Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caem

caem

Ac o blith y mewnfudwyr hyn y caem ni ein cynulleidfa.

Ond wedi graddio i'r Ysgol Fawr caem drafod.

Am hanner dydd, cinio, yr unig dro yn yr wythnos y caem gig, a phwdin reis digymar Mam i orffen.

Caem fynd adref ar ôl i ni ddweud ein hadnodau ond weithiau, am resymau teuluol, byddem yn gorfod aros yno i'r diwedd.

Gwyddem y caem bymtheng munud gwefreiddiol, ond ni wyddem yn union faint mor wefreiddiol, chwaith .

Fel plant bob man arall caem ein Parti Nadolig a'n Trip Ysgol Sul.

Am chwarter i chwech yn y bore cawsom orchymyn i godi, a dywedwyd wrthym y caem awr i grwydro'r dref.

Ambell dro caem ychydig o gawl tatws melys, gyda dail y tatws yn gymysg ynddo, a byddai'n ddiwrnod mawr pan dderbyniem ddyrnaid o datws neu ddiferyn o laeth neu jam neu siwgr.

Roedd yn rhaid i ni, er hynny, ddilyn ymarferiadau milwrol am dair wythnos bob blwyddyn a hwnnw'n gyfnod di-dor, ond caem ddewis i ba adran o'r lluoedd arfog y dymunem ymuno â hi.

Caem y pryd nesaf oddeutu pump o'r gloch, am hynny o les a wnâi inni o achos roedd safon y reis yn gymhedrol iawn erbyn hyn.

Bryd hynny, caem eira trwchus bob blwyddyn yn gyson (yn union fel y caem haul poeth yn yr hafau hefyd).

Ar y ffordd i mewn i'r ddinas, dyma ddod o hyd i wersyll, lle y caem osod ein pebyll i fyny ar gyfer ein harhosiad.

Caem de am bedwar.