Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caeodd

caeodd

Caeodd y drws a sylwi ar dri llythyr a darn o bapur ar lawr y cyntedd.

Caeodd y drws yn syth a phwyso yn ei erbyn.

Fe'm dilynodd i mewn, caeodd y drws allanol, agorodd ddrws ar y tu mewn ac aethom trwy hwnnw.

Caeodd hithau'r drws ac aeth i eistedd wrth y tân, lle'r oedd Twm a Bet yn synfyfyrio'n gysglyd i ganol y fflamau.

Daeth o hyd i hwnnw ar ei liniau, a dywedodd wrth y morwr ifanc: "Os oes gen ti rywfaint o synnwyr ar adeg fel hyn, mi ei dithau ar dy liniau a gweddi%o." Caeodd Douglas ei lygaid a dweud ei bader yn dawel wrth nofio'n unig yng nghanol y môr mawr.

Caeodd ei llygaid.

Hanner caeodd y Cadfridog ei lygaid.

Caeodd ei lygaid yn dynn a cheisio meddwl am bethau eraill.

Yn fuan doedd neb i'w weld, felly caeodd y llenni a cherdded yn ofalus i'r gegin i wneud cwpanaid o de a rhywbeth i fwyta iddo ei hun.

Caeodd y bag a gosod ei het fel iar i ori arno.

Caeodd ei llygaid am eiliad, yna'u hagor.

'Chwiliwch am y bwa.' Caeodd ei lygaid ac aeth yn anymwybodol eto.

Caeodd y stop tap ac aeth i'r tŷ i ddweud wrth y Wraig am beidio tynnu mwy o ddŵr.

Caeodd amdani fel niwlen, a chrynodd.

Caeodd ei lygaid a dodi'i ddwylaw dan ei ên: chwyddodd gwythi%en yn ei arlais a sylwodd y Rhaglaw ar y pentwr iach o gŵyr du yn ei glust chwith.

Yna caeodd hi'n frysiog wrth weld robot yn sefyll i'w gwylio yn y cysgodion.

Caeodd ei llygaid i feddwl amdano, tra canai Ger yn ei lais Nat King Cole wrth ei hymyl.

Caeodd ef drachefn, gan benderfynu llithro'n ôl i'w lesmair.

Caeodd ei dad ddrws y cartre a chychwynnodd y teulu'n ddistaw ar hyd y coridor hanner tywyll.

Caeodd ei lygaid mewn poen ond wnaeth o ddim gweiddi unwaith.

Caeodd y bocs a'i ddodi yn nôl yn y cwpwrdd.

Caeodd ei llygaid i werthfawrogi'i rhyddhad yn llawn cyn troi oddi yno a rhoi'r gorau iddi am y dydd a'r wythnos.

Caeodd ei llygaid a gobeithio y symudai'r cnociwr ymlaen i ddeffro'r Saeson oedd newydd brynu'r bwthyn drws nesaf.

"Damia!" sisialodd, pan gofiodd yn sydyn na wnâi hynny ddim ond datguddio rhychau ac esgyrn a smotiau brown galwad ei phridd, felly caeodd y ddau fotwm yn ffwndrus yn eu hôl.