Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bythynnod

bythynnod

Digon gwasgaredig oedd y tai a'r bythynnod, ac wedi iddi nosi fyddai yna ddim golau heblaw'r lleuad, os o gwbl.

Dydym ni ddim yn byw mewn bythynnod to gwellt yn byseddu ein gramadegau Gwyddeleg.

'Roedd yn well gan John Roderick Rees weld estroniaid yn byw mewn hen fythynnod yn hytrach na gweld y bythynnod hynny yn furddunod gwag ar draws Cymru.

Ceir golygfeydd trawiadol o'r tir a'r môr, a cheir cipolwg ar hen feini o'r oesoedd cynnar, cestyll yr Oesoedd Canol, capeli a bythynnod gwyngalchog bychain.