Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cap

cap

Roedd tri yn yr iwnifform a ddangosai i'r byd eu bod yn berchnogion cwch, cap pigloyw, crafat, blaser las a throwsus fflanel gwyn.

Daeth yn ei ôl y tro hwn hefo cap Alphonse.

Cofiaf un flwyddyn mai "Fflat Huw Puw% oedd y gân a llwyddodd i gael cwch go iawn i ni ar y llwyfan, a ninnau'n gwisgo cap pig gloyw a souwester.

Os oedd ei eirie'n ein synnu, felly hefyd ei weithredoedd ac o fewn llai na phythefnos i'r mab afradlon ddychwelyd adre roedd yn enwi ei garfan gynta un a honno'n cynnwys cymaint ag wyth chwaraewr oedd heb enn;lll cap llawn i Gymru o'r blaen.

Rhoddodd Elis Robaitsh eitha slaes iddo hefo'r cap stabal a llithrodd Pero dros ben yr olwyn i'r ffos.

Dydd Mawrth, Mehefin 6, 2000 It's only for kids really, meddai gwraig benwyn mewn cap polethin.

ond does yna'r un cap newydd.

Roedd hi'n anodd dychmygu'r hen wraig honno a edrychai mor Gymreig a thraddodiadol â hen fenyw fach Cydweli, gyda'r siôl frethyn coch, a'r sgert frasddu, yr hen wraig â'i gwar esgyrnog yn grwm wrth iddi blygu'n dawel dros ei thro%ell, a'i phen yn frith dan y cap gwau, anodd oedd dychmygu honno'n deisyfu dyn!

Pan ddaeth yr amser i ni fynd adref, safai John Jones wrth y drws allan yn fy nisgwyl, a'm cap ganddo yn ei law.

"O mam bach!" mwmialodd Morfudd, a cheisio stwffio'r cudynnau gwallt yn ôl dan y cap.

Ddaru Anti Nel nabod cwch Uncle Danial ar unwaith - "Pluan Wen" ydi 'i enw o - a dyna lle roedd o wrthi'n dadlwytho pysgod, a'r cap doniol 'na sgynno fo yn gam ar ei ben.

I raddau helaeth ymateb i argymhellion y llywodraeth 'roedd y ffermwr unigol - datblygwyd peirianwaith eang o grantiau a chyngor ac o addysg, yn wreiddiol dan adain Llundain, ac yn ddiweddarach o dan ddylanwad Brwsel a'r Polisi Amaeth Cyffredin (PAC/CAP).

Gallai ei dychmygu'n awr, yn gorwedd yn ddu ar ochr y mynydd yn y fan acw, a niwl fel cap llwyd am ei phen, fel rhyw hen wrach yn gwneud hwyl am ei ben, ac yntau;'n ymbalfalu tuag ati ar foreau tywyll fel hyn, a dim gwaith i ddechrau arno yn oerni'r bore; dim ond mynd o gwmpas a'i ddwylo yn ei boced i fegera.

Cyrhaeddodd Ieuan ei hanner canfed cap yn ei wythfed tymor rhyngwladol.

Mi fu+m yn gwisgo cap ond 'roedd yn gas gen i hetiau.