Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

canolog

canolog

A thrwy'r cwbl, y mae rhywbeth hoffus yn ei ddiniweidrwydd ac ni ellir ond rhyfeddu at ei ymgysegriad i waith canolog ei fywyd - pregethu.

Byddai'n ddigon hawdd llunio beriniadaeth weddol arwynebol ar y ffilm hon a'i gadael hi ar hynny: miwsig nostalgaidd Michael Storey; actio gafaelgar Iola Gregory a Dafydd Hywel; adeiledd carcus-dynn y ffilm a delweddau canolog y madarch a'r rhosod; y garreg fedd glyfar ar ddiwedd y ffilm ar ddelw sgrin sinema a'r geiriau THE END yn cloi'r llun yn daclus thematig...

Gosodwn (neu gadarnhawn) yn flynyddol yn y Cyfarfod Cyffredinol ein prif feysydd ymgyrchu canolog am y flwyddyn ganlynol.

yr hon oedd yn edrych ar y cwbl trwy ffenestr ei pharlwr.' Rhaid cymharu'r dull awdurdodol, diymhongar hwn, sydd yn nodweddiadol o Hiraethog wrth iddo drin digwyddiadau sydd heb berthynas â'r rhai canolog, â'r dull anuniongyrchol a ddefnyddia i drin mater y briodas:

Wrth gwrs y bydd yna gyrff canolog i gydlynu polisi a chyllidebau, ond cyrff i ateb gofynion y cymunedau fydd rheiny.

Y peth pwysig yw fod pobl yn cofio pwynt canolog y stori - cofiwch eich bod chwithau'n cadw eich gair!

Ni fydd hyn yn tanseilio hawl ein celloedd lleol a'n rhanbarthau i drefnu ymgyrchoedd i amddiffyn buddiannau cymunedau lleol yn ogystal â chefnogi ymgyrchoedd canolog yn yr ardal.

Byth oddi ar amser cyfraniadau nodedig Johannes Weiss ac Albert Schweitzer at yr astudiaeth o Iesu Hanes bu'n rhaid i'r ysgolheigion hynny a fu'n credu fod yr astudiaeth yn debyg o ddwyn ffrwyth dderbyn y gwirionedd nad oes fodd deall pwrpas a gwaith yr Iesu heb roi lle canolog i'w ddisgwyliad eschatolegol.

O'r defnyddiau hynny yr oedd i'r Gymraeg le canolog.

Sicrhau fod ysgolion yn derbyn gwasanaethau cefnogol canolog y maent eu hangen.

Gartref, yn Rhosgadfan, Kate oedd aelod canolog y teulu.

Felly gwelir fod y Testament Newydd yn defnyddio amrywiaeth o drosiadau, bron bob un ohonynt yn deillio o syniadau yn y grefydd Iddewig, i ddisgrifio gwirionedd canolog iachawdwriaeth drwy Grist.

Sefydlwyd perthynas dynoliaeth ag adnoddau adnewyddol ac anadnewyddol ein planed, yn bwnc canolog ar lefel ein milltir sgwâr ac ar lefel y pwerau mawrion.

sylweddolwn mai trosiadau yw'r atebion amrywiol, trosiadau yn darlunio'r un gwirionedd canolog sef iddo farw er mwyn i ni gael byw.

Nid oes digon o sylw yn cael ei roddi i'n gwybodaeth o'r hyn yr ydym yn ceisio ei fesur, ac ni ddylai natur arbrofol llawer o'n ffeithiau canolog gael ei boddi gan geinder techneg fodem economeg.

Menter newydd a chyffrous iawn yw rhoi lle canolog i'r Gymraeg ym mywyd llywodraeth Cymru a dylai hynny fod ar y sail bod y Gymraeg a'r Saesneg yr un mor ddilys â'i gilydd o ran eu statws annibynnol.

Wedyn byddai'r gair dirprwyadaeth yn gyfeiliornus gan ei fod yn awgrymu mai ar ewyllys da'r awdurdod canolog y mae hawliau'r awdurdod mwy lleol yn dibynnu, tra bo'r egwyddor yn pwysleisio fod gan yr awdurdod lleol yntau hawliau.

Staff Arbenigol Canolog

Yn olaf, roedd yna arwyddion bod yna wain ganolog yn amgylchynu'r ffibrilau canolog a bod yna gysylltiadau rhwng y wain hon a'r ffibrilau perifferol.

Hynny yw, dau ffibril canolog a naw ffibril perifferol, i gyd wedi eu hamgau mewn gwain gyffredin yn cynrychioli pilen y gell.

"Mae yna lot o bethe r'yn ni'n gallu uniaethu 'da," meddai un arall o'r cymeriadau canolog, Dafydd Huws, sy'n arwain eisteddfod yn arddull gemau teledu.

Y peth canolog a wna baban yw adeiladu'r frawddeg hon (neu amrywiad arni), a dysgu amrywio o fewn ei rhannau.

Dyrennir cyllid ar gyfer staffio canolog y canolfannau ar wahân i'r cyllid a glustnodir ar gyfer projectau.

Er mwyn sicrhau y bydd modd gwerthuso'r ceisiadau'n deg, disgwylir i'r cyfarwyddwr nodi seiliau'r costau canolog.

Fe'i disgrifiwyd fel 'digwyddiad canolog Cymru yn yr ugeinfed ganrif'. Stalin yn ennill grym.

I ddechrau, dywed rhai fod cyfnod o ddatblygiad economaidd chwim yn anhepgor ar ôl dinistr rhyfel; a bod hyn, yn enwedig yn Ewrop a Japan, wedi bod yn sbardun canolog i dwf economaidd.

Y syniad poblogaidd oedd bod rhai o'r ffibrilau yn gyfangol, tra bod eraill, y rhai canolog o bosibl, yn gymorth i ddargludo ergydynnau ar hyd y siliwm.

Darganfuwyd hefyd fod tuedd y ddau ffibril canolog yn gysylltiedig a phlan curo'r swiliwm.

Yn lle'r holl swyddi cyfredol eraill ar y senedd, cadarnhawn y bydd angen y swyddi canolog canlynol: (i) golygydd 'Y Tafod'; (ii) trysorydd; (iii) swyddog masnachol a fyddai'n gyfrifol am fentrau; (iv) swyddog adloniant; (v) is-gadeirydd gweinyddol.

Roedd un gair, meddai, sef y gair 'sŵn', yn hanfodol i fodolaeth syniad canolog y delyneg; ac o'r fan honno, lle'r gair hwnnw yn y bedwaredd linell, yr oedd yn rhaid cychwyn:

Fe'i disgrifiwyd fel 'digwyddiad canolog Cymru yn yr ugeinfed ganrif'.

Buddiol yn ein barn ni, felly, yw gwahaniaethu rhwng swyddogion project a staff arbenigol canolog.

Yn y ddau waith, yr hyn y ceisir ei ennyn ynom yw'r argyhoeddiad fod y cylch canolog o gymeriadau'n 'iawn', mai ynddynt hwy y costrelwyd prif egwyddorion y traddodiad, a'u bod yn benderfynol o herio gydag angerdd cyfiawn y grymoedd hynny sydd ar fin rhuthro fel cenfaint o foch a sathru'r egwyddorion santaidd.

Y ddau flodyn canolog.

Felly, os tynnir llinell trwy'r ddau ffibril canolog, mae cyfeiriad y curo bob amser ar ongl sgwar i'r llinell hon.

Ond mater arall yw mentro i Dyffryn Ogwen ym mis Tachwedd bryd hynny, rydych angen gwres canolog effeithiol a thrwch o ddeunydd insiwleiddio o'ch cwmpas rhwng y gragen fewnol a'r gragen allanol.

Gwyddai'r Dirprwywyr yn burion beth oedd pwysigrwydd canolog iaith ble bynnag y byddent, yn Lloegr a Chymru fel ei gilydd.

a chynnau'r tân nwy neu swits y twymydd canolog.

Y mae'r rhan fwyaf ohonynt â gardd ac â garej, ac y mae'r rhai ohonynt â gwres canolog a system insiwleiddio da.

Mae'r syniad canolog yn ddigon amlwg.

Lled y llestr i fesur traean uchder y brigyn canolog.

Pa bynnag strwythur a ddewisir, dylai egluro ac nid effeithio ar y ffocws canolog megis y safonau cyrhaeddiad, ansawdd y dysgu ac ansawdd yr addysgu.

Pwysau canolog ar Rod Richards; Crynhoi cefnogaeth dros Gyngor Addysg i Gymru. Cyhoeddwyd a dosbarthwyd poster 'Rod Richards - Unben Addysg Cymru' angen eu codi'n ehangach.

Bydd pob grŵp ymgyrchu canolog yn cael ei gynrychioli ar y senedd gan ei gynullydd, ynghyd ag unigolion penodedig a fydd yn gyfrifol am y dair elfen hanfodol: ymchwil a pholisi; cyfathrebu a lobïo; gweithredu.

Naturiol felly oedd i hapfasnachwyr fod yn orawyddus i brocio ambell i fanc canolog gorgeidwadol.

Maen amlwg ei fod wedi mwynhau holi rhai o gymeriadau canolog y sîn fel Rhys Mwyn a Iestyn George, a chynhyrchwyr ac aelodau o gwmnïau hyrwyddo - nifer o unigolion fuodd o gymorth wrth i Catatonia gael ei lansio ar lwyfannau neuaddau bach cefn gwlad Cymru ac yna i sylw rhyngwladol.