Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

calfin

calfin

Yr oeddent i gyd yn Brotestaniaid eiddgar ac yn bybyr eu hymlyniad wrth y math diwinyddiaeth a gysylltir ag enwau Zwingli a Bullinger, diwygwyr Zurich, a John Calfin yn Genefa.

Ac fel y diwygiwyd fersiwn Olivetan o dro i dro gan Calfin a Beza, fe rymuswyd y pwyslais hwn ar gadw union eiriad yr Ysgrythurau gwreiddiol nes dod yn un o nodweddion amlycaf y fersiynau a gysylltir â Genefa

O ystyried y gweithgarwch mawr oedd ar gerdded yno ar y pryd dan arweiniad Calfin a Beza ynglŷn â chyhoeddi testunau gwreiddiol y Beibl: eu cyfieithu a'u hesbonio, nid yw'n syndod iddynt hwythau ymroi i ddarparu fersiwn Saesneg diwygiedig, seiliedig ar y testunau gwreiddiol a'r ysgolheictod beiblaidd a oedd o fewn eu gafael yn Genefa.

Fel y disgwylid, y mae ei gyfieithu yn dilyn dulliau Calfin yn fwy nag eiddo Luther.

Ac yr oedd hwnnw'n brotestant selog o ysgol John Calfin.