Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canghennau

canghennau

Ysgubodd canghennau'r dderwen i bob cyfeiriad ac yn raddol, dechreuodd ei boncyff symud.

Canghennau lleol

Rhwng canghennau coeden arall y mae tynnwr lluniau yr El Chubut wedi clwydo yn chwilio am y llun gorau i'w bapur.

Is-bwyllgor y Dysgwyr: Nid oedd yn bosibl i Eluned Bebb- Jones fod yn bresennol ond apeliodd, drwy'r Ysgrifennydd, am fwy o enwau o'r canghennau er mwyn symud ymlaen i gynnull yr Is- bwyllgor.

Dylai canghennau cylch Bangor ddod a'u Llyfrau Lloffion at Delyth Murphy a changhennau cylch Caernarfon at Mary Roberts, yr Is-ysgrifennydd Rhanbarth.

Rhwygodd y gwreiddiau a holltodd y canghennau dan y pwysau a gorweddodd y dderwen falch yma ar y ddaear.

Anfonwyd at y canghennau i'w hannog i sefyll mewn etholiadau lleol: nid anogaeth wreiddiol iawn, ond mae'r anogaeth yn llai pwysig na'r neges o'i blaen, sef bod y Tri yn y carchar am na wnaethai aelodau'r Blaid eu dyletswydd o ennill seddau ar y cynghorau lleol.

Bu'r pwyllgorau rhanbarth yn weithredol ym Morgannwg Ganol, De Morgannwg a De-ddwyrain Dyfed / Gorllewin Morgannwg, gan gydlynu gweithgareddau'r canghennau lleol.

Erys y canghennau, ac ynddyn nhw mae nerth y mudiad.

Bryd arall gelwid gweinidog i wasanaethu nifer o eglwysi, a chyfrannai pob un o'r canghennau tuag at ei gynhaliaeth.

Daw adar a gwiwerod i nythu yn ei changhennau; trychfilod fel cacwn, gwyfynnod, chwilod a gwiddonau i fwyta'r dail; eiddew, uchelwydd, cen, mwsogl, algae a ffyngau i ymosod ar y canghennau a'r rhisgl; adar, pryfed a mamolion i fwyta'r mes, a daw rhagor o bryfed i ymosod ar gwreiddiau sy'n ymestyn ymhell dan y ddaear.

heb betruso dim dringodd yn eon i ganol canghennau agosaf yr helygen, ac oddi yno fe 'i gollyngodd ei hun i lawr nes cael ei ddwy ar y gangen fawr uwchben y dyfroedd gwyllt gwyllt paid a bod yn ffŵl ^ l, ffred, gwaeddodd wil arno arno mae 'r afon 'na 'n ddofn cofia !

Cafwyd nawdd gan Awdurdodau Lleol ar gyfer y rhaglen i hyfforddi gwirfoddolwyr a chyhoeddi pecyn o adnoddau a llawlyfr gweithgareddau ar gyfer y canghennau.

Y Trysorydd: Cafwyd adroddiad manwl gan Beti ab Iorwerth a dywedodd fod yr arian wedi dod i law yn brydlon o'r canghennau.

Gwell ar y dechrau yw'r cysylltiad â grwpiau bach canghennau CYD, yn Gymry Cymraeg a rhai llai hyderus (boed yn Gymry Cymraeg neu ddysgwyr), er mwyn ennill hyder a phrofiad.

Ymestynnai'r canghennau'n fwa ar draws y ffordd ac yma ac acw dyma ddibyn serth neu graig ddanheddog yn ymddangos rhyngddynt, yn union fel rhyw anifail gwyllt.

Dan y canghennau.

"Mae angen ffeindio pethau sy'n gyffredin i'r genhedlaeth hŷn a'r ifanc." Mae'r mudiad eisoes wedi dechrau crelu 'canghennau' newydd i aelodau iau o dan yr enw Clybiau Gwawr ac mae Non Griffiths yn bwriadu parhau gyda'r polisi.

Sefydlwyd rhai canghennau newydd yn ystod y flwyddyn, yng Nghoed-poeth, y Bermo, Penrhyndeudraeth, Dyffryn Teifi, Wdig ac Abergwaun, Maesteg, y Rhondda, ail gangen yn Llanelli, a changen ymhlith staff Cyngor Dosbarth Castell Nedd.

Yr oedd canghennau dwy siop lyfrau fawr Toronto - Chapters ac Indigo - yn rhai a wnaeth argraff ddofn arnaf yn ystod ymweliad diweddar - fel y gwnaeth siopau tebyg yn yr Unol Daleithiau.

Chwylbro: Adroddodd y Llywydd fod y swyddogion rhanbarth wedi bod yn chwarae Chwylbro ym Machynlleth ym mis Ebrill ac anogodd bawb i drefnu cael y gêm yn eu canghennau.

Nid oedd aelodau'r rhanbarth yn frwdfrydig iawn yngl^yn a'r syniad a phenderfynwyd anfon yr ambarel o gwmpas y canghennau er mwyn gweld a fyddai aelodau unigol yn barod i brynu un.

Ymhellach mynegwyd y farn ein bod yn gofalu am ein canghennau ni yn gyntaf cyn rhannu arian i elusennau eraill.

a) Cydlynu a chefnogi rhwydwaith gweithgareddau'r canghennau lleol drwy ymweld â hwy'n gyson yn ogystal â threfnu gweithgareddau ar y cyd i holl ganghennau'r ardal, megis nosweithiau Cabaret, a theithiau i Sain Ffagan.

'Pan ddychwelodd y canghennau eu ffurflenni...' Ffurflenni?