Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cadarnhau

cadarnhau

Cyflawnid hynny fynychaf er mwyn cadarnhau statws y teuluoedd hynny.

Roedd hwn yn cadarnhau fod y byd wedi newid ac yn dal i newid yn gyflym.

Ddeng mlynedd yn ddiweddarach carcharwyd Kevin O'Kelly, gohebydd Radio Telefis Eireann, am wrthod cadarnhau, mewn llys yn Nulyn, mai Sean MacStiofain -- y gwr ar brawf - oedd yr un y bu'n ei gyfweld ar gyfer ei raglen radio.

Mae disgwyl y bydd consortiwm Airbus yn cadarnhau ddydd Mawrth y bydd yn mynd ymlaen i gynhyrchu'r awyren A3XX.

Y mae bwrlwm awenyddol David Ellis yn cadarnhau tystiolaeth ei gyfeillion ei fod yn fachgen ifanc ffraeth, llawn hwyl a direidi.

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cadarnhau eu bod wedi cael cwynion am y bachgen.

Ond mae Egwyddor Ansicrwydd Heisenberg yn cadarnhau yn awr beth mae'r seicolegwyr wedi ei wybod yn eu calonnau, er na allent ei ddatgan yn glir, sef na all dau berson fyth wneud yr un mesuriad a chael yr un atebiad yn union.

Mae Undeb Rygbi'r Alban wedi cadarnhau y byddan nhw, yn eu cyfarfod blynyddol fis nesa, yn trafod creu trydydd tîm proffesiynol yn yr Alban.

Mae ysgol yng Nghymoedd y De wedi'i chau wedi i ddau achos o lid yr ymenydd gael eu cadarnhau yno.

Roedd ein hamheuon i'w cadarnhau cyn hir yn y modd mwya dramatig.

Mae capten Clwb Criced Morgannwg, Steve James, wedi cadarnhau mai Adrian Dale fydd ei is-gapten y tymor nesaf.

Yn aml iawn, bydd yn rhaid cadarnhau ffaith, dyddiad, neu gywirdeb ambell ddyfyniad ymfflamychol.

Mae'n amlwg mai cadarnhau'r patrwm cyffredinol y mae'r ffigurau hyn - at ei gilydd eglwysi bychain oedd rhai Eifionydd o bob enwad.

Mae ei glwb, St Helens, wedi cadarnhau bod Abertawe wedi gwneud ymholiadau ynglyn â'i arwyddo ar gyfer y tymor nesaf.

Mae'r manylion achyddol a geir yma yn newydd, ac yn cadarnhau'r darlun o Theophilus fel gūr bonheddig, ac yn ei osod mewn cefndir bonheddig, ar hyd glannau Teifi, a oedd o hyd yn Gymraeg ei iaith a'i ddiwylliant ar ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg.

Byddai'r astudiaeth hon yn cadarnhau barn Morgan fod fersiwn cyfiaith o'r Ysgrythurau lawn mor bosibl yn y Gymraeg ag mewn unrhyw iaith arall.

A dyma efallai bwrpas y straeon hyn, sef cadarnhau rhai o gredoau sylfaenol ein cymdeithas, ac i'n rhybuddio rhag crwydro ymhell oddi ar lwybrau derbyniol ein cyfoedion.

Y tu draw i'r cae, ar ben yr allt y mae tŷ, ac er mai yn y pellter y mae, y mae'r sylw a'r manylder yn dal i gael ei roi i'r adeilad o'i gymharu a'r cae â'r ffens yn y blaendir, a hyn eto yn cadarnhau sylwadau Maredudd ei hun mai mewn adeiladau y mae ei ddiddordeb.

(b) Bod y Cyngor yn ddiweddarach wedi cadarnhau nad oedd grant ar gael ac o'r herwydd ni ellid datblygu gyda'r cyfamod gan na fyddai'r datblygiad yn hyfyw.

Ar yr wyneb, fe fydd y filltir neu ddwy nesa' trwy fideoland Sgiwen yn cadarnhau rhagfarnau: Does yna ddim byd o werth yng Nghwm-nedd heblaw am y rygbi - a byddai Crysau Duon Gareth Llewelyn yn glwb ceiniog a dime heblaw am gyfraniad ffermwyr ifanc cyhyrog Cymraeg o sir Benfro.

Mae trefnwyr Cwpan Heineken Ewrop, ERC, wedi cadarnhau na chaiff prop Cymru, Peter Rogers, chwarae yn y gystadeuaeth y tymor hwn.

Mae Rheolwr yr Almaen, Erich Ribbeck, wedi cadarnhau mai Ulf Kirsten a Carsten Jancker fydd yn yn eu llinell flaen.

(b) Adroddiad y Prif Swyddog Technegol yn cadarnhau na ellid gweithredu'r trosglwyddiad hyd nes y byddai'r Uned wedi symud i'r adeilad newydd a gwasanaethau ffôn a chyfrifiadurol wedi eu cysylltu.

Edrychwch ymhellach ar y themâu sydd yn esbonio peth ar apêl y stori hon - elfennau o'r stori ydynt sydd yn cadarnhau rhai credoau cyffredin yn ein cymdeithas, ac felly yn taro tant â'r gwrandawr a'r storiwr (i) Y gūr yn dial ar y wraig anffyddlon - drwy ryw hawl foesol.

ARGYMHELLWYD cadarnhau'r Rhybudd Cau a roddwyd ar yr eiddo y cyfeiriwyd ato.

Dyma syniad sy'n cadarnhau eu clasuriaeth ddinewid.

Roedd y canlyniadau'n cadarnhau fod cefnogaeth gadarn ac eang i'r iaith drwy Gymru benbaladr, ynghyd ag awydd i weld cynnydd mewn defnyddio'r Gymraeg yn gyffredinol.

Roedd hyn yn cadarnhau penderfyniad Katherine Harris, Ysgrifennydd Gwladol Florida, i gyhoeddi canlyniad terfynol ar gyfer Florida, a'r Ty Gwyn, ddydd Sadwrn, nes y cafwyd penderfyniad y Barnwr Lewis.

Mae hyfforddwr Lloegr, Kevin Keegan, wedi cadarnhau bod chwaraewr canol cae Lerpwl, Steven Gerrard, wedi gwella o anaf i'w goes.

Ni ellid amau dilysrwydd ei ddisgrifiadau o amgylchiadau byw y werin, gan fod arolygwyr eraill yn eu cadarnhau: yn wir, fel y cawn weld, byddai'r adroddiadau eraill yn dyfnhau'r argraff fod y bobl yn gwbl amddifad o gyfleusterau cymdeithas.

Cadarnhau'r ffaith wnaeth darllen carol o'r Philipinas yn y llyfr 'Wrth y Preseb'.

Fel y clywe aelode o Glwb Caerdydd am y paratoi rhyfeddol yma, daethant i'r casgliad mai adlewyrchiad o banic ar y Strade oedd hyn i gyd, a bod hyn yn cadarnhau eu cryfder nhw fel tîm oedd yn siwr o fuddugoliaeth.

Manylion heb eu cadarnhau ar hyn o bryd.

Dywedodd ei fod yn gwneud archwiliad o'r tir ac eisiau cadarnhau sawl erw oedd i bob fferm.

Mae adroddiadau eraill gan arolygwyr yn cadarnhau'r un argraff cyffredinol o lwyddiant academaidd yr ysgolion pentrefol bach.

wedi i'r gweithgor gyfarfod lluniwyd dadansoddiad pellach o'r datganiadau o a aseswyd gweler yr atodiad i'r adroddiad hwn ) sy'n cadarnhau'r gosodiad uchod ac yn egluro pam fod rhai lefelau fel pe baent yn brin o'r nod.

Ond ar ôl pwysau oddiwrth y Cyngor Iechyd Cymunedol, mae'r Ymddiriedolaeth Ambiwlans newydd wedi cadarnhau yr wythnos yma bydd yr arian i wneud y gwaith ar gael.

Cadarnhau a wnant ar y cyfan fy marn mai cul-de-sac yw'r nofel hanes fel y'i gwelsom yn Gymraeg hyd yn hyn, ond mae'n ddifyr ac addysgiadol ei throedio, yn arbennig yng nghwmni llenorion mor loyw a Rhiannon Davies Jones a Marion Eames.