Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canoloesol

canoloesol

Yn aml fe elwir Cymru yn 'Wlad y Cestyll' ac mae'n llawn haeddu'r enw gan ei bod yn gartref I rai o enghreifftiau mwyaf arbennig a phwysicaf Ewrop o adeiladwaith canoloesol.

Bu deall y darlun hwn yn dipyn o benbleth i'r esbonwyr, a'r duedd fu edrych arno fel enghraifft o barodrwydd y mynaich canoloesol i weu chwedlau er hyrwyddo eu buddiannau eu hunain.

Ysywaeth, mae'n debyg na fydd yr argraffiad presennol yn mwynhau'r un math o gylchrediad eang a chroeso cyffredinol ag a gafodd stori%au'r Greal yng Nghymru ac Ewrop yr oesoedd canol, aeth y chwedlau a roddodd gymaint o fwynhad i'n cyndadau canoloesol bellach yn faes academaidd bur.

Ar ei ddychweliad i Fangor gofynnwyd i'r darlithydd newydd draethu ar amryw bynciau, gan gynnwys Gramadeg Hanesyddol, y chwedlau canoloesol a pheth o lenyddiaeth Oes Victoria.

Er bod diffyg tystiolaeth ynglŷn â chefndir hanesyddol y saint, y mae eu dylanwad ar y meddylfryd canoloesol yn hollol sicr.

Roedd y golau mor gryf nes bod Meic yn gorfod codi ei law i gysgodi'i lygaid, a dyna pryd y sylwodd ei fod yn gwisgo maneg ledr drom, fel dyrnfol marchog canoloesol.

Roedd un o brif lysoedd tywysogion Gwynedd yn Aberffraw, ac mae hanes canoloesol y pentref hwn wedi ei arddangos o amgylch Llywelyn a'i orsedd.