Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

bywydau

bywydau

Mae'n hymgyrchoedd ni yn dwyn y grym oddi arnyn nhw - yn golygu na allan nhw wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau heb ymgynghori.

Defnyddir bodolaeth ansylweddol ysbrydion er mwyn cyfleu cymhlethdod y berthynas rhwng agweddau gwahanol sylwedd ein bywydau ni.

Oedd crefydd yn rhan o'u bywydau?

Yn y gyfres 16-rhan, byddair cyfranwyr hyn yn adrodd hanesion oedd yn emosiynol ar brydiau, o'r ffordd yr arferent fyw ddegawdau yn ôl, ar modd yr oedd moesau cyfnewidiol a dyfeisiadau technolegol wedi effeithio ar eu bywydau, tra y bur cyfranwyr iau yn trafod eu gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Yn ôl y cyngor a roddir i'r merched, dylid - ymarfer yn gyson - bwyta diet cytbwys wedi ei reoli'n ofalus - byw bywydau iach - cael cyrff heini

Rhaid i wasanaeth da, sy'n anelu at yr ansawdd bywyd gorau posibl i'w defnyddwyr, roi pob anogaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth i wneud penderfyniadau yngl^yn a'u bywydau eu hunain.

Gydag ysgyfarnogod fel gyda phob anifail gwyllt arall 'trechaf treisied, gwannaf gwaedded' yw eu hanes ac mae'n ddiddorol sylwi mor bwysig yw deddf etifeddeg yn eu bywydau.-Trosglwyddir i'r genhedlaeth newydd ymddygiadau ac arferion eu cyndadau.

Gweddi: Maddau i ni O Dduw y modd y llygrwn ni feddyliau a bywydau ein gilydd.

O, roedd llawer iawn o filwyr dewr wedi colli eu bywydau yn y rhyfel hwnnw!

TABERNACL Llongyfarchiadau Llongyfarchwn Geraint Evans, mab Mr a Mrs John Evans ar ei lwyddiant yn arholiad TGAU a dymunwn yn dda iddo i'r dyfodol Estynnwn hefyd ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i dri phar a fu'n dathlu yn ddiweddar gerrig milltir pwysig yn eu bywydau priodasol.

Doedd anrhydedd ac urddas yn cyfrif dim a diflannodd pob llawenydd o'u bywydau.

Roedd ei deulu'n arfer byw ar y ffin rhwng Iran ac Irac ond mae'n ofni eu bod erbyn hyn wedi gorfod ffoi am eu bywydau.

Pam roedd cymaint o'r Cymry'n barod i gefnogi Owain Glyn Dwr; i fentro eu bywydau i ymladd dros yr arglwydd hwn o'r Mers, heb wybod fawr amdano?

Bu Alison Quinn hefyd yn ymweld â Mexico a Montserrat i recordio rhaglenni oedd yn edrych ar y gwaith elusennol a wneir gan Gymry ym mhob cwr o'r byd yn For Love Not Money, tra y teithiodd y gohebydd materion cymdeithasol, Gail Foley, i Chernobyl gyda grwp o blant o'r ardal yn dychwelyd adref ar ôl gwyliau yng Nghymru, i weld sut y mae trychineb 1986 yn parhau i effeithio ar eu bywydau bob dydd.

Ond ein hunig obaith yw dod o hyd i ambell ddelwedd i'w troi yn rhan o'n bywydau, rhan o fytholeg ein bywydau, i aros yn y cof, ynrhan o frethyn ein cyfansoddiad.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i bawb sy'n anabl fod a gwybodaeth arbenigol o fewn eu cyrraedd er mwyn iddynt gymryd rhan ystyrlon mewn cynllunio'u bywydau a'r gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi.

Bradycha ymddiried Math a Phryderi, mae'n creu rhyfel rhwng Dyfed a Gwynedd lle collir bywydau lawer, a lleddir Pryderi gan Wydion ei hun, - hyn oll er mwyn bodloni chwant Gilfaethwy.

Dylai'r anrhydedd o agor y Llyfrgell fynd i rhywun sydd wedi cyfoethogi ein bywydau.

Mae pob darparwr gwasanaeth, cyfleusterau a nwyddau yng Nghymru yn defnyddio iaith, ond Saesneg yw'r iaith honno bron yn ddieithriad o edrych ar ein bywydau yn eu cyfanrwydd.

"Mae'n bywydau ni'n cael eu difetha gan agwedd pobol," meddai Sian, sy'n gweithio i Gymdeithas y Spastics yn eu penca\dlys Cymreig yn y brifddinas.

Mae'n siwr na fynnai iddynt fyned i'r gwaith glo i golli eu bywydau fel eu tad a'u brodyr, ac nid yw'n debyg y byddai gwaith fferm wedi apelio atynt fel plant tref, hyd yn oed pe na bai ganddi hi wrthwynebiad Mari Lewis i'w phlant fynd yn weision ffermydd: fe gofiwch na welodd honno yn ei bywyd bobl mor ddi-fynd 'a'r gweision ffarmwrs yma', na phobl a llai o'r dyn ynddynt.

Doedd gwaith yn yr ysgol fel athro ddim mor ddiddorol a lliwgar i ysgrifennu amdano rhywsut." "Mae'n bywydau ni'n cael eu difetha gan agwedd pobol.

Yn y gyfres 16-rhan, byddai'r cyfranwyr hyn yn adrodd hanesion oedd yn emosiynol ar brydiau, o'r ffordd yr arferent fyw ddegawdau yn ôl, a'r modd yr oedd moesau cyfnewidiol a dyfeisiadau technolegol wedi effeithio ar eu bywydau, tra y bu'r cyfranwyr iau yn trafod eu gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Roedd yna bryder hefyd fod cynifer o'r pethau sy'n effeithio ar ein bywydau ni - er enghraifft y cyrff sy'n cynnig y gwasanaethau telgyfathrebu - i gyd yn cael eu rhedeg o Loegr.

Nid pethau amherthnasol yw'r rhain ond anghyfiawnderau sy'n wynebu ein pobl ifanc bob dydd o'u bywydau.

Ymateb sydd yma i'r rhai hynny sydd yn benderfynol o edrych i lawr ar bawb, ac sy'n grediniol eu bod yn byw bywydau gwell nac eraill.

Ond yn ôl cwpwl oedd yn byw efo'u plant 180 llath oddi wrth gartref Mr Godfrey yn Abergele, gogledd Cymru, roedd cerddoriaeth roc wedi amharu ar eu bywydau am dros dair blynedd.

O gynnwys Eric, wyr bach Jane Gruffydd sy'n dod ati hi fyw, mae pum cenhedlaeth yn dod i mewn i'r hanes, a champ y nofel yw'r modd y mae'n dangos bywydau'r rhain yn gorgyffwrdd ac yn effeithio ar ai gilydd (thema amlwg yn ei straeon diweddarach, fel 'Gwacter' yn y gyfrol Gobaith).

Trwy gydweithio gyda meddygon, ffermwyr a diwydianwyr, mae cemegwyr yn ein helpu i fyw bywydau mwy iach a chyfforddus.

Nawr 'te, y bêl am eich bywydau.' Estynnodd ei law am y cwdyn, y wên yn llydan ar ei wyneb.

Ond mae'r math yma o anghyfiawnder yn digwydd yn ein bywydau ni i gyd a fedrith swyddogion Undebau Llafur na neb arall wneud dim i'w newid.

Astudiaeth o berthnasedd neges ysbrydol y saint i'n bywydau ni heddiw.

Maent i gyd wedi cynllwynio i wyrdroi traddodiadau a ddylai weithredu fel y gallai dynion fyw bywydau cyflawn y tu mewn iddynt.

Cyfeiliant yw'r rhamant i'r hanes yn y 'rhamant hanesiol'; mae'n bwysig am fod bywydau personol pobl yn bwysig ymhob oes, ond ni wneir mor a mynydd ohono.

Fel llenyddiaeth a chelf, mae seryddiaeth yn ychwanegu at gyfoeth ein bywydau, yn ateb ein cwestiynau am y sêr a'r bydysawd, ac fe'i hystyrir yn rhan annatod o weithgareddau gwlad waraidd.

Ond mi roedd y bobl yn dal i fyw eu bywydau, mi roedden nhw'n dal i fwynhau bywyd; doedden nhw ddim yn meddwl mai heddiw fyddai'r diwrnod ola' y bydden nhw'n mynd allan i siopa; roedden nhw jyst yn ei wneud o.

Roedden nhw'n aelodau ffyddlon o Noddfa, lle'r ymgasglodd ei theulu a'i ffrindiau i dalu teyrnged i un a ddylanwadodd yn fawr ar eu bywydau.

O orfod cydnabod hynny, mae'n frawychus sylwi ar ein parodrwydd i anwybyddu'r dylanwad pwysicaf ar ein bywydau.

Yn ôl un o'i ffrindiau, roedd milwyr hunangyflogedig o Yemen, y Sudan, a hyd yn oed Iorddonen, yn rhan o fyddin Iraq, gan fod cymaint o filwyr Saddam wedi ffoi am eu bywydau.

mae crefydd yn gormesu mewn dulliau eraill drwy farnu a chollfarnu a rheoli bywydau pobl.

Mewn un rhan, sy'n cynnwys chwe mil o bobl, mae Oxfam yn cynnal arbrawf i geisio gwella bywydau'r trigolion.

Ar waethaf y datblygiadau syfrdanol ym myd gwyddoniaeth a thechnoleg, yr un yw'r natur ddynol o hyd ac mae'r gred fod anlwc a ffawd yn rheoli ein bywydau yn dal mor gryf ag erioed.

Nid lle'r gohebydd yw arwain ymgyrch heddychwr yn erbyn rhyfel ond, os oes miloedd o filwyr ifanc yn debyg o golli eu bywydau yn y rhyfel hwnnw, fe ddylai'r llywodraeth a'r bobl adre' wybod hynny.

Prin oedd y milwyr hynny a wyddai lawer o hanes y Cwrdiaid, ac, eto, roedden nhw'n barod i fentro'u bywydau drostynt.

Un o brif gwynion gweithwyr y gwasanaethau achub yw eu bod nhw'n rhy aml o lawer yn gorfod mentro eu bywydau am fod rhywun arall wedi bod yn ddiofal.

Doedd dim byd i'w weld o'i le ar batrwm bywydau'r bobl yn eu pentrefi newydd: cynhaeaf digonol ac amodau byw cyfforddus.

Wrth gwrs dydir arian syn cael eu tywallt i'r plât casglu ai ben i waered yna yn ddim o gymharu âr hyn yr ydym yn ei dalu mewn bywydau am breifateiddior rheilffyrdd.

Dylai hyn achosi ychydig o bryder, gan mai ychydig o bobl fyddai'n gallu delio gyda merch fel Sheryl yn eu bywydau bob dydd.

Felly, os y gwyddoch chi am Gymry sydd â bywydau neu storiau difyr i'w dweud yn lle bynnag yn y byd, d'wedwch Hywel amdanyn nhw.

Hwy sydd wedi newid ein bywydau beunyddiol trwy ddefnyddio cynnyrch naturiol a chynnyrch gwneud i greu moddion newydd, defnyddiau amaethyddol a dilladau newydd.

At ei gilydd, y mae'r rhan fwyaf o bobl wedi addasu eu bywydau fel eu bod mewn cytgord â'r afon a'r tirwedd.

Costiodd lawer mwy mewn bywydau.

Roedd yn well inni ildio peth o'n nwyddau a chael llonydd na cheisio ymladd yn erbyn byddin rhy niferus ac yn y diwedd golli ein holl eiddo a cholli ein bywydau yn ogystal.

Bellach, mae cwmnïau preifat yn rheoli sawl agwedd ar ein bywydau - ffônau symudol, cyfrifiaduron, siopau ac yn y blaen, ac mae'n amlwg i bawb fod angen deddfwriaeth dros y cyrff hyn.

Seiliau cadarn i'n tai a seiliau cadarn i'n bywydau i'n cynnal pan fydd gofalon byd yn pentyrru arnom, a phoen a phrofedigaeth yn cipio'r llawr oddi tanon ni.

Byddai pysgotwyr yr ynys yn peryglu eu bywydau mewn corwyntoedd a stormydd enbyd, ac yn y ddeunawfed ganrif cyrchai smyglwyr i lawer traethell unig ac anghysbell i lanio eu nwyddau anghyfreithlon.

Mae'n nhw'n ymylol ac eto maen nhw yng nghanol ein bywydau, labeli tuniau bwyd, sigarennau a thybaco, poteli gwin a diod, pacedi powdwr golchi, tocynnau bws, trên ac awyren, arian papur, bondiau.

Mae'n siŵr fod digon o achos dros beidio â mynd i'r môr gan fod tri o'i ewythredd (brodyr ei fam) wedi colli'u bywydau ar y môr.

bod gan bobl ag anfantais meddwl yr hawl i fyw bywydau normal yn y gymuned;

Yn sgil hynny mae'n debyg i rieni ddod i drysori bywydau eu plant yn fwy, ac i'r tad ddod yn bwysicach yn ei rôl fel amddiffynnydd y teulu.

Mae'r ail ddeddf iaith yn cyfeirio at hawliau ieithyddol cwsmeriaid yn y farchnad, fel cydnabyddiaeth o realiti bywydau pobl Catalonia.

Yn yr ail dosbarth rhoddir y trychfilod hynny sy'n barasitig yn ystod eu bywydau cynnar yn unig.

Yn ffodus mae gweithwyr y gwasanaethau achub, trwy eu medr a'u dewrder yn medru goresgyn pob math o broblemau er mwyn achub bywydau.