Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cambodia

cambodia

O ran pryd a gwedd annhebyg ydynt i frodorion India; maen nhw'n debycach i bobl Burma, Thailand, a Cambodia.

Ennill anfarwoldeb Rhyfeddod mwyaf Cambodia inni oedd adfeilion teyrnas Angkor.

Unwaith eto, dod ag erchyllterau dyn i sylw'r Cymry oedd y rheswm dros fynd i Kampuchea (Cambodia) - gwlad a gafodd ei hanwybyddu a'i hynysu am bron i ugain mlynedd gan y Gorllewin.

Wedi iddynt glirio'r fforestydd daeth adfeilion teyrnas gyfan i'r golwg yn llawn o demlau a phlasau; erbyn inni gyrraedd Cambodia yr oedd yn bosibl inni weld ymysg yr adfeilion rai o olygfeydd rhyfeddaf y byd.

Ar ôl y bymthegfed ganrif daeth ymgyrch ar ôl ymgyrch ar Cambodia o Siam yn y gorllewin ac o Annam yn y gogledd a'r dwyrain.

Delir can mil tunnell o bysgod yn llyn enwog Tonle Sap bob blwyddyn ac y mae pysgod yn rhan helaeth o fwyd bob dydd pobl Cambodia.

Cysylltiad â'r India Yn ôl traddodiad daeth Cambodia i fod pan briododd merch y sarff frenin seithben, Naga, â thywysog yr India.

Er i grefydd a chrefft yr India ddylanwadu ar wareiddiad Cambodia, mewn amser tyfodd y gwareiddiad hwn i fod yn arbennig o nodweddiadol o'r genedl ei hun yn Angkor.