Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

camp

camp

Rhyw gul-de-sac oedd Troed y rhiw a rhaid oedd troi'n ol at y Red Cow, a chofiais mai hon oedd y dafarn a fynychid gan brodyr fy mam a lle y dysgodd ei brawd John sut i ddawnsio, camp yr ymffrostiai ynddi drwy ei oes.

A dyna, yn fy marn i, bennaf camp y Cofiant presennol.

Camp yr awdur y tro hwn yw iddo wrth greu nifer o gymeriadau, pob un yn afiach yn ei ffordd fach ei hun, lwyddo i gynnal diddordeb y darllenwr.

Fel plentyn 'roeddwn wrth fy modd yng nghwmni nhad, ac i Gerrig Duon yr awn ni efo fo bob cyfle gawn i, mynd ar ffrâm y beic ar draws 'camp Mona'.

Camp raenus oedd ei gwrs addysg trwodd a thro, a chyrraedd ei uchafbwynt trwy gipio'r prif wobrwyon yn Rhydychen a'i ethol yn Gymrawd o Goleg Lincoln, a dyfod yn un o ddarlithwyr mwyaf dylanwadol y Brifysgol.

A bwrw'n fras fod prisiau wedi dyblu, ac enillion wedi cynyddu ryw deirgwaith, yr oedd gwir incwm wedi codi ryw hanner dros y cyfnod: camp ddigon canmoladwy.

Cael ar ddeall mai i Bari yr ydym i fynd, i A Rest Camp.

Y canlyniad oedd fod cystadleuwyr sydd ar frig eu camp yn cael canolbwyntio ar ymarfer ac ennill.

Yr oedd yr Arwr yn yr awdl yn cynrychioli'r Arwr Rhamantaidd, gwaredwr y ddynoliaeth ac amddiffynnydd cyfiawnder a rhinwedd, tra oedd 'Merch y Drycinoedd' yn cynrychioli'r Awen, creadigolrwydd dyn, ysbryd gwarineb, camp y celfyddydau a dyfeisgarwch gwyddoniaeth, hynny yw, y ddynoliaeth ar ei mwyaf creadigol a chadarmhaol yn hytrach nag ar ei mwyaf dinistriol a negyddol.

Camp y stori hon yw nad oes yna un digwyddiad ynddi sy'n teimlo'n gyflawn ynddo'i hun gan adael y darllenydd felly'n sychedu am fwy; yn rhwystredig, mae'n angenrheidiol darllen ymlaen.

Gan fod y lon wedi ei gwahardd i drafnidiaeth anamaethyddol, ychydig o ymwelwyr sy'n treiddio i Val da Camp ar ochr ddeheuol Bwlch Bernina.

Roeddwn innau'n fwy bodlon, ond er hynny ni fentrais gysgu yn y camp bed am rai nosweithiau rhag ofn i rywun sylwi a chlebran wrth y Capten.

Camp, nid bechan.

Bod newid cywair mewn cystadleuaeth i'w anghymeradwyo, ac mai camp y datgeinydd yw cynhyrchu'r gyfalaw ynghylch cywair naturiol y gainc ac ynghylch ei lais.

Camp y garddwr yw dod i'w hadnabod yn dda fel na bo'n chwistrellu defnyddiau cemegol yn ddiangen.

Mor wir y gair, Lle bydd camp bydd rhemp...

Roedd y ddau feirniad, RH Parry-Williams a John Lloyd Jones, yn barod i gydnabod camp greadigol y bardd, ond yn amharod i roi iddo'r wobr.

O ystyried mai penodol yw cynnwys Llafar Gwlad, mae'n ymddangos fod y cylchgrawn hwn yn apelio'n eithaf cyfartal ar draws yr holl ystodau oedran - camp yn wir !

Mae chwaraewr canol-cae Ffrainc, Emmanuel Petit, ymunodd â Barcelona o Arsenal yr haf diwetha, wedi dweud ei fod eisiau gadael y Nou Camp.

Yno gyrasom neges i Lanilar i ddweud y byddem yn disgwyl cerbyd i'n cludo i'r bês-camp, ym Mhencader.

Gobaith Robert Croft yw y gall Morgannwg ailadrodd camp llynedd a chyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth.

Bwriad y Clwb yw hybu cydweithrediad ymhlith Cymry Cymraeg sy'n sgrifennu neu'n darlledu am chwaraeon; helpu i gyhoeddi llenyddiaeth am chwaraeon yn yr iaith Gymraeg ac anrhydeddu Cymry Cymraeg sydd ar frig eu camp.

Er iddo wadu'r cydraddoldeb sydd yn ymhlyg yn nysgeidiaeth Crist cam dybryd a gafodd y meddyliwr gonest hwn pan drodd y Natsiaid ei gred yn yr Uwchddyn i'w melin afiach eu hunain: yn y bon, ei orchfygu ei hun yw camp Uwchddyn Nietzsche a byw'n beryglus yn y meddwl, gan gefnu ar deganau gwael y dorf.

"Mae arnaf i eisiau'r camp bed 'na sy gyda chi, yr un gawsoch chi gan y Cyrnol." "Reit, syr," meddwn innau, yn hollol ddiniwed.

Rygbi: Rhaid cael agweddu mwy ymysodol Gwrandewch ar brif ganlyniadau dydd Sadwrn gan Camp Lawn --> Sialens Ffeil - profwch eich gwybodaeth Oriel sêr Cwmderi.

Y profiad oedd fy mod yn teimlo'n gorfforol (a pheidied neb â chredu mai pen chwyddedig oedd gennyf am fy mod yn credu o ddifrif fy mod wedi cyflawni camp) .

Camp fawr y cofiant hwn yw peri i ni, ddarllenwyr, rannu peth o'r boen ac ymdeimlo â'r dirgelwch.

Camp i ninnau ddeall eu gwasanaeth hwythau a lwyddodd i ddenu arian o goffrau Rupert Murdoch a Berlusconi ynghyd â chwmni adeiladu mawr.

"Evans, mae gen i camp bed ichi ­ mi fydd dipyn yn well na chysgu ar y llawr." Diolchais iddo'n wresog, a theimlwn fy mod yn cael braint fawr o gael cysgu mewn gwely iawn amheuthun o beth mewn lle fel Shamshuipo.

Ac yn drydydd, am iddo ymdrafferthu i adnabod ysgrifeniadau Morgan Llwyd a rhai o'i gydnabod pwysicaf, ac am iddo eu deall, camp nid bechan.

Dogfennwyd diddordeb Cymreig arall, sef chwaraeon, yn dda yn Camp Lawn a oedd yn cynnwys y cwis pop Cant y Cant, tra atgyfnerthwyd y sefyllfa leol ledled Cymru drwy gyfrwng nifer o sesiynau eithrio i gwmpasu chwaraeon mewn gwahanol rannau o'r wlad.