Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

caffi

caffi

Yn ganolog iddynt y mae caffi gyda dewis o bob math o goffis, diodydd a byrbrydau.

Am ei bod mor agos at y Nadolig, roedd y caffi'n eithaf llawn.

A rhinwedd mawr ginseng yw ei fod yn cyflawni hyn heb gynhyrchu sgîleffeithiau annymunol fel y gwna symbylyddion arferol y Gorllewin megis caffîn ac amphetamine.

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

Toeddwn i ddim wedi meddwl dim am y sach nes gweld cymaint o barch a gawsai ar y bws, a'i bod wedi cael lle rhwng y ddau frawd yn y caffi.

Ugain milltir ymhellach dyma aros mewn caffi ar ochor y ffordd - caffi llawn pryfed oedd hwn, yn ôl arfer y wlad honno.

Gadawodd Jason y caffi a chafodd waith adeiladu gyda Graham.

Uwch paned mewn caffi yn adeilad y Senedd, fe geisiodd esbonio beth oedd y sefyllfa wleidyddol; fel yr oedd Sajudis wedi chwalu ar ôl cael annibyniaeth.

Hwnnw ydi'r arwydd sy'n dweud wrthym ni pa mor bell ydi hi i'r caffi.

Ar ôl iddo wrando arnyn nhw'n canu ac ar ôl iddo orffen gwylio'r lluoedd o bobl yn mynd ynghylch eu busnes, penderfynodd e fynd i'r caffi i gael rhywbeth i fwyta.

Daeth yn ffrindiau agos gyda Hywel Llewelyn a chafodd waith yn y caffi gyda'i fam.

Ac roedd y bechgyn yn tynnu Carol tua'r caffi am y ddiod a addawyd.

Perchennog Caffi'r Cwm.

Wnewch chi fod yn blant da a helpu Mam i chwilio am y caffi?

Bu Karen yn gweithio yn y caffi gyda Meic am sbel.

Tua hanner awr wedi un-ar-ddeg gadawodd Mary ef i fynd i gwrdd â Fred mewn caffi.

Cyd-berchennog Caffi'r Cwm.

Pan ddown ni i'r stopio nesaf mi awn ni i'r caffi, os ydych chi'n fechgyn da.

Dychwelodd ar ôl Nadolig 1998 ond twyll oedd y cwbl a gadawodd ar ôl dwyn arian o 'safe' y caffi.

Bellach mae'n gweithio'n y caffi gyda Reg.

Yna daeth syniad i'w feddwl, yfory byddai e'n mynd i'r dref a bwyta ei ginio yn y caffi drws nesa i Swyddfa'r Post.

Yn y tridegau cynnar bu bri ar Ddosbarth Siaradwyr a drefnid gan Gangen y Brifysgol a Changen Dinas Bangor ac fe i cynhelid ar brynhawn Sadwrn mewn caffi ym Mangor Uchaf.