigions yna yn cerdded yn drahaus dros dir y fferm, roedd yna un a arhosodd yng nghysgod y coed.

Wedi teithio am bythefnos, roedd y teulu wedi cyrraedd y ffin ddeuddydd yn gynharach.

Roedd pawb yn gweithio pump noswaith, felly os oedd y daith yn un bump diwrnod neu yn bythefnos dim ond pump diwrnod oedd pawb yn gweithio...

Brysiem adref wedyn am bythefnos o wyliau gan ddawnsio'n hapus, wedi anghofio'n llwyr am Fwgan y Foty, yr oren a'r afal yn flasus iawn a'r melysion wedi diflannu ers meitin.

Bu ef farw bythefnos i'r diwrnod.

Mae'r person sy'n ei gael wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sy'n dioddef o'r dolur, neu o Frech yr Iâr, rhyw bythefnos yn gynt.

Wedi inni fod yn gweithio yn y chwarel am ryw bythefnos, cawsom orchymyn i ymweld â meddyg am archwiliad, ond nid ein meddyg ein hunain.

'Roedd ei lun o yn y papur ryw bythefnos yn ôl,' meddai, '...cyn i ni ddod ar ein gwyliau.

Ryw bythefnos yn ddiweddarach, 'r oedd y cyfarfod cyntaf o'r Gymdeithas Rieni i'w gynnal.

Bythefnos yn ôl, fe ddechreuodd cwmni Miramax droi Castell Caerffili i fod yn rhan o Lundain yng nghyfnod y Brenin Siarl ll yn yr ail ganrif ar bymtheg.

Peiriannydd sifil o bentref ger Kirkuk yng ngogledd-ddwyrain Iraq oedd Azad Khder, a fu'n cerdded am bythefnos cyn cyrraedd Piranshahr.

Mae Ethiopia wedi diodde eu colledion mwya" mewn diwrnod ers iddi ailddechrau'r rhyfel bythefnos yn ôl," meddai.

Bythefnos ar ôl dychwelyd o Oman y tro cyntaf hwnnw, daeth galwad arall a'r tro yma mynd i Affrica yr oeddem ni.