Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cadwraeth

cadwraeth

Mae'r Panel yn cydnabod fod lles economaidd a chymdeithasol cymuned y Parc yn bwysig er mwyn cadwraeth effeithiol a mwynhad o'r Parciau, ac na ddylid edrych ar ymwneud Awdurdodau'r Parciau yn y maes hwn fel prif swyddogaeth ond fel swyddogaeth gefnogol i asiantaethau eraill.

Mae nifer o'r adar sy'n ymweld â'r llecyn cadwraeth yn adar y goedwig ac maen nhw'n tueddu i barhau i fwydo ar yr un lefelau ag y bydden nhw'n ei wneud yn y goedwig.

Cyrhaeddodd cadwraeth yn rhy ddiweddar i arbed gwyddau Cefni, a gwelwyd sawl tro ar fyd yn y cyfamser, a hwnnw'n newid er gwell i lawer o hwyaid a rhai o adar eraill y tiroedd gwlyb.

Cadwraeth Greadigol yng Nghoedwig Niwbwrch

(Rwy'n ymddiheuro am fod ei deitl yn un trwsgl, ond does i'r gwreiddiol Saesneg, sef 'Custody Officer', fawr o geinder chwaith.) Fel yr awgrymir gan ei deitl, priod waith y Swyddog Cadwraeth yw cadw.

Dyna rybudd chwech o grwpiau cadwraeth Prydain sy'n galw ar y Llywodraeth i lunio mesurau i amddiffyn holl rywogaethau Prydain.

Yn achos Ysgol Pennar nid oedd diffyg lle, dim ond yr angen i ychwanegu diddordeb a chynefin gwahanol i lecyn cadwraeth yr ysgol.

Materion Cadwraeth

Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod sector y amaethyddol yn parhau yn gadarn a llewyrchus, nid yn unig fel un'r prif ffynonellau incwm, ond hefyd fel ffactor i gynnal y boblogaeth wledig gynhennid, cadwraeth y tirwedd ac i sicrhau parhad hunaniaeth diwylliannol a ieithyddol ardal y Parc.

Mae gweirgloddiau, sy'n bwysig mewn rhannau o Ddyfed ar gyfer cadwraeth rhai mathau o bili pala a thegeirian, hefyd dan fygythiad.

Cadwraeth Coed

Ac nid gorchwyl hawdd yw honno i bobl sydd yn gweihio ym myd cadwraeth, ac yn amddiffynol o unrhyw anifail wrth reddf.

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hybu cadwraeth yw dweud eich barn yn glir wrth eich cynrychiolwyr etholedig - helpwch ni os gwelwch yn dda.

lluniwyd yr adroddiad gan arbenigwyr o Cadwraeth gloy%nnod Byw, Cyfeillion y Ddaear, Plantlife, Y Gymdeithas frenhinol er Partneriaeth Ymddiriedolaethau Cadwraeth a Bywyd Gwyllt Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, a Chronfa Natur y Byd, Nature sydd, gyda'i gilydd yn cynrychioli oddeutu dwy filiwn o bobl ym Mhrydain yn unig.

'Roedd y papur ymgynghorol yn pwysleisio y dylid cymryd costau ariannol ac adnoddau eraill i ystyriaeth wrth ymateb i'r opsiynau a oedd yn cael eu cynnig er gwella'r drefn o warchod ac hyrwyddo ardaloedd cadwraeth.

(b) Ardaloedd Cadwraeth Pwllheli Cyfarfod anffurfiol gyda dirprwyaeth o Gyngor Tref Pwllheli CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.

Os nad oes tystiolaeth ddigonol, gellir ei gadw i mewn heb ei gyhuddo os bydd y Swyddog Cadwraeth yn ewyllysio hynny, tra byddir yn chwilio am fwy o dystiolaeth, neu tra bo'r heddlu'n ei holi.

Cyhoeddwyd y papur ymgynghorol yn sgîl cwynion bod y system gynllunio yn aneffeithiol er rheoli mân newidiadau mewn ardaloedd cadwraeth.

Pan fo rhywun wedi'i arestio, gellir ei gadw i mewn tra bo'r Swyddog Cadwraeth yn ystyried a oes digon o dystiolaeth i'w gyhuddo o drosedd.

Papur Ymgynghorol ar Ardaloedd Cadwraeth oedd yr ail ddogfen a dderbyniwyd a oedd wedi ei pharatoi yn arbennig er ennyn trafodaeth ar yr angen am reolaeth cynllunio tros ddatblygiadau bychain oddi mewn i ardaloedd cadwraeth.

Ym mhob prif swyddfa heddlu ceir swyddog a elwir yn 'Swyddog Cadwraeth' ac mae'n rhaid iddo fod yn rhingyll, fan leiaf.

'Roedd y papur yn amlinellu'r dulliau posibl er cael mwy o reolaeth cynllunio tros ddatblygiadau oddi mewn ardaloedd cadwraeth - datblygiadau megis hysbysebion allanol a'i dod o dan reolaeth cynllunio.

(ch)Canllawiau Cynllunio Newydd i Ardaloedd Cadwraeth CYFLWYNWYD adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio.