Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

camddeall

camddeall

Gan yr ymddengys ei fod wedi camddeall diben y brotest, bydd llythyr arall yn cael ei anfon ato - ar ffurf mwy confensiynol - er mwyn iddo ddeall yn iawn beth yw gofynion y Gymdeithas.

Peidiwch â'm camddeall i: New York, Pemnaenmawr oedd hwn!

Sôn a wna'r Athro am eiriau a lefarwyd ychydig cyn hynny gan y diweddar Dr T Gwynn Jones, sef 'nad yr iaith a sieryd pobl sy'n bwysig ond yr hyn a feddyliant: gofalwch am y meddyliau, ac fe ofala'r iaith amdani ei hun.' Yna, meddai'r Athro, 'os goddefir imi gymhwyso'r geiriau mewn enghraifft, y mae'n well ganddo Sais yng Nghymru sy'n meddwl yn iawn na Chymro sy'n meddwl yn gam.' Hawdd credu i'r geiriau trawiadol hyn gael eu camddeall a'u camesbonio gan lawer y pryd hwnnw ac y byddai'n anodd gan nifer heleath o Gymry heddiw ddeall eu gwir arwyddocâd.

Dichon fy mod yn camddeall, ond mi gymerais i hyn i olygu ein bod ni, feidrolion, fel popeth arall a wnaed o fater, yn ymddatod ryw bryd annirnadwy bell i ronynnau gwaelodol y cosmos; ein llwch o atomau gwahanol elfennau yn troi'n ronynnau egni annistryw.

Ond camddeall ergyd y darn yw hyn.

Dyna falch own i - ond fe weles yn syth i fi droi ati hi y 'mod i wedi camddeall 'i meddylie hi.