Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

call

call

Yr oedd yn ddigon call i beidio â'm llusgo pan oeddwn yn anymwybodol." 'A dyma chi'n cyrraedd, o'r diwedd, at waelod grisiau'r feranda?" "Do, ac yr oeddwn yn falch iawn o deimlo'r pren dan fy nwylo," meddai'r tad.

Ond ar y cyfan roedd Affos yn frenin call, a gadawodd y mater i'r llys i'w benderfynu.

Mae'n debyg ei bod hi'n gweithio efo'r Kings o hyd, ond o leiaf 'roedd hi'n ddigon call i gadw o'r golwg.

A deud y gwir Glyn fy mrawd canol, oedd y drwg, fo yn ddieithriad oedd cychwyn pob drygioni yn tŷ ni, wn i ddim am neb sy'n gallu tynnu coes ru'n fath â fo 'Odd Wili mrawd hyna', yn hogyn call distaw, ond efo cyhyrau mewn llefydd nad oedd gen i ddim llefydd.

Ond mae pobl Cuba yn ddigon call i sylweddoli hefyd na all unrhyw system wleidyddol ddiwallu pob angen.

Bydd y beirdd yn sôn am yr haul yn gosod aur ar y dail, neu'r lleuad yn gosod arian, ond gŵyr pawb call mai ffansi bardd yw hyn ac nad oes mewn gwirionedd ond rhyw fymryn o oleuni melyn neu wyn yn syrthio ar ddail coeden gyraints duon yng ngardd y bardd.

Yn ystyr arall y gair yn wahanol neu yn unigryw un o'n peciwliaritis ni meddwn yw ein bod yn hoff iawn o roi llys enwau ar bobol a rhoddais yr engreifftiau Dai the Post, Bessie the Milk ac yn y blaen yna dywedais 'This is one peculiar and proud Welshman who cannot wait until the day he can call this lady Maggie Number Ten' wel, fe aeth y lle yn danbaud!

Ond roedd hi'n ddigon call i beidio rhoi ei phen i mewn!

Doedd neb call yn cerdded yn gynt na'r dorf rhag ofn tynnu sylw ato'i hun.

Ar raglen Election Call Vaughan Roderick (ar y teledu a'r radio) rhoddwyd cyfle i bobl gyffredin holi arweinyddion y pleidiau yng Nghymru.

Fedrwch chi ddim mynd yno drwy'r yr un fath ag i nefoedd Cristnogion call, dim ond efo llong.

Roedd pawb call yn yr ardal yn ofni Llew Williams.

Gwladwriaeth y siri a'r ysbïwr a'r ceisbwl oedd hi, ac nid a gredai a ddywedai'r call.

Ni ddaeth yr un deigryn (yn fy ngþydd i, beth bynnag) yn sgîl ei hadwaith call i'r penderfyniad þ er fy mod i yn wylo cawod o ddagrau y tu mewn.

Wrth feddwl am drobwyntiau bywyd Daniel Owen, anodd credu fod yr un trobwynt wedi bod yn bwysicach na'i brentisio'n deiliwr gydag Angel Jones, blaenor gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, oblegid fel y cyfeddyf ef ei hun, gwnaeth hynny'r byd o wahaniaeth iddo yn foesol ac yn ddeallusol - yn foesol, oherwydd golygodd fod rhaid iddo fynd i'r capel dair gwaith ar y Sul ac i bob moddion yn yr wythnos yn y cyfnod pan oedd yn dechrau ymryddhau o lyffethair awdurdod ei fam, a phan oedd ei frawd Dafydd efallai'n dechrau mynd ar gyfeiliorn, - yn ddeallusol am yr un rheswm ac am fod gyda'r hen Angel 'hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu (bod gyda hwy) yn fath o goleg i mi'.

Ar raglen Election Call Vaughan Roderick (ar y teledu ar radio) rhoddwyd cyfle i bobl gyffredin holi arweinyddion y pleidiau yng Nghymru.

Doedd neb call eisiau byw yn y fath lefydd gwyllt ac anghysbell.

Aeth rownd bob rhan o'r ffatri enfawr ac yr oedd hyd yn oed yn dringo i fyny'r peiriannau ac yn gofyn cwestiynnau call ac addysgiedig.

Gan fod y Celtiaid paganaidd yn addoli'r meini ac yn eu cyfrif yn gysegredig, bu'r seintiau'n ddigon call i beidio â dinistrio'r cerrig ond eu troi at bwrpas Cristnogaeth drwy naddu croesau arnynt.

Ailadroddai'n aml: 'Tydi'r hen for yna ddim ffit i neb call'.

Dywedodd Iesu, "Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i ddyn call a adeiladodd ei dŷ ar y graig.' Onid ei eiriau ef yw'r graig gadarnaf y medrwn ni seilio'n bywyd arni?

'Yr ydw i'n siwr y do' i'n hoff iawn ohono fo.' 'Dydi o ddim hannar call, wsti,' oedd dyfarniad Emrys.

Mae'r berthynas rhwng y gerddorfa a mynychwyr cyngherddau yn cael ei chryfhau ymhellach gan linell ffôn BBC Call NOW - y gyntaf o'i bath yn y DG - a lansiwyd ym mis Medi.