Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canlyn

canlyn

Wrth siarad ag Aled, deallais fod Hywel ei frawd yn canlyn merch a adwaenwn i yn dda, sef Beti Moeladen Moeladda fel y galwem hi a honno'n digwydd bod yn gyfnither imi.

Ni welais erioed deulu yn canlyn John ond ymgeleddai rhywun ef yn aml o barch i'w deulu mae'n siwr.

Gwaeddodd ar y dyn oedd yn canlyn ceffyl: "Tyrd â'r ceffyl i symud rhain!" Aeth hwnnw i'r stabl oedd yn weddol agos, ac yna dod yn ei ôl heb y ceffyl.

A dyna fi, yn hollol anfwriadol, wedi taflu dþr oer ar yr 'ha ha' a minnau wedi bwriadu codi'ch calonnau chi, a f'un innau i'ch canlyn.

Canlyn ceffyl yn y chwarel oedd gwaith cymeriad arall, a'r ddau - y dyn a'r ceffyl yn deall ei gilydd i'r dim.

canol a rhyw bump ohonom yn y tu ol wedi ein cau i gewn efo drws bach twt a'n brawd Madryn Gwyn ar gefn ceffyl yn canlyn y trap mawr.

Nid yw tatws eu hunain yn peri ennill llawer o bwysau, yr ymenyn y grefi neu saws a fwyteir i'w canlyn sy'n ychwanegu caloriau.

Yr haf hwnnw, penderfynodd y pâr fynd ar wyliau i Sbaen, a doedd byw na marw gan yr hen wraig na fuasai hithau yn cael mynd i'w canlyn.

Yna canlyn Cerrig Llwyd y Rhestr, rhyw gramen o graig sy'n brigo i'r wyneb am ryw filltir, i Lyn Carw.

"Ma gin i ishio llonydd hefo nghinio." Trodd y dyn canlyn ceffyl o'r swyddfa'n siomedig a mynd yn ôl at ei waith wedi'r derbyniad swta yma.

Yr adeg hynny roedd nifer o fechgyn o Benmaenmawr wedi dechrau canlyn genethod 'dros y Clip'.

Ddywedodd yr athro yr un gair yn ôl na blaen, dim ond canlyn ar y wers fel petasai dim wedi digwydd.

Roedd rhai o'r bechgyn a'r dynion a oedd yn 'canlyn ceffyl' - fel y cyfeirid at y gwaith - yn gymeriadau parod eu hateb yn aml, ac mae rhai straeon amdanynt yn dal i gael eu hadrodd yn yr ardal hyd heddiw.

Ar yr union eiliad honno pwy ddaeth heibio iddynt ond un o r stiwardiaid a gofyn i'r dyn: "Be sy'n bod ar y ceffyl 'ma gin ti?" A'r llall yn ei ateb ar drawiad megis: "Newydd gal golwg ar 'y mhapur setlo i mae o!" Cyflog digon gwael a gai y rhai a fyddai'n canlyn ceffyl yn aml, a'r papur setlo' oedd yn dangos maint hwnnw ar ddiwedd pob mis o weithio.

Ple bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd, yno yr aent hwythau hefyd; ac fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

Pe byddai'r aeron yn cael eu cario i'r tŷ deuai Iwc dda i'w canlyn.

Er mor neis oedd y sowldiwr bach yna, roedden nhw wrth eu bodd ei bod yn canlyn Cymro.

Diau fod naws unig eu cynefin nythu ar diroedd anial y gogledd pell yn eu canlyn i aeafu yma yng Ngwledydd Prydain.

Pan symudai'r naill, fe symudai'r llall; pan safai'r naill, fe safai'r llall; pan godai'r creaduriaid oddi ar y ddaear, fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd bod ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.

Mewn rhan arall o'r un chwarel roedd yna gymeriad arbennig yn canlyn ceffyl ac un diwrnod aeth i swyddfa'r chwarel i weld y prif oruchwyliwr i ofyn am godiad yn ei gyflog.

Llawer gwaith y bu+m yn eu canlyn i Lundain nes y deuthum i wybod y ffordd yn iawn.

Cofiai amdani'n dwyn cyffuriau cysgu i Stuart pan oeddan nhw'n dechrau canlyn.