Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

camera

camera

Yn ei swyddfa, rhoddodd y camera ar y bwrdd, a dyna pryd y sylweddolais beth roedd am ei wneud nesaf; wrth chwarae'r tâp yn y camera, gallai weld y lluniau oedd arno.

'Diolch i Dduw fod yna leian yn teithio gyda ni,' meddai'r gwr camera.

Mi gafodd camera hyd i farciau tra'r oedd un o'r adweithyddion yn cael archwiliad blynyddol.

Ffolineb fyddai mentro defnyddio criw Iddewig â'r holl Balestiniaid yn y strydoedd; felly, dyna benderfynu cyflogi gŵr camera Palesteinaidd.

A CYNHYRCHU - sef darparu copi camera-barod neu gopi meistr o'r adnawdd, yn barod i'w

Pan ymddangosai'r rhain o flaen y camera, llifai sloganau adnabyddus y chwyldro o'u cegau.

Yna bydd y rhanbarth a gollodd gwyaf yn ennill camera fideo, felly mae hynny'n ysgogiad iddyn nhw!' Wel, mae sgwrsio gyda'r holl ferched, o Fôn i Fynwy, wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi.

Ond y mae darluniau agos o'r wyneb yn gofyn am amseru manwl lle mae'n rhaid defnyddio recordydd sain arbennig y gellir ei amseru yn awtomatig i gyflymdra y camera a rhaid cael aelodau ychwanegol i'r criw ffilmio i weithio'r peiriannau hyn.

Roedd set Julian Williams yn set eang ac yn caniatau i'r camera ddangos eangder oeraidd y gweithdy a'r posibilrwydd o bobl yn llechu yma a thraw.

Doedd presenoldeb ein camerâu'n dychryn dim ar filwyr Israel.

Gofynnodd i ni ddychwelyd yno, ynghyd â'r camera a'r tâpiau.

.~ Ynghanol y gêm taflwyd dwy botel tuag ataf o'r dorf ac wrth i mi eu pigoo'r llawr i'w cymryd at yr heddlu rhedodd un o ddyruon camera y papure~ newydd tuag ataf i dynnu llun.

Norman, y dyn camera, â pherfformiad yn haeddu Oscar, achubodd y sefyllfa.

Mae darparu copi camera-barod neu gopi meistr yn gallu cynnwys nifer o wahanol dasgau.

Defnyddio camerâu electronig Yn y degawd diwethaf mae camerâu electronig wedi disodli platiau ffotograffig fel y ffordd mae seryddion yn cofnodi'u delweddau.

Cefais fy nhemtio, wrth wneud darn i'r camera yn y sgwâr, i sibrwd fy ngeiriau; rwy'n siwr fod hanner y dref wedi clywed yr hyn a ddywedais.

Awgrymodd y dyn camera y byddai'n ddarn mwy trawiadol pe bai modd gweld blaen gwn un o'r pedwar gwarchodwr arfog yr oedden ni wedi'u llogi cyn camu o'r awyren.

Ar adegau felly, hefyd, mae'r camerâu'n dechrau crwydro, gan geisio rhoi'r argraff fod cryn arwyddocâd i'r hyn ddywedodd Raisa Gorbachev wrth Nancy Reagan mewn amgueddfa yn Moscow.

Mae llawer o'r gwledydd sy'n datblygu yn dioddef eithafion tymheredd a lleithder ac mae rhoi ffilm mewn camera bob rhyw ychydig funudau mewn monswn neu storm o lwch yn waith lle gall y ffilm gael ei difetha'n hawdd iawn.

Mewn teledu annibynnol yn arbennig, ceisir sicrhau bod pob aelod o'r tîm yn alluog i wneud gwaith pawb arall, hyd yn oed i wynebu'r camerâu pe bai galw am hynny.

Yno 'roedd ymwelwyr fel gwenyn yn potio o gwmpas y dŵr, yn addasu'r camerâu'n ffwndrus i gasglu atgofion am yr ewyn gwyn yn disgyn ddawnsio'n swnllyd i'r ffrewyll.

Roedd y cynhyrchydd am ddefnyddio dyn camera adnabyddus, fe wrthododd un o reolwyr cyllid y Sianel gydnabod ei ffi drwy honni fod y ffi yn uwch na'r hyn yr arferai dalu am y math o raglen dan sylw.

Yn aml, dyfais wrth gefn yw camerâu i ddatrys pethau pan fyddan nhw'n mynd o le ac fe fyddai person penderfynol yn gallu torri tagiau neu gael cerdyn adnabod.

Yn ogystal â'r pump yma mae 'na lwyth o bobl yn helpu i wneud yn siwr bod Ffeil yn eich cyrraedd chi bob wythnos - pobl fel y cyfarwyddwr a'r golygydd VT, pobl sy'n gwneud yn siwr bod y rhaglen yn cadw at amser, y criwiau camera a'r criw sy'n gweithio yn y stiwdio.

Gall camerâu teledu wneud llawer o'r gwaith disgrifiadol erbyn hyn ond mae lluniau mud, heb eu dethol a'u pecynnu gan ohebydd, yn rhyfeddol o ddi-ystyr.

Doedd dim eisiau perswadio'r criw i hel eu pac oddi yno, a dwy' ddim wedi gweld dyn camera yn symud mor gyflym yn fy myw!

Pan gyrhaeddodd y dyn camera a minnau'r Laleh mewn tacsi, roedd e'n disgwyl amdanom yn y cyntedd.

fel arfer, mae'r rheiny'n bethau trefnus lle mae pawb yn trefnu'u camerâu a gosod eu meics ar y bwrdd priodol.

Gwybodaeth Personol(c.v.), Gwybodaeth Teuluol, Gwybodaeth Lleol, Hwyl, 2 Cwis, Hel Achau ar Camera Hudol Digidol.

a ddylen ni fod wedi bwrw ymlaen i ffilmio neu roi'r camera i lawr a helpu?

Deunydd camera barod

Cydweithio a CBAC i dddarparu deunydd camera barod pe byddai CBAC yn cytuno.

Ar ôl cario'n bagiau dros y ffin anweledig o'r naill gar i'r llall, penderfynu gwneud darn i'r camera tra'n eistedd yn y sedd flaen er mwyn cofnodi'r rhwystredigaeth bersonol yr oeddwn i'n ei theimlo ac yn ei synhwyro'n barod mewn eraill.

Ond nid traethu diflas ond yr hyn y gellir ei weld o'r tu ôl i lens Camera a geir yma.

Darparu copi camera barod

'Pe bawn i'n gwybod beth oeddech chi ishe, baswn wedi dod â'r batris hefyd.' Hebddyn nhw, nid oedd modd defnyddio'r camera i wylio'r tâpiau.

Gobaith Jabas oedd y byddai'r camera'n profi cryn dipyn o bethau.

Trueni na fydde'r camerâu teledu yma i gofnodi'r foment.

Sylla'n hy i fyw llygad y camera, gan hudo sylw y gwylwyr, yn union fel petai'n Rasputin y drefn gomiwnyddol - 'guru' gorffwyll sy'n ceisio elwa ar hygoeledd y werin.

Ta-ta i'r camera a ddaliai, ar dair ffrâm a hanner yr eiliad, yr eiliad yr oedd cydbwysedd rhywun yn y lle anghywir, neu ei ddwylo yn yr awyr, neu ei wyneb yn y mwd.

Efallai yr hoffech ddefnyddio camera neu recordydd tâp ar ôl gwneud trefniant ymlaen llaw gyda'r sefydliad croesawu.

Gwrthododd siarad o flaen y camera oni bai bod y plant o'i gwmpas; roedd am osgoi rhoi'r argraff ei fod yn ei ystyried ei hun yn bwysicach na'i ddisgyblion.

`Cymer gysur ei fod e'n cywilyddio', oedd ymateb y dyn camera, cyn dychwelyd i'r car a thynnu'r lluniau damni%ol yn ddirgel drwy'r ffenest'.

Roedd gan Jabas yntau lond camera o luniau gwerthfawr.

Ychydig iawn fentrod yno - roedd camerâu'r byd wedi casglu yn Nhwrci i ffilmio'r ffoaduriaid oedd yn tyrru i'r wlad honno.

Problem arall yw nad yw grisiau'r tŵr yn weladwy i'r gynulleidfa drwy'r amser mewn cynhyrchiad teledu gan fod y camera'n crwydro at wyneb neu gorff ac yn symud i ffwrdd oddi wrth ddarlun cyfiawn o'r set.

Pan geisiodd y gŵr camera ddringo i mewn i'r car, gyrrwyd y cerbyd i ffwrdd gan lusgo'r dyn ar ei hyd drwy'r mwd.

Yn rhyfedd iawn, wnaethon nhw ddim dangos dim diddordeb yn y camerâu na'r recordydd tâp oedd gen i - roedd e fel do-it-yourself spy kit!

Mae yma guro drymiau a chwifio baneri, a phlant a phensiynwyr am y gorau'n gwenu ar y camera.

Nid oedd gennym recordydd fideo symudol a allai weithio heb gyflenwad trydan, ac yn ychwanegol at hyn nid oedd modd prynu camera fideo lliw symudol am bris rhesymol a fedrai ateb ein hanghenion.

'Roedd y camera'n ddigon i mi!

Yn ystod archwilio adweithydd rhif dau mi ddaeth y camera ar draws marciau yn y sianelau yma.

Bydd gwylwyr teledu gwybod yn dda am rym y dyfyniad uniongyrchol pan gaiff hwnnw un ai ei gyfeirio yn syth i'r camera gan gyflwynydd medrus fel David Attenborough neu ei fynegi trwy gyfrwng holwr profiadol.

Mae yna ddigwyddiadau wedi bod lle'r ydan ni wedi rhoi'r camera i lawr - ond, wrth gwrs, dydi hynny ddim yn eich gwneud chi'n ddyn camera newyddion da iawn.

Trefniadau Diogelwch - Cloi drysau'r uned ar ôl deg y nos, camera ar y drws i weld pawb sy'n cyrraedd, camerâu eraill yn gwylio'r ward, clo digidol ar y feithrinfa, cardiau adnabod a sustem i'r mamau nodi hynny os ydyn nhw'n gadael y ward.

Mae camerâu fideo yn defnyddio'r un dyfeisiau electronig i gofnodi'r goleuni, ac yn fuan bydd camerâu arferol yn rhoi'r gorau i ddefnyddio ffilm ac yn dechrau defnyddio'r rhain hefyd.

Costau camera barod

(Roedd y gwŷr gyda llaw yn cyd-dynnu'n well o dipyn na'r gwragedd.) Bydd y camerâu weithiau'n cael eu hanelu at ei gilydd hefyd er mwyn dangos natur y syrcas gyfryngol sy'n amgylchynu'r cyfarfod.

Ar adegau felly, cyn sicred â dim, y mae gên y gohebydd druan yn tueddu i rewi a'r gwefusau'n crynu wedi oriau'n gwagsymera yn yr oerni, gan wneud y dasg o adrodd yr hanes gerbron y camera'n un hynod boenus.

Yr anfantais fawr wrth ddewis bod yn ofalus yw y gall rhywbeth fod o'i le ar y camera neu ar lefel y golau a ganiatawyd i'r camera ac y byddai gweld hyn yn y fan lle tynnwyd y ffilm yn arbed siwrnai ddrud arall i'r wlad, pe bai hynny yn bosibl hyd yn oed.