Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

camgymeriad

camgymeriad

Camgymeriad, mi gredaf, oedd dangos tŵr real ar ddechrau'r cynhyrchiad gan ei fod yn tynnu oddi ar amwysedd llwythog y geiriau cyntaf: Merch: Dwi yma.

Mi wnes i'r camgymeriad o gyhuddo rhywun o fod yn Iypi y dydd o'r blaen.

Gobeithiai Jabas yn fawr na fyddai'n gwneud camgymeriad gan y byddai un gwyriad o'r sianel gul yn golygu rhwygo ochr y cwch yn grybibion.

Camgymeriad hefyd fuasai tybio mai alltud dieithr i Gymru oedd Elfed.

Gwneud yr olwyn oedd y gamp fawr ac wrth weithio o chwith ar honno y bu'r camgymeriad.

Gofalodd, er hynny, beidio â gwneud yr un camgymeriad ag o'r blaen.

Camgymeriad.

Nid yw'n condemnio ei blant am wneud camgymeriad syml, gyda chalon ddidwyll.

Yna gôl wych gan chwaraewr y gêm, Mark Dickerson, wedi camgymeriad gan golwr Caerdydd, Jon Hallworth, yn dod a Llanelli yn gyfartal.

Camgymeriad mawr fyddai trwsio crud gyda phren ysgawen gan y gallai gwrachod wedyn niweidio'r plentyn.

Yna, cafwyd camgymeriad gan Paul Giles ac ergyd Michael Keegan yn curo Neil Thomas a sicrhau lle i Abertawe yn y rownd derfynol ar y Vetch nos Lun.

Camgymeriad yw sefyll i syllu i grochan cymdeithas dyn i astudio'i ddrygioni.

Pan oeddwn i yn disgwyl canlyniadau arholiadau o'r fath; trwy golofnaur Daily Post yr oeddem ni yn cael gwybod ein tynged a does gen i ddim cof iddo erioed wneud camgymeriad.

"Dyden ni ddim am wneud yr un camgymeriad eto," chwarddodd pennaeth y gwersyll yma gan gymryd coesau metel oddi arno.

Weithiau mae camgymeriad yn digwydd.

'Camgymeriad ar ran y gwrachod, eich mawrhydi!' meddai Delwyn fel ergyd o wn.

Ond mi wnês un camgymeriad--fe adawes y sosban tships yn y man, ar y cylch gwresogi.

Wedi iddyn nhw reoli'r hanner cynta a mynd yn agos at sgorio ar bump achlysur cafwyd camgymeriad gan Clayton Blackmore, cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, yn chwarae ei gêm gynta i Fangor.

Camgymeriad yw hynny.

a '...' Keats, ond cynhwysa hefyd y dyfyniad hwn gan Samuel Roberts: 'Yr wyf yn credu nad yw canonau na chredoau na thraddodiadau dynol yn meddu dim awdurdod ar ymarferiad Cristnogion.' Er nad yw'r geiriau ynddynt eu hunain yn ychwanegu dim at ddadl Peate mai ym mhrofiad yr unigolyn y mae chwilio am Dduw, ac er y gellid eu hystyried yn fawr mwy nag allweddeiriau hwylus i gael gwrandawiad yn uchel lys Annibynia, camgymeriad fyddai eu hanwybyddu.

'A'r camgymeriad a wnaethon ni oedd meddwl ein bod ni wedi dianc trwy dwnnel yn y gofod yn ôl i'r ddaear,' meddai Mathew.

Camgymeriad mwy cyffredin yw camddynodi pellter.

Anffodus a dweud y lleiaf fyddai peidio â'i ddarllen ac yna canfod i ni wneud camgymeriad o'r mwyaf.

Camgymeriad, er hynny, fyddai credu bod Unbennaeth Oleuedig bob tro yn niweidiol i ieithoedd lleiafrifol, a'r meddylfryd Herderaidd bob amser yn arf gadarn o'u plaid.

Atebodd: "Wel, os byddai wedi gwneud camgymeriad a chanfod fod priodas yn hunllef fydd dim rhaid imi ddioddef yn hir.

Yn Andorra, gogledd Sbaen yr oeddwn, ac wedi dewis dod yma am nad oeddynt yn cymryd y sgio o ddifri - camgymeriad dybryd!

Negyddu'r ffaith hon a dilyn dull 'phrase-book' y ganrif ddiwethaf, a'i holl flerwch anhygoel, yw'r camgymeriad mwyaf a wnaethpwyd mewn datblygiadau diweddar wrth ddysgu ail iaith.

Cymharol ddibrofiad oeddwn i yn y gwaith o brynu llyfrau bryd hynny, ond doedd dim perygl imi wneud camgymeriad y tro hwn.

Buan y gwelwyd mai camgymeriad oedd hynny.

Rhediad hir crymaidd o ganol y maes i'r asgell dde gan y maswr bach o Lanelli (a roddodd amser inni gofio am Cliff Morgan a Phil Bennett, a diolch yr un pryd y bydd gennym ni faswr o'r iawn ryw unwaith yn rhagor cyn bo hir), a dau gais, y naill ar ôl camgymeriad dybryd gan Thorburn a James Reynolds, yr asgellwr chwith ifanc, yn eu ceisfa, a'r llall, a'r olaf, pan ddaliodd Simon Davies y bêl o gic gosb Stephens wrth y postyn chwith.

Beth bynnag, camgymeriad yw cyfystyru'r poblogaidd a'r anneallus a'r deallus a'r annealladwy, oherwydd nid ar snobyddiaeth y dylid seilio diwylliant.

A phan fu mam Luned farw, fe ofalodd am drefniade'r angladd i gyd - camgymeriad, achos Jac y Sar sy wedi gofalu am bob angladd yn y pentre er pan wi'n cofio.

Cerddwch yn ofalus drwy'r difrod ac agor y drws i'r ystafell nesaf, a dyna pryd y sylweddolwch eich bod wedi gwneud camgymeriad drwy ddewis y ffordd hon.

Ond camgymeriad oedd o erbyn gweld.